Aberhafren vs Tanygroes
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.
CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'AIL':
Er teimlo archoll colli,
nid ail, fy mab, fyddi di.
Llion Pryderi Roberts
8 pwynt
Cwpled Caeth yn cynnwys y gair "ail":
Mae ail le yn safle sydd
Yn troi'i wawd ar y trydydd.
Phillipa Gibson
8 ½ pwynt
LIMRIG YN YMWNEUD Â CHOGINIO:
Un hoff iawn o'i fwyd oedd Dai Munch,
nes colli ei ddannedd 'da crunch,
ar ôl berwi wy
am bump awr a mwy,
a nawr fo 'di Dai Liquid Lunch!
Llion Pryderi Roberts
8 ½ pwynt
Limrig yn ymwneud â choginio:
Escargos mi welais ar fwydlen,
A bwyta fe wnes i ddwy slampen,
Ond whap yr oedd rhein
Yn nofio'n y Sein:
Esboniad, yn wir, nid oes angen.
Arwel Jones
8 ½ pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS Y GEIRIAU 'ER HYNNY':
Mam yn rhoi'i babi i'w fabwysiadu
Ymrwymo i'w roi ymaith - er hynny,
ei roi wnaeth hi ganwaith
a'i enwi, hefyd, unwaith,
yng nghoflaid ei llygaid llaith.
Rhys Iorwerth
9 pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau "er hynny"
(Ymson Dyn Dall)
Yr oedd hi fel miri'r môr - er hynny
Mi rannodd ei hangor,
A gwag fydd crwydro rhagor
Lwybrau dau heb Labrador.
Wynford Jones
9 pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): AR Y WÊ:
Yn neiliach ein Cymru beth amser yn ôl
roedd casgliad o chwilod yn cecru'n reit ffôl,
nes i chwilen a hanner eu huno i gyd
yn nythaid fach hapus, yn gynnes a chlyd,
ac felly y buont am flwyddyn neu ddwy'n
chwilota'n y mwsog heb eisiau dim mwy.
Ond yna daeth corryn llygatrwth o Sais,
a dweud wrth ei linach 'O Golly! That's nice,
a nest full of beetles, I fancy a feast'.
A dyna oedd dechrau'r holl hanes trist.
O dipyn i beth amgylchynodd eu tir
â rhwydwaith o gestyll, ac edau main clir.
Roedd hwnnw mor ludiog, fe ddaliodd bob un
a feiddiai ymwrthod penlinio i'w lun.
Ganrifoedd yn hwyrach, a'r brenin mewn bedd
diddorol yw sylwi, er nad oes llwyr hedd,
mor wag ydyw'r cestyll sy'n drwch dros y lle
a'r chwilod yn fyw ac yn iach ar y wê.
Owain Rhys
9 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell) : "Ar y We"
'Rhen gramaffôn 'n y gornel, fu gynt â'i records lu:
Pregethau Christmas Ifans a'r enwog Jiwbilî.
Compiwter sy' 'co heddiw, gerllaw llygoden fach:
Mae Gracie Fields ar ai-pod, ond eto'n canu'n iach.
Gwneud ymchwil wnes o'm hachau, a'u derbyn ar y we,
Obama'n cofio ataf o bellter Sante Fe.
Rhai'n byw yn Honolulu a thri o Tenesî,
Rhai o berfeddion Tymbl, ac un o 'Nachlog-ddu.
E-bost fe ges o'r Pwnjab: rhyw Ali Ghandi Jones,
"You are my cousin Sahib, you are my flesh and bones".
Fy nhaid fu yn genhadwr, do, rhodiodd India i gyd,
Sdim cownt fod wedi priodi - gwell peidio dweud dim byd
Ces su o bellter Tsieina bod claddfa fawr mewn cwm
A milwr Terra Cotta, mae'n debyg, fu'n fardd trwm.
Ai perthyn mae i Oernant? Gwneud ymchwil nid oedd raid:
Beiffocals ar ei dalcen, a welis am ei draed.
Yn eistedd mae mewn phaeton o ddarnau amryw seis,
Mae hon fel Fiat leol, yn haeddu'r Tyrner Preis.
