Syniadau ar gyfer creu cymeriadau a chynnwys
Mae’r ymarfer byrfyfyr hwn yn ardderchog ar gyfer creu cymeriadau a senarios hollol newydd a heb eu cynllunio o flaen llaw.
Ble, pwy, beth?
- Dewisa leoliad ar hap, ee archfarchnad neu gert sglefrio.
- Dewisa gymeriadau ar hap, ee gofodwr neu reolwr TG.
- Yn olaf, dewisa gymhelliad ar hap, ee angen dod o hyd i gymar neu fod yn enwog beth bynnag fo’r gost.
Cofia ddewis pob darn o wybodaeth yn llwyr ar hap, fel nad oes unrhyw gysylltiad rhyngddyn nhw o reidrwydd. Gall hyn arwain at ddrama ddiddorol a doniol iawn.
Creu senario
- Ble: ogof
- Pwy: gyrrwr bws
- Beth: ceisio achub y byd rhag angenfilod cynhanesyddol
- Beth: ceisio achub y byd rhag angenfilod cynhanesyddol
- Beth: ar dân eisiau bod yn gantores enwog ryngwladol
- Pwy: gwyddonydd gwallgof
- Beth: ceisio dod o hyd i ŵr neu wraig
Bydda’n barod am yr annisgwyl wrth wneud gwaith byrfyfyr. Paid â gwrthod neu anwybyddu unrhyw syniad sy’n codi, waeth pa mor rhyfedd ydy e. Dwyt ti byth yn gwybod beth fyddi di’n ei ddarganfod neu’n ei greu.
Ychwanegu arddull
Gallet ti wneud gwaith byrfyfyr mewn arddull genreSteil neu gategori o gerddoriaeth, celf neu lenyddiaeth. penodol sy’n wahanol iawn i’r sgript wreiddiol neu’r darn dyfeisiedig. Gallet ti:
- ganu’r gwaith mewn arddull opera fawreddog
- perfformio’r darn fel stori arswyd
- cyflwyno’r gwaith yn fud (dim geiriau) ac yn arddull ffilm fud slapsticFfilm ddu a gwyn gan artistiaid megis Laurel and Hardy, Buster Keaton neu Charlie Chaplin lle mae'r hiwmor yn deillio o gomedi corfforol megis cwympo a baglu.
Mae’n ddefnyddiol ychwanegu arddull neu genre gwahanol i’r gwaith pan rwyt ti’n ansicr beth i’w wneud ac mae’r gwaith yn teimlo’n flinedig. Gall chwarae gyda genre roi bywyd newydd i olygfa. Hyd yn oed os nad ydy’r gwaith byrfyfyr yn cael ei gadw gall ryddhau’r actor o’i ffordd arferol o gyflwyno’r cynnwys.