Episode details

Available for over a year
Bob dau haf mi fyddaf i’n oes oesol (wedi i’r Saeson golli) yn mynnu’n hurt: “dyma ni!” Hyd angau’n dal i dyngu: “dyma’r un, dyma’r awr i Gymru wneud nid dweud!” Rhoi i’r naill du siom un gêm, sham o own-goal, neu’r rhincian am rancings uffernol a phoenau amddiffynnol: yn hytrach, yn ara bach, bydd hyder eto ar ddod o’r newydd mai’r tro yma, dyma’n dydd. Mi welaf lan y Sianel a’n ffeinals draw dros ffin y gorwel. O’r diwedd mae cred dawel yn y wawr er pob hen wae, yn y gwŷr a’u gorau gyd-chwarae: dod mae’u cyfnod ar y cae. Mae’n wir fod yma’n aros, o chwilio, sawl drychiolaeth agos. Fe wn i am hunllef nos a minnau’n ail-fyw Romania, yn gweld Bobby Gould, a Georgia, a dryswch droio Rwsia. Mae hyn yn fy mrathu’n fy mron, a hyn sy’n trywanu’n greulon y graith ym mhob blwyddyn gron. Dduw annwyl holl ddaioni byd y bêl, yn anwel eleni fry o’r y nef, jest ffafria ni...
Programme Website