Episode details

Available for over a year
Alun Llwyd sydd yn sôn am ei gyfnod yn y carchar dros yr iaith a'r effaith ar ei deulu. Dywed rhai bod twf a datblygiad y sîn cerddorol Gymraeg i'w briodoli i waith a dygnwch Alun Llwyd. Mae'n un o'r ddau a sefydlodd label ANKST yn 1988, ac 8 mlynedd nôl fe sefydlodd PYST sy'n cynnig gwasanaethau i helpu hyrwyddo recordiau ac Am sydd yn hyrwyddo'r celfyddydau trwy gyfrwng digidol. Mae'n hoff iawn o wylio adar yn ei amser hamdden, ac yn brysur fel aelod o fwrdd Disability Arts Cymru ac yn Is-gadeirydd ymddiriedolaeth Ynys Enlli.
Programme Website