Arestio menyw ar ôl ymosodiad ym Mhontcanna

Esso, Heol y GadeirlanFfynhonnell y llun, Google
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 57 oed yn parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty ar ôl ymosodiad ym Mhontcanna yng Nghaerdydd, oriau mân fore Mercher.

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i'r digwyddiad, a gafodd ei adrodd tua 02:30 ar Heol y Gadeirlan, ger gorsaf betrol Esso.

Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, lle mae'n parhau i dderbyn triniaeth feddygol.

Mae menyw 41 oed wedi'i harestio ar amheuaeth o glwyfo bwriadol ac o ymosod ar weithiwr argyfwng.

Mae'r heddlu'n dweud bod y rhai oedd yn gysylltiedig â'r digwyddiad yn adnabod ei gilydd a bod ymholiadau'n parhau.