Mae strategaethau ymchwiliol yn dechnegau galli di eu defnyddio er mwyn cael gwell dealltwriaeth o gymeriadau, ymchwilio i olygfeydd ac i arbrofi gyda chymeriadu.
Gwella dy ddealltwriaeth o strategaethau ymchwiliol
Ateba’r cwestiwn a chymhara dy ateb â’r ateb enghreifftiol.
Question
Sut fyddet ti’n defnyddio trawstorri a delweddau llonydd i greu dilyniant effeithiol o olygfeydd am ferch ifanc sy’n cuddio’r ffaith ei bod yn chwarae triwant o’r ysgol rhag ei mam?
Golygfa 1: Golygfa yn y cartref. Y ferch ifanc yn dychwelyd o’r ysgol. Ei mam yn holi am ei diwrnod. Y ferch yn siarad yn hapus am y gwersi ac yn dweud iddi weithio’n galed. RHEWI
Golygfa 2: Y ferch yn camu i olygfa newydd. Mae gyda’i chariad wrth gatiau’r ysgol. Maen nhw’n penderfynu peidio â mynd i mewn ond yn chwarae triwant. RHEWI
Golygfa 3: Trawstorri i’r olygfa adre. Mae’r fam yn siarad â ffrind ac yn dweud ei bod yn disgwyl i’w merch wneud yn ardderchog yn yr arholiadau a’i bod mor falch ohoni. RHEWI
Golygfa 4: Y ferch a’i chariad mewn golygfa gydag athro, sy’n dweud wrthyn nhw fod yn rhaid i’w presenoldeb wella neu byddan nhw’n methu eu harholiadau a bydd rhaid cysylltu â’r rhieni.