Gwella dealltwriaeth o fyd y ddrama
Ateba’r cwestiynau yna cymhara dy atebion gyda’r atebion enghreifftiol.
Rwyt ti’n llwyfannu cynhyrchiad o Macbeth ac mae angen i ti ystyried nifer o bwyntiau cynhyrchu i wneud hyn yn llwyddiannus.
Question
Mae dy gynhyrchiad o Macbeth yn ddu a gwyn gydag ychydig o goch. Pa arwyddocâd fyddet ti am i’r coch ei gael?
Mae cysylltiad amlwg rhwng coch a gwaed felly byddai modd ei ddefnyddio drwy oleuo ar adegau arbennig o dreisgar. Hefyd drwy ddefnyddio mantell goroni goch, byddai’r gynulleidfa’n cysylltu Macbeth â thrais.
Question
Sut fyddet ti’n cyflwyno’r gwrachod i sicrhau na fyddai cynulleidfa fodern yn credu eu bod yn absẃrd?
I ryw raddau mae’n dibynnu ar arddull y cynhyrchiad, ond y peth hanfodol ydy osgoi gwrachod yn arddull Calan Gaeaf, a fyddai’n cael eu gweld yn ffigurau dau ddimensiwn, absẃrd. Mae’r ffordd mae’r gwrachod yn cael eu cyflwyno’n gorfod cyd-fynd â’r byd cyfoes a bod yn gredadwy i’r gynulleidfa – mae’n bwysig i beidio â gwneud i’r gynulleidfa chwerthin oherwydd dydy’r rhan fwyaf o bobl heddiw ddim yn credu mewn gwrachod. Gall gwrachod modern ymddangos mewn diwyg amrywiol gyda sawl dehongliad, ee pobl yn gaeth i heroin, puteiniaid. Gallan nhw fod yn wrywaidd hefyd.
Question
Rydyn ni’n deall llawer am Macbeth o’i ymsonau lle mae’n adrodd ei feddyliau’n uchel er budd y gynulleidfa. Sut byddet ti’n llwyfannu’r rhain mewn theatr prosceniwm Math penodol o lwyfannu. Pen-yn-ben ond mewn theatr fwy hen ffasiwn gyda bwa prosceniwm yn fframio'r holl lwyfan.
Mae sawl posibilrwydd ond un awgrym posib ydy gosod yr actor ar flaen y llwyfan er mwyn iddo allu cysylltu â’r gynulleidfa’n uniongyrchol. Un arall ydy defnyddio golau i’w ynysu - efallai gyda golau sbot uwch ei ben.
Question
Sut fyddet ti’n ymdrin â’r frwydr cleddyfau ar ddiwedd y ddrama os byddai dy gynhyrchiad o Macbeth mewn gwisg fodern? (Cofia fod yr olygfa olaf yn para am 34 o linellau ac mae’n sôn yn benodol am gleddyfau a gwaed ac anafiadau felly fyddai gynau ddim yn opsiwn rhwydd).
Gallai fod yn bosib defnyddio cyllyll neu gleddyfau ond byddai’n rhaid sefydlu’r confensiwn am y naill neu’r llall. Yn aml mae hyn yn cael ei wneud drwy gael lleoliad sydd bron â bod yn realistig ond bod nodweddion sy’n amlwg yn ddyfais artistig. Enghraifft o hyn fyddai fersiwn ffilm y cyfarwyddwr Baz Luhrmann o Romeo and Juliet. Byddai’n bosib hefyd ffilmio’r ymladd cyn y perfformiad a’i ddangos i’r gynulleidfa ar sgrin.
Question
Os byddet ti’n bwriadu gosod drama Saunders Lewis, Branwen, yn y gorffennol ond hefyd neidio i’r cyfnod cyfoes, beth fyddet ti’n ei ddefnyddio i ddangos y gwahaniaeth rhwng y ddau gyfnod?
Mae sawl effaith y gallet ti eu defnyddio i ddangos dau gyfnod amser. Gallai effeithiau sain a goleuo sydd nid yn unig yn cael eu cynhyrchu gan dechnoleg fodern ond sydd hefyd yn fodern eu harddull fod yn ddigon i gael yr effaith ddeuol. Byddai modd, er enghraifft, ddefnyddio golau cynnes euraidd ar gyfer golygfeydd yn y gorffennol a golau glas oeraidd ar gyfer y presennol. Yn y cyfnod cynharaf, gallai’r gerddoriaeth fod yn glasurol a phwerus ond yn y cyfnod modern gallai fod yn gerddoriaeth bop electronig. Mae modd defnyddio gwisg i’r un diben - gwisgoedd clasurol ar gyfer y cyfnod cynnar a gwisgoedd modern ar gyfer y cyfnod mwy diweddar. Byddai’n bosib defnyddio amlgyfryngau, ee ffilm, delweddau wedi eu taflunio yn y cyfnod modern hefyd i bwysleisio symud rhwng y ddau gyfnod.