Episode details

Available for 22 days
Heledd Bebb, Cadeirydd Mentera ac Angharad Edwards o gwmni Llaeth Preseli sy'n ystyried os ydyn ni’n gwneud digon i hyrwyddo ein cynnyrch Cymreig? Mae'r Gymraeg yn denu pobl o bob cwr a phob cefndir, gyda mwy nag erioed yn dewis dysgu'r iaith. Tomos Hopkins, Cadeirydd Maes D, sy'n ystyried beth sydd wrth wraidd y twf hwn, a sut mae Maes D yn helpu i feithrin hyder a chreu cymuned i ddysgwyr? A'r Athro Siwan Davies o Brifysgol Abertawe sy'n trafod cefndir ei darlith ‘Edrych yn ôl ac i’r dyfodol ar yr argyfwng hinsawdd’ fel rhan o arlwy Cymdeithas Ddysgiedig Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las.
Programme Website