Cyfres o ffilmiau hawdd eu deall am Senedd Cymru, yr hyn sy’n newid yn etholiad y Senedd 2026 a pham ei bod hi’n bwysig pleidleisio.
Pwerau llywodraeth Cymru
Amser maith yn nôl yn 1997, pan roedd artistiaid fel The Spice Girls ac Oasis ar frig y siartiau, pleidleisiodd Cymru i wneud bywyd yn fwy sbeislyd mewn refferendwm, sef pleidlais ar un cwestiwn yn unig.
Cwestiwn y bleidlais arbennig yna? Gofyn am droslgwyddo rhai pwerau o lywodraeth y Deyrnas Unedig i Gymru. Datganoli.
Roedd hi’n dynn iawn, ond pasiodd y bleidlais – a bŵm! Roedd gan Gymru ei llywodraeth ddatganoledig ei hun.
Mae datganoli’n golygu bod y pethau mae’r Senedd yn gyfrifol amdanyn nhw yn annibynnol o lywodraeth y Deyrnas Unedig. Felly, does gan lywodraeth San Steffan ddim dylanwad dros y ffordd mae Cymru’n gwario arian yn y meysydd yna.
Ers refferendwm 1997, mae mwy o bwerau wedi dod i Gymru ac erbyn heddiw mae’n gyfrifol am lwyth o faterion sy’n effeithio ar fywyd pobol Cymru, fel addysg, y gwasanaeth iechyd ac amaethyddiaeth.
Beth mae’r Senedd yn ei wneud?
Yn gyntaf: Arian.
Mae’r rhan fwyaf o arian llywodraeth Cymru’n dod gan lywodraeth y Deyrnas Unedig. Maen nhw’n casglu’r arian yna drwy wahanol drethi. Pan mae person yn enill cyflog am weithio, mae rhan ohono yn mynd at y llywodraeth. ‘Da ni’n galw’r rhan yma yn dreth incwm.
Mae cost ychwanegol – treth – yn cael ei roi ar lawer o bethau fel dillad, cyfrifiaduron a cheir. Mae Cymru hefyd yn trethi rhai pethau er mwyn codi arian ei hun.
Canlyniad hyn yw bod tua 25 biliwn – ia, biliwn – o bunnoedd yn dod i lywodraeth Cymru bob blwyddyn.
Enghreifftiau o sut mae’r arian yma’n cael ei wario ydy talu cyflogau athrawon a gweithwyr iechyd; tai cymdeithasol; a gwarchod yr amgylchedd – a gall llywodraeth Cymru basio deddfau yn y meysydd yna hefyd.
Pa ardal sy’n cael LOT o arian? Er dw i’n siŵr fydden nhw’n dweud fod e ddim yn ddigon!
Yr ateb ydy’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gyda ffigwr o tua 55% o holl wariant llywodraeth Cymru. Mwy na hanner. ’Di mynd. Bŵm!
Mae llywodraeth Cymru yn cael ei rhedeg gan y blaid sy’n ennill y nifer fwya o seddi - ac felly Aelodau o’r Senedd - mewn etholiad.
Y prif berson sy’n gyfrifol am bopeth – yw prif weinidog Cymru. Eluned Morgan ’di’r bós ar hyn o bryd.
Mae’r prif weinidog yn arwain tîm o weinidogion Cymru. Mae pob un yn gyfrifol am faes gwahanol fel iechyd, addysg, a’r amgylchedd.
Felly, yndi, mae llywodraeth Cymru’n gyfrifol am lot o feysydd – ond nid pob un.
Mae llawer o feysydd dal dan reolaeth llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Fel…
Diogelwch y wlad – sy’n ariannu’r fyddin, yr RAF a’r Llynges. A mewnfudo – rheoli pwy a faint o bobl sy’n gallu dod i fyw yn y Deyrnas Unedig
Ond nage Cymru ddyle wneud y penderfyniadau yna?
Wel, mae rhai pobol yn credu dylai Cymru gael hyd yn oed mwy o bwerau. Mae eraill yn credu dylai Cymru gael gwared ar ei llywodraeth yn gyfan gwbl.
’Di’r drafodaeth yma ddim drosodd eto, fydd y berthynas rhwng llywodraeth y Deyrnas Unedig a llywodraeth Cymru’n bwnc llosg yn ystod yr etholiad.
