Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,7 mins

Gerddi Rheilffordd Sblot, Caerdydd.

Newid Hinsawdd a Fi

Available for over a year

Railway Gardens/ Gerddi Rheilffordd - Ma’r cynllun yn ardd gymunedol yn Sblot - llecyn o dir sydd wedi bod yn rhandir, yn le chwarae a iard wastraff o fath yn y gorffennol. Yn fwy diweddar, roedd y tir yn cael ei ddefnyddio gan gontractwyr tra’n trydaneiddio’r brif linell trên o Lundain i Gaerdydd. Oddeutu 6 mlynedd yn ol fe wnaeth Green Squirrel gychwyn gwaith ymgynghori efo’r gymuned i weld os fyddai diddordeb i wneud cais gan y Cyngor i ddefnyddio’r tir fel ased cymunedol. O’r cychwyn roedd yn amlwg fod trigolion Sblot yn gefnogol - does na ddim un lle canolog i’r gymuned ddod at ei gilydd, ac mae llefydd gwyrdd yn brin yn yr ardal. Ar ol blynyddoedd o waith caled a chodi arian, mae’r ardd nawr ar agor. Mae'n le i bawb ddod at eu gilydd i dyfu planhigion a llysiau, yn fan cwrdd a rhannu gwybodaeth a dysgu sut i arddio. Ffion Williams a Hannah Garcia sydd yn sgwrsio gyda Leisa Gwenllian.

Programme Website
More episodes