Arwel Jones
9 pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): GALWAD:
Drwy ei beint ym mhen draw'r bar,
yn wargam o fyfyrgar,
eto heno wrtho'i hun
mae'n edrych mewn i'w wydryn;
Drwy'r cwrw, ni welwn ni
yr hyn sydd yno'n cronni
yng ngwaelod ei ddiod ddu,
yn nhywyllwch y syllu;
Am seiat aiff neb ato,
ond dod mewn o'r stryd mae o
at yr un llun a'r un lle,
yr un gwydryn, ac adre.
Rhys Iorwerth
10 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): "Galwad"
Clywais alwad o'r padoc -
"Cwcw lon" yn weindio'r cloc.
A'i halarus alarwm
Yn bywhau ein lleiniau llwm.
Daw yr haul eto i dreulio
Foreau aur yn ein bro.
'R awel deg ar olau dydd
Yn gwynnu pridd y gwaunydd,
Â'i chwmni hi fe ddaw'r haf
I gaeau gwiw y gaeaf,
A rhy'r hwb ar erwau'r graith
I'r olwyn gael troi'r eilwaith.
Emyr Oernant
9 pwynt
PENNILL YMSON WRTH WELD HYSBYSEB:
Caf ecstras am ddim os pryna i'r car,
meddai'r teli, mae'n rhad am ei bris,
ABS, Alloy wheels, air con a CD,
caf hyd yn oed dalu bob mis;
ond 'waeth am y rhain, mi brynaf i graen
os caf i y bishyn sy'n eiste'n 'tu blaen.
Llion Pryderi Roberts
8 pwynt
Pennill ymson wrth weld hysbyseb:
Trioled
P'le 'ngheiniog brin i'r Ceffyl Du
A storws lawn uwch stablau'r bancie ?
Mae'r ceirch yn brin a'r rhastal fry,
P'le 'ngheiniog brin i'r Ceffyl Du ?
I'r Games a'r drin cynhorthwy sy',
a childwrn aur yng ngenau'r sache.
P'le 'ngheiniog brin i'r Ceffyl Du
A storws lawn uwch stablau'r bancie ?
John Meirion
9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Na, nid yn rhwydd y llwyddir
Yfory i gelu'r gwir.
1 pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Na ,nid yn rhwydd y llwyddir
Droi munudau'n oriau hir.
ENGLYN CYWAITH: GORCHYMYN:
Sef y 'Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol' (LCO) y mae'n rhaid i Lundain ei gymeradwyo bob tro er mwyn i Gymru allu pasio'i deddfau ei hun. Mae honiad fod ambell i Aelod Seneddol yn ceisio arafu, cymhlethu a rhwystro'r broses.
Nid yw bad o ddyheadau - i'n dwyn
i dir dros y tonnau
yn ddim pan fydd un neu ddau
yn hel y gwynt o'n hwyliau.
Owain Rhys
8 ½ pwynt
Englyn Cywaith: "Gorchymyn":
Gorchymyn Kitchener
"I'r drin dros wlad eich tadau - ewch yn awr
Dewch 'nôl ymhen dyddiau."
A hwy oll yn ufuddhau'n
Enbydus â'u bywydau.
Emyr Oernant
9 pwynt
TELYNEG: INC:
Mae hi'n haws
pwyso botwm
y dyddie hyn
i ddweud helo.
Arbed amser,
papur ac inc...
Geiriau dau yn hofran yn yr aer
fel gwres cusan.
Ond pan af i dwrio
rhwng e-bost a thecst
yng nghefn drôr
fy meddyliau,
gwelaf,
rhwng dalennau sych
hen garden felen.
Rwyt yno Mamgu
yn ddawns o ysgrifen
a chledr dy hanes yn sgwaryd
straeon dy fod
hyd y papur.
Fe'th welaf
yn got wlân o Gymreictod
yn trafod yn y sêt fawr...
dilynaf ôl dy draed yn ofalus
i nôl dy bensiwn,
talu'r dyn llaeth,
prynu cig i'w rostio'n gariadus
i ddau . . .
sgandals a storis
yn troi'n groen
dros goffi.
