Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,2 mins

Gadael teulu Rownd a Rownd fel galar

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Emyr Gibson sydd yn trafod ei gyfnod yn dilyn gadael y gyfres Rownd a Rownd ar ol 18 o flynyddoedd yn actio'r cymeriad Meical. I'r actorion, Emyr Gibson (Meical) a Manon Elis (Michelle) roedd hi'n ddipyn o newid byd ar ôl chwarae rhannau'r gŵr a gwraig cythryblus ers 1999. Emyr Gibson yw gwestai Beti a'i Phobol, mae'n actor a thenor, yn DJ ac yn Ymarferydd Creadigol o Ddeiniolen, Gwynedd. Yn ogystal â’i waith actio, mae’n perfformio fel canwr ledled Cymru ac wedi bod yn aelod o'r grŵp Trio ers 2013. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn dementia drwy ei waith mewn cartref gofal, lle mae’n defnyddio cerddoriaeth i gefnogi trigolion sy’n byw gyda’r cyflwr. Mae hefyd wedi ymddangos mewn nifer o gynyrchiadau teledu, theatr a radio, gan gynnwys cyfraniadau i MônFM. Mae hefyd yn gwneud gin.

Programme Website
More episodes