Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,20 Sep 2026,56 mins

Sharon King

Beti a'i Phobol

Available for 33 days

Mae Sharon King yn Ddarlithydd mewn Gwyddor Filfeddygol yn Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth. Mae ganddi gefndir helaeth mewn ymarfer milfeddygol, ar ôl graddio mewn Gwyddoniaeth Anatomegol o Brifysgol Bryste ac ennill gradd BVetMed o Goleg Milfeddygol Brenhinol Llundain. Cafodd ei chydnabod yn genedlaethol yn 2026 pan enillodd Gwobr Mentor Milfeddygol Cymdeithas Filfeddygol Prydain (BVA Veterinary Mentor Award) am ei chyfraniad eithriadol at fentora a chefnogi myfyrwyr a chydweithwyr yn y proffesiwn milfeddygol. Cafodd ei chanmol am ei thosturi, ei chefnogaeth bersonol, a’i hymrwymiad i feithrin hyder a datblygiad proffesiynol y genhedlaeth nesaf o filfeddygon. Mae hi hefyd yn gweithio fel milfeddyg 1 diwrnod yr wythnos yn Aberystwyth, ac yn fam i 2 o blant. Sharon oedd y ferch gyntaf i weithio fel milfeddyg yn Nolgellau, ac mae hi'n cofio'n glir cyfnod clyw traed ar genau yn 2001, " mae dal yn fyw yn y cof" a'i effaith ar ffermwyr Cymru. Cawn hanesion difyr ei bywyd, ac mae hi hefyd yn trafod yn agored cyfnodau o iselder mae hi wedi eu profi a sut mae ei ffydd Gristnogol wedi bod o gymorth. Mae ganddi ambell stori ddoniol o'i chyfnod fel milfeddyg ac fe glywn am hanes Oscar y crwban sydd ganddi sy'n 90 mlwydd oed! Fe fydd Sharon hefyd yn dewis 4 cân, Anfonaf Angel, Rhys Meirion a Pharti Cut Lloi yn canu “Dôl y Maen”.

Programme Website
More episodes

Tracklist

  1. Track
    Artist
  2. 1.
    Grym y Lli
    Grym y Lli
    Parti Cut Lloi
  3. 2.
    Anfonaf Angel
    Anfonaf Angel
    Rhys Meirion
  4. 3.
    Ceidwad Y Goleudy
    Ceidwad Y Goleudy
    Bryn Fôn
  5. 4.
    Gwahoddiad
    Gwahoddiad
    John Jenkins, The Treorchy & Morriston Orpheus Choirs