Episode details

Available for over a year
Mae safon y signal ffôn o amgylch ardal Llanfechell yn "gywilyddus" ers wythnosau bellach, yn ôl pobl yr ardal. Disgrifiodd fwy nag un ohonynt fod y llinell yn torri heb rybudd yn gyson a bod hynny i weld yn digwydd heb unrhyw reswm amlwg. Dywedodd Elin Wynne o Fynydd Mechell wrth Cymru Fyw, fod "problemau wedi cychwyn ers misoedd, ond yn fwy diweddar ers tua mis mae'n ddrwg iawn iawn". Esboniodd un ffermwr, Gareth Pritchard Jones, fod y broblem i weld yn effeithio ar bawb a bod y sefyllfa yn tarfu ar ei fywoliaeth.
Programme Website