Episode details

Available for over a year
Mae achos gan bob mochyn bob tro i ddrwgdybio dyn, ond ein moch sy’n fudan mwy o fwd Môn i fwd Mynwy: pam yn Llanelwedd, meddwch, dewis hwn i dywys hwch? Al Huws? Oes ganddo leisans? Yna’r jôc: oes unrhyw jans y daw i ben â’r da byw? Boi radio’r beret ydyw! Bydd Dainty ni’n ei Hannwn wrth ddilyn y niws-ddyn hwn. Onid Aled yn rhedeg ar ei hôl yn tuchan rheg ydi’r un olygfa drom (un wir glasur) a glywsom? Hwn yn hastio’n anystwyth, hi’n taro rhech fel Twrch Trwyth? Ac er golchi’r tethi twt yn ffeind, er mai cynffondwt ydi Dainty cyn ei dydd, yn “waw” o binc o’r newydd, draw ar y llain, arwain hon i’r manure – y mae’n wirion. Iddi ei thwlc fydd ei thŷ; rwyt Al yn un o’r teulu ond am ei cherdded wedyn? Yn syber ddiawl, sobra ddyn – yn ynfyd mae sawl cenfaint yn eu dom gwlad am gael haint. Huwsi a Dainty eich dau: imi heddiw rhaid maddau ond proffwydaf, ofnaf i y baeddwch, ac y bydd-hi heb os (er teimlo drosoch) ar hyd y maes yn draed moch...
Programme Website