Y cymeriadau: Gwenan
- Cariad i Gags ond mae Llion yn ei ffansïo hefyd.
- Tlws a siapus ond dydy hi ddim yn glyfar iawn.
- Wedi cael ei sbwylio ac eisiau ei ffordd ei hun o hyd.
- Cwyno’n rheolaidd, yn enwedig wrth wneud y gweithgareddau.
- Ysmygu ac yn yfed alcohol.
- Cerdded yn araf a does ganddi ddim llawer o gryfder.
- Ddim eisiau dod ar y daith yn y lle cyntaf ond mae hi’n dod i gadw llygad ar Gags achos dydy hi ddim yn ymddiried ynddo.
- Yn ystod y cwrs mae hi’n magu hyder i ateb Gags yn ôl ond mae hi’n torri ei chalon ar y diwedd pan mae hi’n clywed ei fod wedi marw.
| Nodwedd | Rheswm | Dyfyniad |
| Siapus a thlws | Mae Llion a Gags yn credu bod Gwenan yn ferch dlws. | 'Mae hi’n stoncar, stynar, pishyn, rheina i gyd. Mae pawb yn ei ffansïo hi, hyd yn oed yr athrawon, ac mae hi’n gwybod hynny.' |
| 'Mae ganddi siâp hollol ffantastic, coesau sy’n mynd mlaen am byth a brestiau perffaith.' | ||
| Eithaf twp | Mae hi’n tueddu i ddweud pethau eithaf twp heb fath o gywilydd, ee pan gyhoeddodd Donna mai tasgau ymenyddol oedden nhw am eu gwneud un bore. | 'Mae hi ’di cachu arna i felly ... gas gen i bethau fel’na. Catchphrase ydi’n limit i.' |
| Diog ac anystwyth | Mae hi’n disgwyl i bobl wneud pethau ar ei rhan hi, ee mae hi’n disgwyl i Gags gario ei bagiau hi iddi hi. | Wrth gerdded i ben y mynydd mae hi’n bell ar ôl pawb, 'yn goch ac yn tuchan fel dafad'. Y rheswm am hyn yw fod 'Mam wastad yn rhoi lifft i mi.' |
| Mae hi hefyd yn ysmygu. | 'Ydw tad! Cadw fi’n slim tydi?' | |
| Delwedd yn bwysig iddi | Gwisgo dillad anaddas ac anymarferol ar brydiau ar y trip, ee i fynd i’r disgo mae’n edrych ymlaen i gael gwisgo esgidiau sodlau uchel. Mae hi’n crio pan mae hi’n torri un o’i hewinedd ar y graig. | 'Roedd Gwenan yn gwisgo trowsus combat a chrys-t tynn, tynn efo patrwm llewpart neu rwbath arno, a hanner modfedd o baent ar ei hwyneb a’i hewinedd. Rhywiol iawn, ond nid y gêr calla ar gyfer dringo.' |
| Anffyddlon a chenfigennus | Mae hi’n snogio Llion ar noson y disgo. Mae Gags a hi wedi bod yn ffraeo yn ystod y cwrs ac felly mae’n defnyddio Llion i dalu’r pwyth yn ôl i Gags. | Gwenan: Ti’n meddwl ’mod i’n mynd i adael i chdi ddod yma hebdda i? Gags: O, fel ’na ma’i dallt hi ia? |
| Mae hi hefyd yn cornelu Donna yn y disgo ac yn ei chyhuddo hi o fynd gyda Gags. | 'A pwy mae o’n ei feddwl ydi o yn tw-teimio fi fel’na?' |
| Nodwedd | Siapus a thlws |
|---|---|
| Rheswm | Mae Llion a Gags yn credu bod Gwenan yn ferch dlws. |
| Dyfyniad | 'Mae hi’n stoncar, stynar, pishyn, rheina i gyd. Mae pawb yn ei ffansïo hi, hyd yn oed yr athrawon, ac mae hi’n gwybod hynny.' |
| Nodwedd | |
|---|---|
| Rheswm | |
| Dyfyniad | 'Mae ganddi siâp hollol ffantastic, coesau sy’n mynd mlaen am byth a brestiau perffaith.' |
| Nodwedd | Eithaf twp |
|---|---|
| Rheswm | Mae hi’n tueddu i ddweud pethau eithaf twp heb fath o gywilydd, ee pan gyhoeddodd Donna mai tasgau ymenyddol oedden nhw am eu gwneud un bore. |
| Dyfyniad | 'Mae hi ’di cachu arna i felly ... gas gen i bethau fel’na. Catchphrase ydi’n limit i.' |
| Nodwedd | Diog ac anystwyth |
|---|---|
| Rheswm | Mae hi’n disgwyl i bobl wneud pethau ar ei rhan hi, ee mae hi’n disgwyl i Gags gario ei bagiau hi iddi hi. |
| Dyfyniad | Wrth gerdded i ben y mynydd mae hi’n bell ar ôl pawb, 'yn goch ac yn tuchan fel dafad'. Y rheswm am hyn yw fod 'Mam wastad yn rhoi lifft i mi.' |
| Nodwedd | |
|---|---|
| Rheswm | Mae hi hefyd yn ysmygu. |
| Dyfyniad | 'Ydw tad! Cadw fi’n slim tydi?' |
| Nodwedd | Delwedd yn bwysig iddi |
|---|---|
| Rheswm | Gwisgo dillad anaddas ac anymarferol ar brydiau ar y trip, ee i fynd i’r disgo mae’n edrych ymlaen i gael gwisgo esgidiau sodlau uchel. Mae hi’n crio pan mae hi’n torri un o’i hewinedd ar y graig. |
| Dyfyniad | 'Roedd Gwenan yn gwisgo trowsus combat a chrys-t tynn, tynn efo patrwm llewpart neu rwbath arno, a hanner modfedd o baent ar ei hwyneb a’i hewinedd. Rhywiol iawn, ond nid y gêr calla ar gyfer dringo.' |
| Nodwedd | Anffyddlon a chenfigennus |
|---|---|
| Rheswm | Mae hi’n snogio Llion ar noson y disgo. Mae Gags a hi wedi bod yn ffraeo yn ystod y cwrs ac felly mae’n defnyddio Llion i dalu’r pwyth yn ôl i Gags. |
| Dyfyniad | Gwenan: Ti’n meddwl ’mod i’n mynd i adael i chdi ddod yma hebdda i? Gags: O, fel ’na ma’i dallt hi ia? |
| Nodwedd | |
|---|---|
| Rheswm | Mae hi hefyd yn cornelu Donna yn y disgo ac yn ei chyhuddo hi o fynd gyda Gags. |
| Dyfyniad | 'A pwy mae o’n ei feddwl ydi o yn tw-teimio fi fel’na?' |