Ffair Rhos vs Beca.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.

Ffair Rhos.

Ffair Rhos.

Beca.

Beca.

Cwpled Caeth ar yr odl 'eb'

Llain Gaza Ionawr 2009

Undydd, a ddaw cytundeb
I arfordir yn nhir neb.

Emyr Jones
8 ½ pwynt

Cwpled caeth ar yr odl 'eb'

Sylw hael gaiff y seleb
A'i hanes yn ein hwyneb.

Cerwyn Davies
9 pwynt

Pennill Ymson mewn Priodas

Yn yr eglwys wyf mewn gwewyr,
priodi wnes y ferch anghywir;
Nid fi wnaeth y camgymeriad -
Llygaid tro oedd gan y ffeirad.

Lyn Ebenezer
9 pwynt

Pennill ymson mewn priodas

O beth a rown am fod fel rhain
Ar ddechrau byd priodasol,
A chael ail-fyw fy mywyd 'to
Tro hyn 'da menyw wa'nol! Howell Mudd

8 ½ pwynt

Cywydd [heb fod dros 12 llinell ]:Hud

O feddwl am gau Ysgol Ysbyty Ystwyth llynedd ar ôl 130 o flynyddoedd

Fe ddaw hen ias ddoe yn ôl
I'n mysg ond sôn am ysgol,
Rhyddhau o'r cof atgofion
Am yr hwyl rhwng muriau hon,
Ail fyw storiau dechrau'r daith
A'r doniau ar iard uniaith.

Heddiw does sgrifen eiddil
Ar y wal nac un o'r hil,
Haen o ddwst sy ar ford ddu
A neb yn ei wynebu.
Ar ruthr ni ddaw'r athro
I hwyl y wers - mae drws clo.

Swyn y gloch sy'n galw o hyd
Yno af, heb fynd hefyd.

Dai Jones
8 ½ pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): 'Hud'

Ddoe'r naws bylodd o'r noswyl,
Aeth yr hud o drothwy'r ?yl.
Ffordd diniweidrwydd a ffodd,
Y newyddion a ddyddiodd.
Plastig yw'r seren heno,
Eira ffug a mi ar ffo'n
Rhy ddoeth i fynd 'da'r doethion,
Rhy gall i ddyall y ffordd hon
A rhy c?l fore'r Calan
Fy natur i ganu'r gân.

O! am gael yn hael o'r hud
Eilwaith a phrofi'i olud.

Wyn Owens
8 ½ pwynt

Limrig - 'Beth welais ym Miwla un noson'

Beth welais ym Miwla un noson
Ond dau dîm o feirdd yn ymryson;
Roedd y naill dîm, wir Dduw,
Yn ddi-glem a di-gliw -
Roedd y llall, jiw, o ardal Tregaron.*

Lyn Ebenezer
8 ½ pwynt

Limrig: 'Beth welais ym Miwla un noson'

Beth welais ym Miwla un noson
Mewn golau dwy 'dorch' fel angylion
Yn eiste'n jacôs
Oedd bechgyn Ffair Rhos
Mewn mynwent, yn dwgu englynion.

Howell Mudd
9 pwynt

Englyn yn cynnwys tri phlanhigyn

Gardd drws nesa

Mas y bac sy'n darmac del - heb rosod,
Na bresych na phorfel,
Achwyn wnaf fod chwyn yn hel
Yn afiach dros y grafel.

Emyr Jones
8 pwynt

Englyn yn cynnwys tri phlanhigin:

Pob rhosyn hardd fe'i prisaf - y tiwlip
Talog fe'i hedmygaf,
Ond dant y llew yw'r glewaf
Dyry'r cnwd heb dendio'r cnaf.

Wyn Owens
8 ½ pwynt

Cân [heb fod dros 20 llinell ] Y Tîm

Ce's ryw blwc o glywed ar newyddion
chwech, er y sylweddolwn erbyn hyn
ef oedd yr olaf un o'i gyfoedion
oedd wedi mynd o'i flaen o un i un..
Bellach, ond un o'r pedwar oedd ar ôl
i'n diddori am y dyddiau hynny
ers lawer dydd, cyn oes y Rock 'n Roll
ddod i fagu gwreiddiau yma 'Nghymru.
Ifan Jenkins, Dafydd Jones, a'r Cilie'
ffraeth ei gynghaneddion, yn tynnu gwên
ar lwyfan ymrysona, unrhyw le,
o raglen Radio draw i'r Babell Lên;
Mae llwch yr olaf heno yn y gro
o'r tîm na ga'dd ei guro ddim un tro.

