Plot a chymeriadau stori fer Plant gan Dylan Iorwerth
Mae’r stori fer Plant gan Dylan Iorwerth yn stori am afiechyd creulon yn lledu trwy’r wlad ac ymdrechion dau barafeddyg i gynorthywo’r plant sâl a gwneud synnwyr o’r sefyllfa frawychus.
Gwylia: Plot a chymeriadau Plant
Plot a chymeriadau stori fer Plant gan Dylan Iorwerth
Stori fer ydy Plant gan Dylan Iorwerth. Yn y ffilm hon, byddwn ni’n trafod plot a chymeriadau’r stori.
Beth am ddechrau gyda’r plot.
Yn y stori, mae salwch dirgel yn effeithio ar blant ledled y wlad ac yn eu gwneud nhw’n sâl iawn. Dyma realiti un plentyn yn y stori, “…crafangu am anadl, a'r crachod yn lledu tros ei gorff, fel staen.”
Cawn glywed am ymdrechion dau barafeddyg wrth iddynt gludo plant i’r ysbyty ar frys, “… munudau oedd ynddi i’w cadw nhw’n fyw.”
Does dim digon o staff, adnoddau na gwelyau i drin y plant sâl. Ar un alwad, mae’r parafeddygon yn mynd i ysgol ac yn sylweddoli mai merch un ohonynt ydy un o’r cleifion. Mae hyn yn creu tensiwn gan mai dim ond lle i un sydd yn yr ambiwlans. Daw’r stori i ben heb i ni wybod beth sy’n digwydd nesaf, ond mae awgrym o obaith gan nad ydy’r ferch wedi marw. “Ond mi wyddwn hefyd, wrth wyneb ei mam, ei bod hi’n dal yn fyw.”
Dyna’n fras yw’r plot – ond beth am y cymeriadau?
Y ddau barafeddyg ydy’r prif gymeriadau – y parafeddyg gwrywaidd, sy’n adrodd y stori, a’i gydweithwraig. Mae’r ddau yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu, er gwaetha’r rhwystrau.
Mae’r storïwr yn ofalgar tuag at y cleifion, ac yn berson egwyddorol. Mae’n trafod y ffaith mai’r byd modern a thlodi sydd wedi arwain at y salwch. Mae’r storïwr yn dweud ei fod “yn ddigon hen ffasiwn i gredu o hyd y dylai pawb gael yr un cyfle.”
Mae’r parafeddyg benywaidd yn gymeriad sy’n fwy ofnus ac emosiynol na’r storïwr, ac yn colli ei thymer wrth wneud ei gwaith. “Sym y diawl gwirion… Iesu mawr!”
Ond un peth sy’n gyffredin i’r ddau gymeriad, yw eu bod yn benderfynol o achub y plant. “Dal i fynd. Drïwn ni. Munud neu ddau eto.”
Teimlwn banig a straen y parafeddyg benywaidd wrth iddi sylweddoli mai ei merch ei hun, yw un o'r plant sy’n sâl yn yr ysgol, “a phan drodd hi rownd, doedd dim angen gair.”
Er mai Plant yw teitl y stori fer, nid ydym yn dod i adnabod unrhyw blentyn fel cymeriad yn y stori. Er hynny, y plant yw’r sbardun sy’n annog y parafeddygon i weithio’n galed – a nhw yw canolbwynt y stori.
Pwy yw'r cymeriadau yn y stori?
Dau brif gymeriad sydd i’r stori hon - y parafeddyg gwrywaidd sy’n adrodd y stori a’i bartner gwaith, sef y parafeddyg benywaidd sydd wrth ei ochr trwy’r digwyddiadau.
Y Parafeddyg Gwrywaidd
Mae’n weithiwr profiadol, ymdrechgar a phroffesiynol ei agwedd. Fe yw gyrrwr yr ambiwlans. Gall aros yn dawel a doeth mewn sefyllfaoedd anodd, ac mae’n dal ati i wneud ei orau beth bynnag yw’r rhwystrau sy’n ei wynebu.
Cydweithia’n dda iawn gyda’i bartner gwaith yn yr ambiwlans. Maen nhw’n dîm sy’n cefnogi ei gilydd o hyd. Mae e’n dad i un bachgen yn ei arddegau ac mae’n ymwybodol iawn o broblemau cymdeithas.
