CBAC yn ymddiheuro am gamgymeriad mewn papur TGAU Cymraeg

- Cyhoeddwyd
Mae corff arholi CBAC wedi ymddiheuro am gamgymeriad mewn papur TGAU Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth, gan ddweud na fydd unrhyw ddisgyblion "o dan anfantais".
Roedd enw cymeriad a gafodd ei henwi mewn cwestiwn ar y nofel "Llechi" gan Manon Steffan Ros yn anghywir yn y papur a gafodd ei sefyll gan ddisgyblion fore Llun.
Yn hytrach na chyfeirio at y cymeriad DCI Karen Davies, roedd y cwestiwn i'r disgyblion fu'n astudio'r nofel "Llechi" yn cynnwys enw gwahanol - DCI Karen Evans.
Aeth rhai rhieni a disgyblion ar y cyfryngau cymdeithasol i gwyno, gydag un yn dweud ei fod wedi "chwalu ein hyder cyn dechrau".
Dywedodd CBAC bod "digwyddiad o'r fath yn rhywbeth prin iawn, ac rydym yn cymryd y mater hwn o ddifrif".
'Adolygu ein prosesau'
"Hoffai CBAC ymddiheuro am y gwall wnaeth effeithio ar rai myfyrwyr oedd yn ateb ar un rhan o'n papur TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg," meddai llefarydd.
"Er ein bod yn cynhyrchu nifer sylweddol o gwestiynau arholiad bob blwyddyn, mae digwyddiad o'r fath yn rhywbeth prin iawn, ac rydym yn cymryd y mater hwn o ddifrif.
"Byddwn yn parhau i adolygu ein prosesau er mwyn sicrhau nad yw rhywbeth o'r fath yn digwydd eto.
"Hoffem roi sicrwydd i fyfyrwyr bod gennym weithdrefnau cadarn yn eu lle i sicrhau na fyddant o dan unrhyw anfantais ac y byddant yn cael eu trin yn deg.
"Caiff ystyriaeth ofalus ei rhoi i bob ateb arholiad yn ystod y broses farcio a graddio er mwyn gwneud yn siŵr bod y canlyniad mae myfyrwyr yn ei dderbyn am eu cymhwyster yn un teg."
Dyma'r arholiad cyntaf ar gyfer y cwrs TGAU Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth newydd ar ôl i gymwysterau gael eu diwygio yn sgil y cwricwlwm newydd.
Disgyblion Blwyddyn 10 yn bennaf fu'n sefyll y papur.
Mae pryderon eisoes wedi eu codi am bwysau ychwanegol ar ddisgyblion ac athrawon oherwydd y newidiadau i rai o'r cymwysterau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2025

- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2025