Mi fydd yn etholiad tanbaid!
Newidiadau mawr i'r etholiad nesaf
Iawn ta, closiwch mewn, Cymru. Mae trefn etholiadau’r Senedd yn newid… lot.
Mwy o wleidyddion, llai o etholaethau – nai egluro hynna mewn dipyn – a ffordd newydd o bleidleisio. Dyma fo mewn mwy o fanylder.
Yn gyntaf, etholaeth.
Gair ffansi ydy hwn am yr ardaloedd o Gymru mae gwleidyddion yn cynrychioli.
Ar hyn o bryd, mae gan Gymru 40 etholaeth a 5 rhanbarth, sef ardaloedd mawr o Gymru.
Fyddan nhw’n cael eu newid i 16 etholaeth ANFERTH.
O hyn ymlaen, bydd pob ardal yn cael ei chynrychioli gan 6 Aelod o’r Senedd neu AS i gadw pethau’n fyr.
Ar hyn o bryd mae ‘na 60 o Aelodau’r Senedd. Ar ôl etholiadau 2026 bydd ‘na 96.
Mae mwy o seddi yn golygu fydd mwy o leisiau’n cynrychioli TI, a LOT mwy yn digwydd yn Siambr y Senedd.
Nawr, dyma’r rhan sy’n newid mawr.
Fyddi di ddim yn pleidleisio dros berson o hyn allan, byddi di’n pleidleisio dros blaid.
Yn etholiadau’r Senedd yn y gorffennol, y person oedd yn derbyn y mwyaf o bleidleisiau mewn etholaeth oedd yn ennill. Y Cyntaf i’r Felin ydy’r enw ar y system bleidleisio yma.
Ond tro ’ma, mae trefn bleidleisio newydd o’r enw Cynrychiolaeth Gyfrannol. Yn syml, mae’n golygu bod y nifer o seddi sy’n cael eu hennill yn adlewyrchu nifer y pleidleisiau. Wel… ish.
Os yw plaid yn ennill tua hanner y pleidleisiau bydd yn ennill tua hanner y seddi.
Felly, yn system bleidleisio newydd y Senedd, mae pob plaid yn dewis 6 ymgeisydd – y bobl sy’n gobeithio ennill sedd – ac yn eu rhestru yn eu trefn o 1 i 6 – fel rhestr o dy hoff ganeuon ar playlist.
Fel fasa ti’n ddisgwyl, hoff ymgeisydd y blaid sydd ar top y rhestr. Nhw yw rhif 1.
Mae sawl system o beth sy’n cael ei adnabod fel ‘cynrychiolaeth gyfrannol’. Mae’r Senedd yn defnyddio system D’Hondt.
Dyma sut mae’n gweithio.
Ar ôl i’r pleidleisio orffen, maen nhw’n cyfri sawl pleidlais cafodd pob plaid a dechrau rhannu’r seddi, un ar ôl y llall.
Ar ôl i blaid ennill sedd, mae pleidleisiau’r blaid yn cael eu rhannu’n ddau. Felly, mae’n anoddach i’r blaid honno ennill ail sedd. Ond, os yw hi’n llwyddo i ennill ail sedd, mae ei phleidleisiau yn cael eu rhannu eto.
Mae hyn yn parhau nes i’r 6 sedd yn yr ardal gael eu llenwi.
Mae’n ffordd wych o sicrhau bod dy bleidlais di’n cyfri, ac mae’n ffordd deg o rannu seddi, sy’n golygu bod pleidiau sydd â mwy o bleidleisiau’n ennill mwy o seddi, ond bod gan bleidiau llai gyfle i ennill seddi hefyd.
Pam newid y system?
Roedd Llafur Cymru a Phlaid Cymru’n cefnogi’r newidiadau.
Maen nhw’n dweud bod y drefn newydd yn adlewyrchu sut mae pobl yn pleidleisio ac yn adlewyrchu eu barn ar faterion sy’n bwysig i ni.
Ond doedd pawb ddim yn gefnogol. Roedd Ceidwadwyr Cymru’n dadlau bod gofyn i bobl bleidleisio dros y blaid ac nid person yn rhoi gormod o bŵer i’r pleidiau, a llai o ddewis i’r pleidleiswyr.
Un ffordd neu’r llall, mae'n newid mawr, a gallai’r Senedd edrych yn wahanol iawn ar ôl yr etholiad.
