Mae yna lawer o bethau i'w hystyried wrth baratoi i lwyfannu drama. Mae angen i ti gyfuno ystod o elfennau sy'n addas i dy broject megis gwisgoedd, iaith, sain a cherddoriaeth.
Wrth ddefnyddio llais i ymchwilio i ran neu berfformio ar y llwyfan rhaid i ti feddwl am:
tôn
uchder
traw
cyflymder
eglurder
Mae’r clip Saesneg hwn o gyfres y BBC, yn dangos yr actor Adrian Lester yn esbonio pwysigrwydd taflu dy lais yn y theatr
Iaith lafar
Dyma’r geiriau eu hunain a'r hyn maen nhw'n ei gyfleu. Mae dewis iaith yn cyfleu cyfnod hanesyddol, y lleoliad a'r sefyllfa yn ogystal â diffinio cymeriad a'i statws neu ddeallusrwydd.
Cofia nad mater o ddysgu dy linellau'n unig ydy hyn. Rhaid i ti eu dweud nhw fel pe baen nhw'n cael eu dweud am y tro cyntaf erioed a chyda’r ystyr cywir. Bydd rhaid i ti ymarfer yn ofalus, gan ddefnyddio technegau lleisiol i gyflawni hyn.