Episode details

Available for 24 days
Y milfeddyg o Aberystwyth, Sharon King sy'n sôn am ennill gwobr fentora gan Gymdeithas Brydeinig y Milfeddygon yn ddiweddar. Hefyd, Dilwyn Pierce sy'n edrych ymlaen at Sioe Geffylau a Chŵn Llannefydd sy'n cael ei chynnal y penwythnos nesaf. Clwb Ffermwyr Ifanc y Mis yw CFFI Abergwaun yn Sir Benfro. Tomos Evans a Rhys Colnet sy'n sgwrsio am rai o brif rinweddau'r clwb. Y gyfreithwraig Awel Mai Hughes sy'n crynhoi'r newyddion diweddaraf o fyd y cyfreithiau a'r polisiau amaethyddol. A Lois Cernyw sy'n adolygu'r wasg amaethyddol yr wythnos hon.
Programme Website