Ond un peth sy heb newid ydy os wyt ti’n un deg chwech neu’n hŷn ac yn byw yng Nghymru, galli di bleidleisio.
Fedri di wneud hynny mewn gorsaf bleidleisio, drwy’r post, neu gall rhywun bleidleisio ar dy ran.
Ond mae angen i ti gofrestru yn gyntaf. Mae’r manylion am sut i wneud hyn ar wefan y Senedd.
Felly, bacha ar y cyfle i gael dy lais di ‘di glywed a dylanwadu ar y Senedd rwyt ti am ei gweld.
Beth mae Aelod o'r Senedd yn ei wneud?
Cwtsiwch mewn, Gymru, ma’n amser i drafod y Senedd, neu yn benodol, beth mae’r bobol tu fewn i’r Senedd – Aelodau o’r Senedd – yn ei ’neud.
Mae Aelod o’r Senedd – neu AS – yn cael ei ethol gan bobl Cymru i’w cynrychioli.
Mae hyn yn golygu bod eu penderfyniadau nhw yn effeithio ar bethau go iawn yn dy fywyd di. Pethau fel…
Addysg. Ti’n cofio’r cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno? Wel, y Senedd oedd yn gyfrifol am hynny.
A thrafnidiaeth – er, dim y nhw sydd ar fai bob tro ti’n colli’r bws!
Mae’r pwerau yma wedi eu datganoli - sy’n golygu mae Cymru sy’n gwneud y penderfyniadau ar rhain.
Ond be’ ma’ nhw’n wneud?
Mae Aelodau o’r Senedd yn trafod syniadau. Weithiau ma’ pawb yn cytuno ac wel, adegau eraill dydyn nhw ddim!
Mae’n nhw’n dadlau on’d y’n nhw?
Iawn, yndyn, ma’n’ nhw yn dadlau… ond gyda ffeithiau a ffigyrau i gefnogi eu syniadau a maen nhw’n pleidleisio ar gyfreithiau.
Mae Aelodau o’r Senedd hefyd yn helpu i benderfynu sut i wario’r gyllideb.
A faint o arian ydy hynny?
Tua 25 biliwn o bunnoedd y flwyddyn! ae’r arian yn cael ei wario ar bethau fel…
Addysg, felly talu athrawon a staff cynorthwyol mewn ysgolion a darparu gofal plant am ddim i blant tair i bedair oed os ydy rhieni nhw’n gweithio.
Trafnidiaeth, fel helpu gostwng prisiau trenau a phenderfynu ar lwybrau bysiau.
A gweithredu ar yr hinsawdd, fel lleihau llygredd ac annog teithio actif fel seiclo a cherdded.
Mae materion sydd i’w trafod yn cael eu hastudio’n fanwl mewn pwyllgorau. Mae grwpiau bach o Aelodau o’r Senedd yn canolbwyntio ar un pwnc, er enghraifft, iechyd neu addysg, ac yn ymchwilio'n fanwl iddo.
Maen nhw'n siarad ag arbenigwyr, yn darllen tystiolaeth, ac yn gofyn LLWYTH o gwestiynau nes bod y manylion yn dod allan o’u clustiau nhw!
Mae Bae Caerdydd yn le neis i dreulio amser, ond tydy Aelodau o’r Senedd ddim yn byw yno - mae ganddyn nhw gartrefi - yn eu hetholaethau.
Dyma lle maen nhw'n gweithio i'w cymuned. Maen nhw'n mynd i ddigwyddiadau codi arian a rhai elusennol, yn cwrdd â grwpiau lleol ac yn ymweld â gweithleoedd.
Maen nhw hefyd yn cynnal cymorthfeydd – yn llythrennol, lle i roi cymorth - gair da ’de!
Mewn cymorthfeydd, gall pobl – fel chdi a fi – fynd i siarad am bethau sy’n ein poeni, fel toriadau i’r gwasanaeth bws neu lawer mwy o draffig yn yr ardal oherwydd prosiectau adeiladu tai.
Gwaith AS yw gwrando, deall beth sy'n bwysig yn lleol, a mynd â'r materion hynny yn ôl i'r Senedd.
Pam bod mwy o aelodau Senedd ar eu ffordd i Fae Caerdydd?
