Mudo – 18fed a'r 19eg ganrif
O ddiwedd y 18fed ganrif, profodd Prydain y Chwyldro DiwydiannolY broses a drawsnewidiodd gweithgynhyrchu o nwyddau a wnaed â llaw i gynnyrch a masgynhyrchwyd drwy ddefnyddio pŵer dŵr, stêm a glo a’u cludo ar gamlesi, rheilffyrdd a llongau stêm. Prydain oedd y wlad gyntaf i gael Chwyldro Diwydiannol.. Mudodd pobl o gefn gwlad i’r dinasoedd newydd a oedd yn tyfu, i chwilio am waith. Gwelodd mannau fel melinau cotwm Swydd Gaerhirfryn a gweithfeydd haearn de Cymru fudo o ardaloedd ar draws Lloegr ac Iwerddon.
Cafodd y broses o ymfudo torfol o Iwerddon i Brydain ac America ei chyflymu gan newyn tatws 1845-49 yn Iwerddon, a oedd yn cael ei alw’n Newyn MawrY cyfnod yn y 1840au pan darodd haint y cnydau tatws yn Iwerddon, gan ladd tua miliwn o bobl a gorfodi miliwn arall i ymfudo., ac aeth Catholigion Iwerddon ymlaen i gael dylanwad sylweddol ar fywyd a gwleidyddiaeth Unol Daleithiau America mewn mannau fel Efrog Newydd.
Yr oedd Cymry wedi chwarae rhan bwysig yn y mudo gan y Crynwyr i America. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd galw economaidd mawr am sgiliau diwydiannol a mwyngloddio’r Cymry mewn ardaloedd fel Pennsylvania ac Ohio. Rhoddwyd yr enw ‘Little Wales’ ar Jackson County, Ohio, hyd yn oed. Yn 1865, hwyliodd 150 o ymfudwyr o Gymru ar fwrdd y Mimosa i Batagonia, yr Ariannin, i sefydlu trefedigaeth Gymreig o’r enw Y Wladfa.
Wrth i gludiant ar y môr ac ar reilffyrdd wella, cynyddodd llif pobl. Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd mewnfudwyr o’r Eidal wedi dod â’u bwyd a’u diodydd i Gymru, ac yn fwyaf enwog eu hufen ia, tra cyrhaeddodd Iddewon a oedd yn ffoi o Rwsia oherwydd erledigaethTriniaeth sy'n gyson greulon, yn aml oherwydd crefydd neu gred. ffyrnig a elwid yn 'pogroms'.