Archifau 25 Chwefror 2009

Bywyd yn Barti!

Glyn WiseGlyn Wise|18:32, Dydd Mercher, 25 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

Hi! Dim cysgu, dim ond partio! Dyna oll dwi wedi ei wneud wythnos yma. Mae fy iau yn sgrechian, Na Glyn dim mwy! Hahaha! Dyna yw bywyd coleg, mae o'n brilliant. Er hynny, fe wnes gyflwyniad Sbaeneg 8 munud, ar bwysigrwydd dwyieithrwydd yn y byd gwaith. Fe wnaeth y iaith lifo oddi ar fy nhafod, er weithiau roeddwn yn dweud pethau nad oedd yn gwneud synnwyr. Ond, dywedodd yr athrawes 'Muy Bien' ar y diwedd, felly, popeth yn iawn.

Ond, mae'r holl bartio wedi cael effaith ar fy ngradd yn y Gymraeg.

Rwyf wedi methu y dyddiad cau y gwaith cwrs, a does gen i dal ddim traethawd i'w roi fewn! Ugh!

Gormod o waith. Felly, Glyn Wise - Y Swot. Dyna fydd fy enw wythnos nesaf, cysgu a gwaith cartref dyna yw'r plan ar gyfer wythnos nesaf! Hwyl am y tro,

Glyn xx

Strangetown....

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|17:15, Dydd Mercher, 25 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

Helo,

Dwi'n byw mewn ardal o Gaerdydd or enw Grangetown. Mae'n fab. Dwi wrth fy modd byw yna. Ond doeddwn ni ddim yn ymwybodol bo trigolion eraill Grangetwon yn caru fi - ond mae'n debyg bo nhw, achos erbyn hyn ma' pobol yn dechre enwi eu siopau ar fy ôl!

Magi2.jpg



M x



Rhaglen Steffan Cravos heno

Categorïau:

Gareth Iwan|14:15, Dydd Mercher, 25 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

Helo bobol

Os da chi'n licio'ch hip-hop, bydd na wledd ar ein cyfer heno am 10pm - Steffan Cravos yn cyflwyno awr o rap a beat-boxio gwych. Ma na dracia gan artistiaid cyfarwydd iawn i wrandawyr C2 fel Genod Droog a Cofi Bach a Tew Shady, a rhai fydd efallai'n newydd i chi (roedde nhw i mi beth bynnag) fel Saipan Supa Crew a Razhel.

Mae'r rhaglen wedi ei recordio'n barod, achos heno dwi'n mynd draw i Bwllheli ar gyfer gig Gai Toms. Da ni'n recorido'r noson gyfa', a bydd y gig i'w glywed ar C2 yn fuan.

Cofion

Gar