Wel, ar hyn o bryd mae ‘na 60 o Aelodau o’r Senedd ond ar ôl etholiadau 2026 bydd ‘na naw deg chwech.
Mae cefnogwyr yn dweud bod angen mwy o bobl i adolygu sut mae’r llywodraeth yn gweithredu, gan fod pwerau’r Senedd wedi cynyddu ers y bleidlais ar ddatganoli.
Ond mae gwrthwynebwyr yn dweud dylen nhw wario’r arian ar bethau eraill.
Felly dyna waith Aelod o’r Senedd.
Maen nhw’n llunio deddfau. Maen nhw’n gwneud yn siwr bod y llywodraeth yn gwneud penderfyniadau addas. Maen nhw'n dadlau dros gyllidebau. Ac maen nhw’n siarad ar ran pobol Cymru ac yn eu cynrychioli.
Dy Aelod di o’r Senedd. Dy gymuned di. Dy lais di yn y Senedd.
Beth sy'n newid yn etholiad y Senedd?
Iawn Cymru? Dewch yn agosach! Mae etholiadau’r Senedd ar fin cael “glow up", a dyma beth sy’n newid.
Mae’r Senedd yn tyfu o 60 aelod i 96.
Pam? Er mwyn cael gwell cynrychiolaeth - nid just mwy o seddi, meicroffonau a chwpanau coffi gwag.
Mae Aelod o’r Senedd – neu AS – yn gwneud deddfau i Gymru, nid Lloegr!
Fel - newid y cwricwlwm cenedlaethol, delio â rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a gostwng pris teithio ar drenau a bysiau.
Ar un adeg, roeddet ti’n cael dwy bleidlais yn etholiadau’r Senedd. Un ar gyfer dy ardal leol – dy etholaeth – ac un ar gyfer dy ranbarth, sy’n ardal llawer mwy.
Mae’r newid wedi gwneud pethau‘n lot symlach. Rwan, dim ond UN BLEIDLAIS sydd gen ti.
Ti’n pleidleisio dros blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol – rhywun sy ddim mewn plaid.
Syml iawn!
Ond… dio’m cweit mor hawdd â hynny. Mae pob plaid yn dewis 6 ymgeisydd ar gyfer pob etholaeth – sêt dy ardal leol – ac yn eu rhestru mewn trefnu o 1 i 6 ac yn rhoi eu ffefryn – yr un maen nhw wir isho i ennill – ar dop y rhestr.
System Rhestr Gaeedig ydy‘r enw ar y system yma.
Mae hynny’n golygu ti’n pleidleisio dros blaid, nid dros unigolyn.
Felly os ‘di Yncl Bryn yn aelod o blaid wleidyddol a ti wir isio pleidleisio drosto… fedri di ddim!
‘Ti ond yn gallu pleidleisio dros ei blaid.
A dyma’r ail “dy-dy dyyy”
Os Yncl Bryn ‘di rhif 1 ar y rhestr, mae ganddo siawns dda o ennill. Ond… os di o’n rhif 6, falle ’sa fo'n werth i ti anghofio am y dathlu.
Dyma’r dull D’Hondt.
Sut mae’n gweithio?
Mae’n dechrau drwy gyfri faint o bleidleisiau mae pob plaid yn eu derbyn, yna mae seddi’n cael eu rhoi allan un ar y tro. Ar ôl i blaid ennill ei sedd gyntaf, mae ei phleidleisiau’n cael ei hanneru, felly mae’n mynd yn anoddach iddyn nhw ennill y nesa’. Mae hyn yn parhau nes bod pob un o’r 6 sedd wedi’u llenwi.
Y canlyniad?
Mae’r pleidiau sy’n derbyn y mwyaf o bleidleisiau‘n ennill mwy o seddi. Ond mae cyfle i bleidiau llai ennill hefyd.
“Ta-ta” i’r hen system a “Helô” i’r system newydd.
O hyn allan, bydd gan Gymru 16 etholaeth, yn lle 40 etholaeth a 5 rhanbarth.
Pwy sy’n gallu pleidleisio?
Os wyt ti’n 16 oed neu’n hŷn ac yn byw yng Nghymru – llongyfarchiada’! Rwyt ti’n gallu pleidleisio!
Bydd etholiad yn cael ei gynnal bob pedair blynedd o hyn ymlaen, gan ddechrau ar y 7ed o Fai 2026.
