Adroddiad newyddion am argraffiad olaf y papur newydd News Of the World
Description
Adroddiad newyddion o 2011 am argraffiad olaf y papur newydd News Of the World. Ceir mwy o wybodaeth am y sgandal hacio ac ymchwiliad Leveson yn ogystal â golygfeydd o Wapping ar ddiwrnod olaf y staff.
Classroom Ideas
Gofynnwch i’r disgyblion wneud ymchwil unigol ar Ymholiad Leveson ac yna ysgrifennu adroddiad cyn gwneud gwaith grŵp yn seiliedig ar y gwrandawiad. Trafodwch swyddi perchennog, pennaeth a golygydd papurau newydd a’u cyfrifoldebau. Holwch faint o ddylanwad mae’r papurau yn eu cael ar y cyhoedd. Yna, gellir trafod disgwyliad y gynulleidfa ac ym mha ffyrdd maent yn cael eu twyllo. Gofynnwch i’r disgyblion werthuso cryfderau a phwerau papurau newydd heb anghofio am eu gwendidau. Holwch y disgyblion am eu teimladau am sgandal hacio ffonau News of the World.