Theatr GerddRolau mewn Drama Gerdd

Mae Theatr Gerdd yn defnyddio caneuon, dawns a deialog i adrodd stori. Mae hanes hir i'r genre poblogaidd hwn ac mae yna rolau arbenigol sydd ynghlwm wrth lwyfannu drama gerdd fodern.

Part ofDramaArddulliau, genres ac ymarferwyr

Rolau mewn Drama Gerdd

Y cyfarwyddwr fydd â’r weledigaeth gyffredinol ar gyfer y darn ynghyd â dehongliad o’r llyfr. Efallai y bydd am ddefnyddio arddull neu gysyniad penodol ar gyfer llwyfannu’r gwaith. Mae’r cyfarwyddwr yn cydweithio’n agos â’r actorion a gweithwyr proffesiynol eraill i wneud yn siŵr bod y weledigaeth yn cael ei chyflawni ar y llwyfan, gan dynnu’r cyfan at ei gilydd.

Y cyfarwyddwr cerdd sy’n gyfrifol am gerddoriaeth y darn. Gall drefnu darnau o gerddoriaeth, arwain y gerddorfa ac fel arfer chwarae’r piano yn ystod yr ymarferion. Bydd gan y cyfarwyddwr cerdd hefyd weledigaeth ar gyfer elfennau cerddorol y darn, a bydd yn cydweithio’n agos â’r cyfarwyddwr. Efallai y bydd gan y cyfarwyddwr cerdd syniadau penodol ynglŷn â sut y caiff cân ei pherfformio ar y llwyfan.

Rôl allweddol arall ydy’r coreograffydd. Y coreograffydd sy’n trefnu ac yn cyfarwyddo’r dawnsfeydd mewn drama gerdd. Gan fod dawns yn elfen mor bwysig mae hon yn rôl bwysig iawn. Mae rhai dramâu cerdd yn cynnwys mwy o ddawns nag eraill, megis sioe Kander ac Ebb, Chicago, lle mae’r coreograffi gwreiddiol o eiddo Bob Fosse mor enwog fel y caiff ei gadw’n aml o gynhyrchiad i gynhyrchiad.

Renée Zellweger fel Roxie Hart wedi ei chodi o'r llwyfan a John C. Reilly fel Amos Hart yn eistedd ar gadair o dan lamp yng nghynhyrchiad Chicago, 2002
Image caption,
Renée Zellweger fel Roxie Hart a John C. Reilly fel Amos Hart yn Chicago, 2002 LLUN: Miramax Films/Ronald Grant Archive

Y dylunydd sy’n gyfrifol am y setiau, gwisgoedd a goleuo neu effeithiau arbennig. Mae’r elfennau hyn fel arfer yn bwysig iawn wrth lwyfannu drama gerdd, yn enwedig os oes ganddi gyllideb fawr ar Broadway yn Efrog Newydd neu’r West End yn Llundain. Efallai mai dim ond un dylunydd fydd yna, yn gweithio gyda’r cyfarwyddwr i gyflwyno’r weledigaeth drwy gyfrwng y ddrama. Neu gallai fod nifer o wahanol ddylunwyr yn gyfrifol am feysydd gwahanol, ee set, sain a golau.

Mae’r elfennau uchod i gyd yn aml yn ysblennydd mewn dramâu cerdd ar raddfa fawr. Er enghraifft roedd gan gynhyrchiad y West End o Miss Saigon, a berfformiwyd yn Llundain am ddeng mlynedd cyn trosglwyddo i Broadway, hofrennydd ar y llwyfan yn dod i lawr o’r to. Ailagorodd yn y West End yn Llundain yn 2014 yn ei 25ain flwyddyn.