Cerddoriaeth a thechnegau sain mewn testun gweledol

Yn y ffilm hon cawn gyflwyniad i’r gwahanol fathau o gerddoriaeth a thechnegau sain sy’n gallu cael eu defnyddio mewn rhaglenni a ffilmiau er mwyn creu effaith.

Back to top

Gwylio fideo: Technegau cerddoriaeth a sain

Sut mae cerddoriaeth a thechnegau sain yn cael eu defnyddio a pham eu bod yn effeithiol

Back to top

Crynodeb o'r fideo

Mae’r ffilm hon yn dangos sut y mae gwahanol synau’n cael eu defnyddio’n fwriadol er mwyn cyfleu naws neu awyrgylch benodol o fewn golygfa.

Rhai technegau sy’n cael eu defnyddio er mwyn creu effaith yw:

  • cynyddu neu leihau sain
  • cyflymu neu arafu’r gerddoriaeth
  • diffyg sain

Ystyria, beth all y gerddoriaeth neu’r sain ei ddweud wrthyt ti am deimladau’r cymeriadau?

Er enghraifft, yn y sioe Hafiach, mae disgyblion yn eistedd mewn neuadd arholiad ac mae cloc yn tician yn y cefndir. Wrth i’r olygfa barhau, mae sŵn y tician yn cynyddu. Mae’r cyfarwyddwr wedi penderfynu gwneud hyn er mwyn cyfleu panig y cymeriadau a’r brys sydd arnyn nhw i orffen yr arholiad o fewn yr amser.

Back to top