Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Dehongli a llwyfannu golygfaYmarfer dy sgiliau llwyfannu

Mae yna amryw o bethau y mae’n rhaid i ti eu hystyried os wyt ti am gyflwyno drama yn llwydiannus. Meddylia am fwriad dy ddarn, y math o lwyfan rwyt ti'n ei ddefnyddio ac arddull dy waith.

Part ofDramaGwaith sgript

Ymarfer dy sgiliau llwyfannu

Gwylia’r fideo hwn gan Gwmni Da a gyfarwyddwyd gan Gwion Hallam o gynhyrchiad Cwmni’r Frân Wen o ddrama Aled Jones Williams, Ar Lan y Môr. Mae’n ddarn sy’n seiliedig ar brofiadau cleifion yn Ysbyty Seiciatrig Dinbych. Ateba’r cwestiynau a chymhara dy atebion â’r atebion enghreifftiol.

Question

Sut mae’r olygfa hon wedi ei llwyfannu?

Question

Beth sy’n cael ei awgrymu gan y defnydd o gadair freichiau ar y traeth?

Question

Gan fod yr olygfa’n fonolog, beth ddylid ei ystyried wrth lwyfannu?

Question

Pa ddewisiadau cynhyrchu a wnaed o ran propiau a gwisg?

Question

Sut mae’r dewis o gerddoriaeth yn cyfrannu at yr olygfa?

Question

Rho enghraifft o newid amlwg yng nghyflymder ac egni’r olygfa.