Raymond Osborne Jones
8 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Tîm

Mae mwy o brops a bachwyr gennym ni
Na does mewn timau eraill ysgafn droed,
Nid oes rhai tal i'w codi fyny fry
I sicrhau y meddiant yn ddi-oed.
Dim un canolwr nac asgellwr cloi
All fynd trwy fwlch gan dwyllo pawb â'i dric,
Na maswr 'chwaith a'i grefft yn un all droi
Amddiffyn yn ymosod ag un gic.
Ond pan gawn bêl, ni rwystrith 'four by four'
Y Tîm a'n pasio cudd o law i law,
Gan hyrddio mlaen fel ton ar don ar fôr
Gan adael gwrthwynebwyr yn y baw.
Os nad yw'r tîm yn ennill, credwch fi,
Pryd hynny byddai'n diawlio'r reffari!

Eifion Daniels
9 pwynt

Ateb Llinell ar y pryd:

Nid yw neb yn mynd yn iau
Heneiddio mae fy nyddiau.

1 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Nid yw neb yn mynd yn iau
Na dynion chwaith yn denau.

Englyn Cywaith : Dathlu

Ionawr 20ed 2009 - Barack Obama yn Arlywydd yr UDA

Rhoi ei lw wna'r Arlywydd - yn wrol
Mewn awr o lawenydd,
I ?r hawddgar dyma'r dydd
O iasau i'r arloesydd.

Emyr Jones
8 pwynt

Englyn cywaith: Dathlu

Wedi'r cell a'r fflangellu - a dyddiau'r
Dioddef a'r sathru,
Adeg ail-adeiladu
A'r gwyn yn derbyn y du.

Rachel James
9 pwynt

Telyneg : Cyfoeth

Er cof am fachgen o'r pentref Dai Davies, a dreuliodd ei fywyd yn gweithio'n Siop Woolworths ar Stryd Fawr, Aberystwyth ond a fu farw ar yr un wythnos y cauodd y cwmni eu drysau am y tro olaf.

Yn Ionawr y dirwasgiad
Siop arall wedi cau
A'r stryd fawr eto'n llwmach
Yn sgil yr hinsawdd frau.

Yn Ionawr y dirwasgiad
Fe alwyd Dai yn ôl
Run wythnos pan wnaeth Woolies
Roi miloedd ar y dôl.

O'r ysgol prin ni chollodd
Un diwrnod wrth ei waith
Ni fu na neb mor deyrngar
Dros ddeugain mlynedd faith.

Mor falch o'i 'gwmni' ydoedd
'Siop orau y stryd fawr'
Wrth frolio'r llu bargeinion
Mi fyddai'n tyfu'n gawr.

Y pick-n-mix, teganau
Cd's a'r dillad plant
Pensiliau lliw a'r beiros
Recordiau wrth y cant.

Eu cyfoeth hwy ddiflanodd
Rôl canrif mwy neu lai
Ond bywyd yn llawn cyfoeth
Gan rhain a gafodd Dai.

John Jones
8 pwynt

Telyneg: Cyfoeth

Garddio 2008

O flaen ein tai, yn lliain llyfn
o felfed, tyfai lawntydd gwyrdd;
ac oddi fry, roedd sidan dail o wledydd pell
yn aur ac arian; ac roedd myrdd
o liwiau'n brodio drwy'r petalau drud -
borderi crand o flodau'r byd.

Ac mor ysblenydd oedd y sioe
Stori ddoe.

Pan ddaw yr oerfel gyda'i frath
i gloi'n afradedd, yn yr ardd
sy'n rhychau trefnus, twt mae cyfoeth gwlad,
mewn gwlydd a gwreiddyn; llafur hardd
yn gweithio gyda'r pridd a'r hadau mân,
A bwydo'r teulu cyfan gyda chynnyrch glân.

Cathryn Gwynn
8 ½ pwynt

Englyn ar y pryd: Difrod

Er ffyniant y gorffennol - ar ei hyd
a'r hyder ariannol,
atodeg ystadegol
yw'r dyn a roed ar y dôl.

8 ½ pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 76

Englyn ar y pryd: Difrod

Rhwygir y cyrff o'i frigau ym mro'r hollt
mor rhad yw bywydau.
Pa storom waeth na'r bomiau?
a pha bris fel y cyrff brau?