A gwelaf
ym mygydau wynebau'r wê
nad oes amser mwyach i eiriau.
Caiff ein straeon eu sibrwd
yn deilchion
o glust i glust.
Mari George
9 pwynt
Telyneg: "Inc"
Fe'i gwelais ar y ddalen
Wrth fodio'n ddiymdroi,
"Er cof am rywun annwyl",
A minnau'n dal i droi.
Ond gwn am un fu'n nodi
Am fod ei henw hi
Yn fwy nag inc ar ddalen,
Yn fwy na'm brysio i.
Ken Griffiths
8 ½ pwynt
Englyn ar y pryd: Gwên
Gwên Cardotyn
Ar hynt i'w lwybr yntau - iddo ef
Yn ddig, rhof geiniogau,
Ond wedyn, drwy'r brethyn brau,
Rhy wên i'm llorio innau.
Ifan Plemming
8 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 80
Englyn ar y pryd: Gwên
I mi, nid ond Mam a aeth - o 'mywyd
Â'i mwy yn fy alaeth
Er mor ddi-nam yw'r fam faith
Ni wna wên o wahaniaeth
8 ½ pwynt
Tasg ychwanegol:
O Drefach adref af i
I afiaeth Aberteifi.
CYFANSWM PWYNTIAU: 79
Cynigion ychwanegol:
CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'AIL':
Dy garu gwyllt ac oeri
am yn ail, ddaw rhyngom ni.
LIMRIG YN YMWNEUD Â CHOGINIO:
Mi fuish i'n coginio 'fo Dudli,
a'i Gasa yn Sbaen oedd reit cinci,
"A wir", meddai Jên
(ma' hi'n hogan glên)
â gwên, "Ma'r Chirozo ma'n lyfli!"
Un sâl am goginio oedd Meri
er gwylio'r holl sheffs ar y teli,
yn wir, roedd mor wael,
bob Sul yn ddiffael
fe gwciai gig rhost drwy ei ferwi!
ENGLYN YN CYNNWYS Y GEIRIAU 'ER HYNNY':
Alzheimer's
Awn ati'n wenau eto - awn heddiw'n
awyddus i ddwstio'r
hen lwch hyll syn pylu'i cho;
er hynny, ni ?yr honno.
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): Galwad:
I gyfarch y Darpar Arlywydd
Heno gw?r sy'n clywed gwaedd
y corwynt sydd yn cyrraedd.
O egin gwawr Chicago
yn awr, fe ddaw ei swyn o
i'w hil ei hurddas eilwaith.
Her y du ar ôl hir daith
yn gyfartal, dal dwylo
yn un a King yn ein co';
heddychwr fel y g?r gynt
a'i freuddwyd yn fur iddynt.
Un coeth ar ran y caethwas
a'i drefn yn clodfori'i dras.
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): Galwad:
Fel fflamau, mae'r lampau lu
eto heno'n tywynnu
drwy'r dref, ac yntau hefyd
yn cael hoe'n ei wely clyd.
Er hyn, mae ffôn yn ei thro'n
ddi-enw'n ei ddi-huno,
cân chwerw acw'n chwarae
hen diwn hyll, mae'n diwn o wae.
Yn y nos, heb gwmni neb
mae eto am ei hateb,
ac efe i'r bore bach
o'i alwad yno'n welwach.
PENNILL YMSON WRTH WELD HYSBYSEB:
Rwy'n eistedd yn fud yn fy nghadair fan hyn,
'rôl gwylio hysbyseb mor wych
yr actio'n rhagorol, fel drama yn wir,
prin bod fy nwy lygad yn sych;
â sglein ar bob delwedd, mor grefftus a slic
'ma gampwaith ôl-fodern yw hwn,
ond erys un gwendid o'i wylio yn awr,
beth ddiawch oedd o'n werthu, ni wn!
ENGLYN CYWAITH: GORCHYMYN:
Ar y gair, cei ddechrau gwyro drwy'r nwy
i dir neb, gan fentro'n
was ufudd, heb gyhuddo,
â chri wrth golli dy go'.
Cynigion ychwanegol:
Cwpled Caeth yn cynnwys y gair "ail":
Byw yr wyf heb ddod i'r brig,
A gwn na chaf ail gynnig.
