Episode details

Available for over a year
Ifan Jones Evans sy'n holi Georgia Ruth am y trac ‘Dal ‘Ma Alma’. Wrth i'r gantores baratoi i ryddhau ei phumed albwm – ‘Uncanny Valley’ mae'n esbonio fod ei merch Alma yn ifanc iawn ar ddechre'r prosiect. "Fe ddaeth gyda fi i’r holl sesiynau recordio ac roeddwn eisiau ysgrifennu cân iddi. Mi roeddwn yn meddwl am yr holl ganeuon mawr ‘rhiant i blentyn’ - fel Forever Young gan Bob Dylan - ac yn meddwl lle ar wyneb daear i gychwyn cyfleu popeth yr oeddwn eisiau ei ddweud wrthi. Ac yna un diwrnod, fe glywais fy hun yn dweud ‘fi dal ‘ma, Alma, sai’n mynd i unrhyw le’ wrthi pan oedd hi yn crio. Ac fe dyfodd y gân o’r rhigwm bach mewnol hyfryd yna.
Programme Website