Beth ydy nodweddion bwletin newyddion?

Mae bwletin newyddion yn grynodeb byr o'r prif newyddion sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau pwysig mewn ffordd glir a chryno.

Back to top

Gwylia: Nodweddion arddull bwletin newyddion

Darn newyddion byr ydy bwletin newyddion sy’n cael ei gyflwyno ar y radio neu’r teledu

Back to top

Sut i ysgrifennu bwletin newyddion

Mae bwletin newyddion yn defnyddio iaith ffurfiol er mwyn bod yn broffesiynol i’r darllenwyr a’r gwrandawyr.

Y nod yw cyfathrebu’n glir fel bod y cyhoedd yn gallu deall y brif stori newyddion yn syth felly dylid ysgrifennu’n gryno fel bod y darn yn hawdd i’w ddeall.

Defnyddia frawddegau byr mewn bwletin gan nad oes amser i fod yn hirwyntog ac rydyn ni’n derbyn y prif bwyntiau yn syth.

Wrth ysgrifennu bwletin mae angen defnyddio iaith wrthrychol sydd yn adrodd y newyddion heb ddangos barn na theimladau personol. Mae hyn oherwydd mai pwrpas bwletin yw rhannu newyddion ac nid dy farn di am y newyddion.

Back to top

Tabl nodweddion

Nodwedd / EsboniadEnghraifft
Cyfarch y gynulleidfa - Mae cyfarch y gynulleidfa yn creu cysylltiad uniongyrchol rhwng y cyflwynydd a’r gynulleidfa.Prynhawn da a chroeso i’r bwletin newyddion.
Dyfyniadau - Mae dyfyniadau’n effeithiol mewn bwletin oherwydd mae’n cynnig safbwyntiau gwahanol ar y stori ac yn rhoi tystiolaeth i gefnogi’r wybodaeth sy’n cael ei hadrodd.Yn ôl Carys, disgybl yn Ysgol Llanmôr, “Nid wyf erioed wedi gweld dim byd fel hyn yn digwydd yn yr ysgol o’r blaen. Roedd yn anhygoel!”
Brawddegau byr - Mae brawddegau byr yn cyfleu’r wybodaeth yn gyflym ac yn glir gan bwysleisio’r prif ffeithiau.Ni chafodd neb ei anafu.
Pump cwestiwn i’w hateb - Pwy? Beth? Ble? Pryd? Pam? Mae’r rhain yn rhoi gwybodaeth angenrheidiol am y stori newyddion.Am bump o’r gloch fore Sul yng Nghaerdydd, bu tân mawr bwriadol sydd wedi achosi llawer o ddifrod.
Berfau cryno - Mae berfau cryno yn cadw’r bwletin yn glir ac yn uniongyrchol.Cyhoeddodd y cyngor y syniadau hyn.
Back to top

Enghraifft o fwletin newyddion

Prynhawn da a chroeso i’r bwletin newyddion am dri o’r gloch. Dyma ein prif stori heddiw. Mae’r heddlu wedi dechrau ymchwiliad ar ôl i feiciau gael eu dwyn o ganolfan siopa yn Abertawe. Digwyddodd y digwyddiad neithiwr am naw o’r gloch. Yn ôl staff y ganolfan, aeth criw o fechgyn i mewn i’r ganolfan a mynd yn syth at y beiciau. Llwyddodd y lladron i ddwyn wyth beic i gyd. Roedd y beiciau yn rhai drud iawn ac yn rhai y byddai’n gallu gwerthu am dipyn o arian. Cysylltodd gweithiwr yn y ganolfan gyda’r heddlu ar ôl gweld hyn yn digwydd.

Mae’r heddlu wrthi’n gwylio’r camerâu diogelwch a siarad gyda thystion o’r siopau tu fewn i’r ganolfan. Yn ôl Rhys, oedd yn siopa ar y pryd: “Dydw i erioed wedi gweld dim byd fel hyn o’r blaen yn digwydd yn Abertawe. Roeddent yn fygythiol iawn ac roedd yn amlwg bod siopwyr wedi dychryn.” Mae perchennog y ganolfan wedi diolch i’r staff a’r gymuned am bob cefnogaeth ac yn gobeithio y bydd y lladron yn cael eu dal yn fuan a bod y beiciau yn cael eu dychwelyd. Dywedodd swyddog yr heddlu: “Rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda ni. Gall unrhyw wybodaeth ein helpu i ddal y rhai sy’n gyfrifol. Rydym am sicrhau cyfiawnder.” Bydd y ganolfan yn parhau ar gau am ychydig oriau eto er mwyn i’r heddlu orffen yr holl waith fforensig ac mae’r ganolfan yn ffyddiog y bydd ar agor yfory.

Back to top