Y mae dyn yn rym di-ail:
Hefyd mae yn anifail.
A'i weryd o dan eira
Gweld ei wyn wna'r bugail da.
Daw i'r call o gnydau'r co'
Yfory'r ailgyfeirio.
Limrig yn ymwneud â choginio:
Am groen pen-ôl babi yn gyson
Yr ateb yw ffreipan o wymon,
'Run lliw â dom da,
Fel pancos mewn ca':
Mae'n hyfryd 'da sleisen o gamon.
Fe ddaeth y cynhwysion mewn lori,
Mi dalaf amdanynt rhyw 'fory:
Mi ddwedaf wrth Darlin'
Os ddaw ef i'm cegin,
Mai Browns Credit Crunch yw'r bisgedi.
Mae'r cogydd bob dydd yn ein rhegi-ni;
Mae'n bloeddio "Ewch allan o'm cegin-i",
Ond druan ohono,
Fe losgodd y Bistro
Wrth iddo gor-rostio rhyw Becini.
(Plwm Pwdin Aberhafren)
Rhowch Gardis a chynnyrch Sir Benfro,
Peth Gogs a Sir Gâr i mewn iddo,
Un pinsh o Rydfelen
A pheint o ddwr Hafren
A'r cogydd Rhys Dafis i'w gwcio
Englyn yn cynnwys y geiriau "er hynny"
(Nadolig 2008)
Dim hwyl, dot.com, dim hela, - er hynny'n
Oer iawn, mae am eira;
llais y Cwîn, dyn o India -
a beil hir heb wyliau ha'.
(Cymydog)
Ganwaith, cawn ein gwahanu, - â'i haniad
A'm heniaith i'n rhannu:
Oni rannwn, er hynny,
Ein chwerthin iach wrth 'y nhy ?
Un rhagorol, gwâr i'w garu, - un llon:
Llawenydd ein teulu,
Annwyl fab, anwylaf fu;
Trywanwyd, do, er hynny.
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): "Galwad"
Galwad i godi
Ar y llawr, a briw'r llorio
A hanes gormes yn go',
Bu un ewn yn ateb 'Na!',
I'w hoes, fe roes gair Rosa
Her â'i llais - hyder y sedd
Rhyw estyn lan o'r eistedd
Bu Martin, nes erfyn "Saf!"
Âi ar daith i'r hyd eithaf,
A'i angerdd, pan fu'n cerdded,
Wnâi Barák ateb i "Rhed!",
A rhoi i'r hil hawl i'w rhan
A wna'i hadfer i hedfan.
Pennill ymson wrth weld hysbyseb:
"A fuoch chwi mewn damwain" -
Yr hysbys ar T.V.:
Fwlturiaid digywilydd.
Pwy fusnes yw i chwi ?
Pa ots sydd am wirionedd:
Y du fe wnewch yn wyn,
Yr euog neu'r dieuog -
'Na'r drefn y dyddiau hyn.
Rwy'n gweled rhyw ddiwyrnod
Llawn c'wilydd a llawn chwys:
Yr Iôr fydd ar yr orsedd
Mewn nefol sanctaidd lys.
Gall hwn gael styfnig farciau
O'r bwrdd a'r offer cegin,
Ond tybed nawr a fedraf
Gael marc o styfnig Feuryn.
Englyn Cywaith: "Gorchymyn":
Â'i afael dros Ei ddyfod, - ei warant
Yw'r her a'r awdurdod;
Ei rymuster yw Herod
A'i waed o'r cledd, ydyw'r clod.
Nef a roes ddeg rheol fras - inni'n glir
Ond pan glyw'n cymdeithas
Un ôl briw, ni wêl, heb ras,
'Na ladd' yn gwbwl addas.
Telyneg: "Inc"
Rhy fynych oedd y sgrifen goch
Dros lyfrau yr ysgoldy
Fu'n dangos im ble es ar goll
A nodi'r wers i'w dysgu.
Mor fynych yw y marciau coch
Dros hanes byd o'm deutu,
Yn dangos ein camweddau oll
A'r wers sydd heb ei dysgu.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

