Archifau 3 Mawrth 2009

Cwestiynnau i Cian SFA

Categorïau:

Gareth Iwan|10:32, Dydd Mawrth, 3 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Helo bobol

Dwi'n cael wythnos brysur iawn, ond wythnos hynod o ddifyr. Bnawn Sul nes i recordio sesiwn hefo Mr Huw oedd yn lot o hwyl! Mi oedde nhw'n amlwg wedi bod yn ymarfer (a gigio) yn aml achos mi oedde nhw'n hynod broffesiynol ac yn gret gweithio hefo nhw. Mae na dair can, fydd ar raglen Lisa nos Wener. Bydd y caneuon hefyd ar wefan C2, gyda fideo fach o'r recordio. Ma nhw'n ganeuon tywyll o ran y geirie, ond fel arfer hefo Mr Huw, mae'r

Heno, dwi'n recordio ail raglen Steffan Cravos, a'r gwesteion fydd Hoax a Dybl-L, a da ni'n gobeithio cael rywfaint o free-steilio gan y ddau!

Nos Iau, mae Dyl Mei am ddod i mewn am awr ra raglen Lisa i edrych yn ol ar ei gyfnod yn Stiwdio Blaen y Cae, ac mi fydd o'n dewis ei ffefrynnau o'r CDs recordiwyd yno.

Nos Wener, fel dwi di son, bydd na na sesiwn gan Mr Huw nos Wener, ond HEFYD, bydd Cian o'r SFA hefo ni yn son am yr album newydd. Os oes ganddoch chi gwestiynnau i Cian gadewch nhw fel sylwadau yn fama plis, ac fe driwn ni ofyn un neu ddau wrth Cian ar y rhaglen.

Cofion

Gar

Milch, Milch, Limonade. Um die Ecke Schokolade

Categorïau:

Daniel Glyn|09:23, Dydd Mawrth, 3 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Helo i fy ffrindiau Almaeneg. Mae wedi bod yn gyfnod prysur, wrth i mi wneud fy ngorau glas i osgoi y rygbi. Am unwaith yn fy mywyd, fi oedd y Cymro mwya rhamantus ar ddydd San Ffolant, achos i mi fynd i ffwrdd am benwythnos gyda'r missus, a chadw'n glir o'r rygbi. Nos Wener dwetha, teithiais yn ôl yn y car o "Uned 5" yn ystod gêm Cymru a Ffrainc. Diolch byth am y diffyg signal radio ar yr A470 dduda'i! Ymunais â grwp 'I hate Welsh rugby' ar Facebook, cyn i mi sylweddoli ei fod wedi ei greu gan ffans chwerw peldroed Cymraeg, a ma rheina'n medru bod yn waeth na ffans rygbi. Felly ymunwch â fi bob nos Fercher, lle fyddai ddim yn trafod rygbi o gwbl. Nos Fercher yma, fydd y gitarydd a'r 'living legend' Myfyr Isaac yn y stiwdio, yn trafod ei yrfa yn y ffurfafen sioe fusnesol, gan gynnwys fod yn gyfarwyddwyr cerddorol i Dewi Pws. A wythnos nesa? Wel, dyma ichi gliw. Yr Arglwydd yw fy mugail....