Rho fo yn dy galendr, ar dy ffôn neu dweda wrth y ci – mae cŵn yn caru mynd i bleidleisio!
Felly dyna etholiad Senedd 2026.
Senedd fwy, un bleidlais, cynrychiolaeth mwy teg, chwe Aelod o’r Senedd ym mhob ardal.
Yr un ddemocratiaeth - ond efo “sglein” newydd sbon.
Beth mae'r Senedd yn ei wneud?
Ma’n siŵr bo ti ’di clywed am y Senedd. Senedd Cymru ydi hi ac mae wedi ei lleoli ym Mae Caerdydd. Dyma lle mae gwleidyddion – y rhai rwyt ti’n dewis – yn siarad ar dy ran di.
Yn gyntaf – cyfreithiau. A na, ddim rhai diflas, bach, di-ddim, ond stwff mawr, go iawn sy’n effeithio arnat ti.
Cymer ysgolion, er enghraifft. Pasiodd y Senedd Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, gan arwain at rai o’r newidiadau yma.
Cyflwyno Cwricwlwm newydd yng Nghymru. Cyflwyno dysgu sy'n seiliedig ar sgiliau. A chryfhau statws dysgu’r iaith Gymraeg.
Cyfraith go iawn ti’n ei weld ar waith bob dydd yn y meysydd sydd ‘di cael eu datganoli.
Felly, mae addysg, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yr amgylchedd a’r iaith Gymraeg i gyd yn feysydd sydd ‘di cael eu datganoli.
Yn syml, mae datganoli’n golygu bod y pwerau yma wedi gadael Senedd y Deyrnas Unedig yn San Steffan ac wedi eu trosglwyddo i Senedd Cymru, a gall y Senedd lunio cyfreithiau ar ei gyfer.
Ond, cyn i ti ofyn – dydy pob peth ddim wedi ei ddatganoli.
Fel… Diogelwch y wlad – sy’n ariannu’r fyddin, yr RAF a’r Llynges. Budd-daliadau – sy’n helpu pobl sydd angen cymorth ariannol. A mewnfudo – rheoli pwy a faint o bobl sy’n gallu dod i fyw yn y Deyrnas Unedig.
Yndi, mae’r Senedd yn delio ’efo arian hefyd. Mae’n penderfynu ac yn cymeradwyo - neu rhoid yr oce - i rai trethi Cymreig sy'n aros yng Nghymru. Mae’r rhain yn helpu i dalu am bethau fel ysgolion ac athrawon, meddygon teulu a gofal iechyd meddwl.
Mae'r Senedd hefyd yn cadw llygad ar sut mae llywodraeth Cymru yn gwario'r arian.
Felly, llywodraeth Cymru sy’n gwario’r arian a’r Senedd sy’n dweud,
“Iawn ta… dangos i ni lle mae’r arian yn mynd a pam mae o’n mynd i fana.”
A ddim jest arian cefn soffa ’di hwn. Pan dwi’n sôn am arian, dw i'n golygu tua 25 biliwn y flwyddyn. Mae’r rhan fwya’n dod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond mae rhywfaint yn dod o drethi sy’n cael eu codi yma yng Nghymru. Mae'r arian yma’n aros yng Nghymru.
Felly, dyma enghreifftiau o waith y Senedd. Taclo rhestrau aros hir y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. Rhoi gostyngiad i docynnau trên a rhai llwybrau bysiau. Mae'n gyfrifol am yr arian sydd ei angen i adeiladu tai cymdeithasol. A chefnogi'r iaith Gymraeg drwy ddigwyddiadau fel Eisteddfod yr Urdd.
Lle bach, cyfrifoldebau mawr.
A dyma ’wbath sy’n drysu pobol.
Llywodraeth Cymru sy’n rhedeg gwasanaethau. Y Senedd sy’n gwirio eu bod nhw’n ’wneud job da.
Mae’r Senedd yn gwneud yn siŵr bod llywodraeth Cymru’n atebol i bobl Cymru - ti a fi, felly d’i nhw’m yn gallu gwneud beth bynnag maen nhw isio – o na!
Dyma beth mae’r Senedd yn ei wneud. Llunio cyfreithiau. Penderfynu ar rai trethi. Holi cwestiynnau a chadw golwg ar benderfyniadau’r llywodraeth.
Cynrychioli pobol Cymru – sef ti a fi.



