Ymateb i’r Ardrefniant Crefyddol yng Nghymru a Lloegr
Bwriad Elisabeth oedd y byddai’r Ardrefniant Crefyddol yn gyfaddawd derbyniol i bobl o bob safbwynt crefyddol.
Roedd yna sawl rheswm pam bod yr ymatebion i’r Ardrefniant wedi bod yn bositif gan fwyaf.
- Cymerodd y mwyafrif o offeiriaid y Llw Goruchafiaeth. Gwrthododd tua 250 o’r 9,000 o offeiriaid ac fe wnaethon nhw golli eu swyddi.
- Roedd nifer o’r esgobion Catholig duwiolCredu’n gryf iawn mewn ffydd benodol. wedi ymddiswyddo, ac felly ni chafwyd gwrthwynebiad cryf. Cafodd y swyddi eu llenwi gan gefnogwyr teyrngar.
- Nid oedd dirwyon reciwsantiaethGwrthod mynychu gwasanaethau’r eglwys yng Nghymru a Lloegr. yn cael eu gorfodi’n llym.
- Cyn belled â bod pobl yn cydymffurfio â’r Ardrefniant i bob golwg, roedd goddefgarwch yn cael ei ganiatáu.
- Roedd Matthew Parker, Archesgob Caergaint, yn uchel ei barch fel Protestant cymedrol.

Yn ogystal, cyflwynodd Elisabeth fesurau i atgyfnerthu deddfau, fel y Gorfodebion Brenhinol 1559, oedd yn rhoi cyfres o gyfarwyddiadau i offeiriaid gan gynnwys gwahardd gwyrthiau ‘ffug’ a chyflwyno gwybodaeth am reciwsantiaid i’r awdurdodau. Hefyd, anfonodd 125 o gomisiynwyr ar daith o amgylch y wlad i weld bod y rheolau yn cael eu dilyn.
Roedd Deddf Gyfnewid 1559 yn caniatáu’r Frenhines i gymryd tir ac adeiladau oddi wrth yr Eglwys a gorfodi Esgobion i dalu rhent, gan ychwanegu cryn dipyn at goffrau’r Frenhines.
Roedd llwyddiant cymharol yr Ardrefniant yn golygu y daeth sefydlogrwydd crefyddol i Gymru a Lloegr, am y tro o leiaf. Dramor, doedd dim llawer o ymateb i’r Ardrefniant. Roedd y Ffrancwyr yn poeni am eu problemau crefyddol eu hunain. Ac yn ystod y cyfnod hwn o leiaf, roedd Sbaen, dan arweiniad Brenin Philip II, yn dal i obeithio gallu cynnal perthynas gyfeillgar gyda Chymru a Lloegr yn y gobaith y byddai Catholigiaeth yn cael ei adfer yn y pen draw.
Serch hynny, erbyn y 1570au ac yn sicr erbyn y 1580au, byddai gwrthwynebiad Catholigion i’r Ardrefniant yn cynyddu, wrth i’r berthynas â Sbaen waethygu. Byddai gwrthwynebiad gan Brotestaniaid eithafol hefyd yn cynyddu - byddai'r Piwritaniaid yn ceisio newid elfennau o’r 'ffordd ganol' i blesio eu credoau eu hunain.