Cynllun cyfweliad
Mae tri math o gyfweliad.
- cyfweliad anstrwythuredig
- cyfweliad lled-strwythuredig
- cyfweliad strwythuredig

Cyfweliad anstrwythuredig
Mewn cyfweliad fel hyn, bydd gan y cyfwelydd Rhywun sy’n cynnal cyfweliad, ac sy’n gofyn y cwestiynau. restr o bynciau mae eisiau eu trafod, ond ni fydd ganddo restr o gwestiynau penodol. Mae hyn oherwydd bod y math hwn o gyfweliad yn debyg i sgwrs, lle mae’r cyfwelydd yn gadael i’r cyfwelai Rhywun sy’n cael ei gyfweld, ac sy’n ateb y cwestiynau. siarad yn rhydd. Does dim strwythur penodol i'r cyfweliad.
Mewn cyfweliad anstrwythuredig, mae'n bosibl bydd trefn y cyfweliad yn cynnwys rhestr o eiriau allweddol neu bynciau er mwyn i'r cyfwelydd edrych arnynt yn ystod y cyfweliad i wneud yn siŵr ei fod yn ymdrin â hwy yn ystod y sgwrs. Gall y cyfwelydd fod yn hyblyg drwy ofyn unrhyw gwestiynau sy’n berthnasol yn ei farn ef. Mewn geiriau eraill, mae’n bosibl addasu neu newid y cwestiynau gan ddibynnu ar yr ymatebion sy’n cael eu rhoi.
Mewn cyfweliad anstrwythuredig ynglŷn â mynd at y deintydd, efallai bydd cyfwelydd yn ysgrifennu rhai pynciau neu bwyntiau pwysig i’w gofyn.
Cyfweliad lled-strwythuredig
Mewn cyfweliad fel hyn mae cwestiynau tebyg yn cael eu gofyn i bob unigolyn sy’n cael ei gyfweld. Bydd cyfweliad lled-strwythuredig yn cynnwys rhestr o gwestiynau agored fel arfer, fel bod pawb sy’n cael ei gyfweld yn gallu ymateb i bob cwestiwn yn ei ffordd ei hun. Mae’r math hwn o gyfweliad yn hyblyg, oherwydd mae’n bosibl addasu a newid y cwestiynau gan ddibynnu ar yr ymatebion sy’n cael eu rhoi, sy'n golygu bod llai o strwythur i gyfweliad o'r math hwn.
Cyfweliad strwythuredig
Bydd trefn cyfweliad strwythuredig yn cynnwys rhestr o gwestiynau caeedig. Mae hyn yn golygu bod y cyfwelydd yn gofyn set o gwestiynau penodol ac mae’r cyfwelai yn gorfod dewis o set o ymatebion sydd wedi cael eu nodi ymlaen llaw. Nid oes cwestiynau ychwanegol ac nid yw’r cyfwelai’n gallu ateb cwestiwn yn rhydd.
Bydd cyfweliadau strwythuredig yn gofyn yr un cwestiynau yn yr un drefn i bawb sy’n cymryd rhan, a bydd y cyfwelydd yn glynu’n gaeth at yr amserlen. Mae strwythur clir a phendant i'r math hwn o gyfweliad.