Ymarfer sut i dargedu cynulleidfa arbennig
Ateba'r cwestiwn ac yna cymhara dy ateb â'r ateb enghreifftiol.
Question
Mae gofyn i ti gyflwyno darn i grŵp Blwyddyn 7 (11-12 oed) am ddelio â bwlio arlein a bydd angen i ti gael slogan effeithiol. Beth fyddai hwn a sut fyddet ti’n ei gyflwyno yn dy waith?
Dylai'r slogan fod yn fyr, yn gofiadwy ac wedi ei anelu at y grŵp oedran megis:
Dywed Bŵ wrth y Bwli
Gallet ti gyflwyno hwn fel comedi lle mae'r bwli'n cael ei gyflwyno fel bwgan hyll mewn colur sy’n ymdebygu i’r cymeriad ffilm, Shrek. Gan guddio y tu ôl i'r sgrin, mae'r bwli’n ceisio gwneud iddo'i hun deimlo'n bwysig ond mae'n methu. Byddai cydbwysedd yn y cynhyrchiad yn hanfodol. Rhaid i bopeth atgyfnerthu gwerthoedd y bobl sy'n gwybod nad oes modd cuddio y tu ôl i sgrin cyfrifiadur a bod gwedduster dynol yn golygu caredigrwydd a pharch tuag at eraill. Felly byddai’n syniad da cael cymeriad hoffus sy’n dioddef o fwlïo arlein y bwgan er mwyn i’r plant fedru gweld yr effaith mae ymddygiad fel hyn yn ei gael. Mae oed y gynulleidfa'n golygu bod angen i ti wneud hwyl am ben y bwgan i wneud yn siŵr na fyddan nhw'n cael hunllefau. Ond maen nhw'n ddigon hen i wybod bod y cysyniad yn trosiadolDisgrifio heb ddefnyddio'r geiriau 'fel' neu 'tebyg i' ee 'bwrw hen wragedd â ffyn' neu 'cannwyll fy llygad'. Gellir disgrifio perfformiad cyfan fel un trosiadol..
Os byddi di’n cael yr actor sy'n chwarae'r bwgan i fod yn ffigur comedi sy'n canu ei eiriau cas ac yn dawnsio'n wael tra bod y cymeriadau eraill yn dawnsio'n dda, gan ddefnyddio cerddoriaeth gyfoes i apelio at dy gynulleidfa, gallet ti adeiladu'r gwaith o'r fan honno.