Rachel James
8 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 78

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth ar yr odl 'eb'

Nid yw'r nos yn nos i neb
A'r Iesu yn ei breseb.

I'r sawl a gâr ddihareb
"Na ddifa na 'nafa neb".

Yn ein hoes, sut fyddwn heb
Yr Iesu yn ei breseb ?

Dydd na nos, na, ni ddaw neb
I brisio gwerth Ei breseb.

Pennill ymson mewn priodas

Mi fues yn dathlu ech-dwe
Mewn priodas yn y Llan,
Daeth tyrfa fawr i dystio
A nifer yn cymryd rhan,
Wedi'r wledd a'r sbort a'r bwrlwm
Pa mor hir y par y cwlwm?

Mi hoffwn fod yn fferiad
I edrych arni'n reit.
Achos mae'r ffrog sydd ganddi
Yn ffito'n eitha teit.

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): 'Hud'

I gofio T Llew

Ei eiriau yn berlau byw
Yn Niagra unigryw.
A'i fawredd cyfareddol
Yn gwau'n drysorau i'w gol:

Yr hafan a'r cafan cu
Yn emau sy'n byrlymu
O wefr a ddeil i befrio
Yn warin comin y co'.

Llif ewynnol o olud
A erys yn enfys hud.
Llefarydd y llifeiriant
Yw degfed planed y plant.

Limrig: 'Beth welais ym Miwla un noson'

Beth welais ym Miwla un noson
Wedd beirdd yn sgrifennu penillion,
Ond cynnyrch eu hawen
A daflwyd i'r domen -
Prydyddion Ffair Rhos a'u hymdrechion.

Beth welais ym Miwla un noson
Oedd plismon yn wafo ei drynsion
Ar ôl menyw borcyn,
Ond cofiodd yn sydyn
Ei fod ar y ffordd i'r ymryson.

Beth welais ym Miwla un noson
Oedd llew a jiraff yn ymryson,
Ac wedi'r digwyddiad
Cewch weld y canlyniad
Ar fwydlen y Ship Aberaeron

Beth welais ym Miwla un noson
Oedd dynion Ffair Rhos yn ymryson,
Wel, am gwpled caeth..
Eu limrig oedd waeth,
Ac O! mor ddi-chwaeth eu penillion.

A minnau yng nghanol 'mreuddwydion,
Beth welais ym Miwla un noson ?
Prydyddwyr Ffair Rhos
Hyd eu bogel mewn ffos
I'r englyn, yn chwilio planhigion

Englyn yn cynnwys tri phlanhigin:

Yr addfwyn lili'r Wyddfa - a'i Ladin
'Lloydia Serotina'
*Aur yr yd yn lliwiau'r ha' * Siwapis arvensi
**A Peli Pili Pala. ** Buddleja globosa

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Tîm

Mi gefais i fy ngeni
yn oes y cot a'r pram,
i mewn i dîm dynoliaeth -
dyna ddywedodd mam.
Y sesiwn 'marfer cyntaf
oedd aelwyd gynnes glyd,
er mwyn cael chwarae'n gyson
a chario baich y byd.
Y sesiwn 'marfer nesaf
oedd ysgolion bach a mawr
i ofalu mod i'n chwarae
i'r garfan gywir nawr.
Feddyliais i ddim unwaith
mor frwnt eu gêm fach hwy'n
defnyddio arfau rhyfel
i ennill mantais mwy.
Na drueni na chaem addysg
i arwain tîm y wlad
i'n codi o'r argyfwng
sydd yn wynebu'n gwlad.

Englyn cywaith: Dathlu

Pob cam mi brofwyd drama - ym merw
A miri sawl tyrfa,
Creu cyfoeth i'r doeth a'r da,
Nid bom yw byd Obama.

Telyneg: Cyfoeth

Mae cnwd yr hen grerdinen
Yn fflamgoch ar y rhos,
A haul yr hwyr yn taenu
Lliw'r gwin dros berth a ffos.

Rwyt tithau 'mysg y perthi
Yn rhannu yn y wledd,
Yn profi rhin yr eiliad
A'r gwrid yn llonni'r nos.

Y gaeaf ddaeth yn gynnar
I grio yn y gro,
A'i bladur oer didostur
Ysbeiliodd geinder bro.

Mor hardd yr hen gerdinen,
A'r cyfoeth yn ei chôl
Yn adlais pur o gariad
Yr un na ddaw'n ei hôl.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.