Sinema Galeri'n gwahardd pobl ifanc heb oedolyn wedi cwynion ymddygiad

Mae newidiadau dros dro i bolisi mynediad Galeri wedi cwynion bod rhai pobl ifanc yn camymddwyn yn ystod dangosiadau hwyr y sinema
- Cyhoeddwyd
Mae sinema yng Ngwynedd wedi gwahardd pobl dan 16 oed rhag gwylio ffilmiau sy'n cael eu dangos wedi 19:00 oni bai eu bod "yng nghwmni oedolyn cyfrifol".
Cyhoeddodd sinema canolfan Galeri yng Nghaernarfon eu bod yn cyflwyno "newidiadau dros dro" ar ôl "derbyn mwy a mwy o gwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol gan rai pobl ifanc yn ein sgriniau sinema".
Roedd y cwynion yn cynnwys "difrodi seddi, gweiddi ar gwsmeriaid, ffilmio yn y sgriniau a bod yn fygythiol".
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Galeri bod sefyllfa'n "peri pryder mawr i ni fel canolfan, gan ein bod wrth ein bodd yn gweld pobl ifanc yn dod drwy'n drysau ac yn teimlo'n rhan o fwrlwm Galeri".
Sinema newydd am 'ddenu mwy' i Galeri
- Cyhoeddwyd21 Medi 2018
Galeri Caernarfon yn penodi prif weithredwr newydd
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2024
Dywedodd datganiad y ganolfan eu bod "gyda chalon drom, yn cyflwyno rhai newidiadau dros dro i'n polisïau cynulleidfaoedd er mwyn sicrhau profiad pleserus i bawb".
Dan y trefniant newydd, os nad oes oedolyn cyfrifol yn bresennol, neu os nad oes modd i berson ifanc brofi eu bod dros 16 oed, "ni fydd modd cael mynediad i'r sinema".
Ychwanegodd y datganiad: "Rydym yn ymddiheuro'n fawr am hyn, ac yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth.
"Hoffem bwysleisio mai trefniant dros dro yw hwn, a byddwn yn monitro'r sefyllfa'n agos wrth i ni weithio tuag at ddatrysiad hirdymor."
'Waeth ers y pandemig'
Dywed yr adolygydd ffilm Gary Slaymaker ei fod yn mynd i ddangosiadau bore i osgoi ymddygiad gwrthgymeithasol.
Mae'n teimlo bod y fath ymddygiad wedi gwaethygu ers y pandemig.
"Pan roedd y sinemâu ar gau, troi at Netflix wnaeth llawer ohonon ni ble gallech chi fynd ar eich ffôn a gwneud sylwadau am ffilm tra'n gwylio.
"Rwy'n euog fy hun o wylio'r teledu a defnyddio fy ffôn ar yr un pryd ond mae yna wahaniaeth rhwng gwylio ffilm gartre' yng nghwmni teulu [a mynd i'r sinema]."
Mae wedi sylwi bod mwy o bobl yn defnyddio'u ffonau yn y sinema, gan awgrymu bod hynny yn sgil "newidiadau yn rhychwant sylw pobl".
Y rhai sy'n ymddwyn waethaf mewn sinema, yn ei brofiad yntau, yw pobl "ifanc iawn neu hen iawn".

Ychwanegodd Gary Slaymaker ei fod wedi gofyn wrth bobl i stopio siarad yn ystod ffilm yn y gorffennol, yn hytrach na dweud wrth aelodau staff.
Mae'n dweud mai myfyrwyr yn aml mewn swyddi rhan amser yw'r staff hynny a "ddylie nhw ddim orfod wynebu'r nonsens yma".
Ond mae'n cydnabod bod yna risgiau wrth herio unigolion swnllyd yn uniongyrchol oherwydd "chi byth yn gwybod pwy ry'ch chi'n eu hwynebu".
Awgrymodd y gallai cloi ffonau symudol mewn bocs yn ystod ffilm fod yn help i wella profiad pawb yno
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.