Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

CaledweddDyfeisiau allbynnu

Mae dyfais fewnbynnu yn anfon gwybodaeth i gyfrifiadur i gael ei phrosesu. Mae dyfais allbynnu yn derbyn gwybodaeth o gyfrifiadur er mwyn ei chyflwyno.

Part ofTGChAmlgyfrwng

Dyfeisiau allbynnu

Mathau cyffredin o fformatau yw papur wedi’i argraffu, sain, fideo a dogfennau ar sgrin. Maen nhw’n gadael i’r cyfrifiadur gyfathrebu â’r defnyddiwr. Enghreifftiau o ddyfeisiau sy’n manteisio ar y fformatau hyn yw:

Monitor

Y ddyfais allbynnu fwyaf cyffredin yw’r monitor neu’r VDU.

Mae monitorau modern, lle nad yw’r ces fawr mwy nag ychydig gentimetrau o ddyfnder, fel arfer yn Ddangosyddion Grisial Hylif (LCD) neu fonitorau Transistorau Ffilm Denau (TFT).

Hen gyfrifiaduron a monitorau i’w hailgylchu
Image caption,
Monitor CRT
Cyfrifiadur sgrin fflat integredig
Image caption,
Mae monitorau LCD yn llawer teneuach na monitorau CRT