Nid yw’n dlawd fel haenau eraill y gymdeithas, ac mae ganddo egwyddorion cryf a syniadau eithaf hen ffasiwn am sut i fagu plant.
Tafodiaith ogleddol sydd ganddo, ee “Pam rŵan?”
Y Parafeddyg Benywaidd
Mae hi’n bartner gwaith profiadol i’r parafeddyg gwrywaidd. Cawn y teimlad eu bod nhw’n adnabod ei gilydd yn dda ac yn cyd-dynnu’n reddfol.
Mae hi’n riant i ddwy o ferched yn eu harddegau. Medda’r parafeddyg benywaidd ar syniadau pendant am y ffordd orau o gadw ei phlant yn ddiogel. Dengys hi agwedd ychydig yn fwy eithafol drwy wahardd “yr holl offer trydanol” rhag ofn i’r dechnoleg gael effaith negyddol ar iechyd ei merched. Efallai fod hyn ychydig yn rhagrithiolPan fydd rhywun yn gwneud rhywbeth sy'n groes i’r hyn maen nhw'n ei ddweud. gan ei bod hi yn defnyddio’r dechnoleg yma bob dydd yn ei gwaith ei hun.
Mae ochr danllyd a diamynedd i’r parafeddyg benywaidd. Mae’n rhegi ar y traffig ac yn codi tôn ei llais. Ond mae sensitifrwydd, ofn ac ansicrwydd yn perthyn iddi hefyd, a daw hynny’n glir wrth iddi orfod wynebu salwch ei merch ei hun ar ddiwedd y stori.
Tafodiaith ddeheuol sydd ganddi, ee “Dere, dere, dere!”
Beth sy'n digwydd yn y stori?
Dechrau
Mae’r stori’n agor gyda deialog rhwng dau barafeddyg - un dyn ac un ddynes - wrth iddyn nhw gyrraedd yr ysbyty gyda phlentyn arall sy’n sâl. Mae teimlad o frys a phanig i geisio achub y claf ifanc. Deallwn fod mwy a mwy o blant yn cael eu taro’n wael gan yr haint sy’n creu problemau anadlu a briwiau hyll ar y croen.
Canol
Mae'r stori'n mynd ymlaen i roi disgrifiad i ni o’r ysbyty fodern wrth iddyn nhw fynd heibio gwahanol adrannau ar eu ffordd i’r uned blant. Mae uned gyffuriau yno; lle ar gyfer cywiro “camgymeriadau’r meddygon cosmetig” ac adran i gleifion gordew. Trwy hyn cawn ddarlun o’r gymdeithas a’i phroblemau. Mae’r ddau barafeddyg hefyd yn trafod eu syniadau nhw pam y mae’r salwch - “y diawledigrwydd” - yma’n digwydd. Maent yn gweld bai ar ffordd o fyw pobl - “gwres canolog, peiriannau awyru” yn ogystal â’r “bwydydd parod, deunyddiau synthetig”. Credant hefyd fod tlodi yn ffactor ac yn creu dwy haen mewn cymdeithas – y rhai sy’n gallu fforddio help preifat a’r rhai sydd ddim. Cawn wybod fod y parafeddygon yn rhieni a’u bod yn gobeithio iddyn nhw wneud y gorau dros eu plant eu hunain.
Diwedd
Mae rhan olaf y stori yn dilyn taith wyllt y parafeddygon yn yr ambiwlans ar ôl cael galwad i achub plentyn o ysgol “ym mhen arall y dre”. Cyrhaeddant yr ysgol ac mae dau blentyn yn sâl - bachgen a merch. Dim ond lle i un sydd yn yr ambiwlans ac maent yn wynebu penderfyniad anodd. Sylweddola’r parafeddyg gwrywaidd nad yw’r bachgen “am ei gwneud hi”. Symuda ymlaen at y ferch sâl ac wrth edrych ar y parafeddyg benywaidd, mae’n darllen ei hwyneb ac yn sylweddoli mai ei merch hi ei hun yw’r claf y tro hwn. Mae’n sefyllfa ddifrifol a phersonol ond mae’r stori’n cloi trwy ddweud “ei bod hi’n dal yn fyw” ac fe wyddom fod ychydig o obaith ac y bydd y frwydr yn parhau.