Howgets v Llanrug

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y drydydd rownd o gyfres y Talwrn.

Howgets

Howgets

Llanrug

Llanrug

Cwpled caeth yn cynnwys dau liw:

Nos rebel Ynys Robben
Oedd ddu, ond ei wawr oedd wen.

Meirion Jones
9 Pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys dau liw:

Mae'r Ffergi lwyd yn clwydo
Yn rhwd coch, hen grud y co'.

Richard Lloyd Jones
8 ½ Pwynt

Englyn yn cynnwys y gair 'englyn':

Her englyn yw cyfuno - y cynnil
a'r canu a'n deffro,
dwyn yr ias sy'n denu'r "O!",
y wên sy'n dweud: "Bûm yno".

Annes Glynn
9 Pwynt

Englyn yn cynnwys y gair "englyn"

Er llunio pedair llinell - o rawnwin
Yr heniaith, rhown chwistrell
I hybu iâs i'r bibell,
Inni gael blâs englyn gwell.

Richard Lloyd Jones
8 Pwynt

Limrig yn ymwneud â choginio

Gwnaeth ceiliog o ardal Cwm-ann
Ei ffortiwn yn gyrru i bob man
Yn dosbarthu siocledi
Ar hyd y pentrefi -
Nawr dyna beth oedd coco-fan!

Endaf ap Ieuan
9 Pwynt

Limrig yn ymwneud â choginio.

Un diwrnod lle gynt roedd y t? 'co,
Rhoddais ?y'n syth o'r nyth yn y meicro;
"Da chi'm fod i neud hynny
Ma'n deadly" medd Dudley,
"'R hyn gewch chi 'di ?y wedi ffrwydro."

John Roberts
9 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Newyddion Yfory

Mae'r Express a Newsnight a theledu'r prynhawn
Wedi deall yr angen am dumbing down
Ac mae'n hen bryd i ninnau, fel beirdd, wneud ein rhan,
Neu'r ffigyrau gwrando fydd yn mynd down the pan.
Mae angen cael mwy o celebs mewn diwylliant,
Newidiwn y Meuryn am un famous, Chris Tarrant,
Rhown job yr Archdderwydd i Russell Grant
A chyfeiliant Madonna i roi cic yng Ngherdd Dant.
A thra bod ni wrthi, mae angen diwygio
Rheolau'r gynghanedd, wel maen nhw'n caethiwo!
Cawn wared â'r acen a'r proest amhoblogaidd
Drwy un rheol newydd - Y Goddefiad How-Getaidd.
Bydd sgwennu limigrau yn dipyn o doddle
Gan na fydd yn rhaid i ni chwilio am rhyme (na rhythm),
Cawn golofn yn Barddas (dan law Ali Lloyd)
Yn pwyso a mesur caneuon Pink Floyd,
Ac os cri y Welshies fydd 'Diffyg respect!'
O leia bydd penawda'n Poetically Correct.

Endaf ap Ieuan
9 Pwynt

Cân(heb fod dros 20 llinell): Newyddion yfory

Noswaith dda, a neithiwr, yn hwyr, daeth newyddion syfrdanol
Fod Cynghorwyr Môn yn unfryd unol;
Dim ffraeo, dim honni fod drwg yn y caws;
Fe fydd bywyd bellach, i bawb, lawer haws.

Mae Plaid Plaid, medd llefarydd, yn dwys dwys gysidro
Newid ei henw unwaith eto,
A'i lliw, a'i logo, a sawl polisi newydd,
Ond yn llwyr ymddiried yn yr un arweinydd.

'Rym ni newydd dderbyn gan y Steddfod, ddatganiad
Sy'n gwadu'n gyfangwbl y diweddar ensyniad
Fod y Wisg Wen - am rai miloedd - i'w chael er anrhydedd,
A bod llwgwr-wobrwyo yn rhemp yn yr orsedd.

Chwaraeon: a heddiw 'Nghaerdydd bu'r Undeb Rygbi
Yn ystyried cais gan Glwb Ynys Enlli
I'w alw eu hunain yn Ryngwladol Seintia'
Am eu bod yn fyd-enwog am berindota.

A'r tywydd i gloi: caiff y de wynt gogleddol
Ond i'r gweddill bydd yn aros yn hynod ysbeidiol.

Cafwyd nawdd i'r Newyddion gan "Crefyddau Cyfyngedig"
Boed eich dewis o Dduw eich cadw yn ddiddig.

Dafydd Whiteside Thomas
9 Pwynt

Pennill ymson wrth ddarllen map:

(Map Heddwch y Dwyrain Canol)

Edrychaf, fel Palesteiniad,
Am ffordd i'm gwlad fy hun,
Ond ar fap pob un Israeliad
Cul-de-sac yw pen draw pob un.

Meirion Jones
9 ½ Pwynt

Pennill ymson wrth ddarllen map

Nid oes traffordd las i Garreglefn,
Na ffordd werdd na choch, - 'mond llwybrau cefn.
Ychydig sy'n newid yng nghalon ein byd
Mae map du a gwyn taid yn ddefnyddiol o hyd!

Iwan Roberts
8 ½ Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 linell): Gwanwyn

Fe fu'n dymor cyforiog
O gân a glasliwiau'r gog,
Murmur y durtur yn dôn
A hudai nwyd cariadon,
A mwyn oedd gweirgloddiau Mai,
Addewid am a ddeuai.

Heddiw, unffurf yw'r flwyddyn,
Di-serch yw ei llygaid syn,
Y ddôl ond rhith iddi hi
Â'i lun mewn hen amlenni,
A'r gwanwyn fu'n fwyn ei Fai
Yw hirnos diwedd siwrnai.

Annes Glynn
9 ½

Cywydd(heb fod dros 12 llinell): Gwanwyn

Bu ei lili'n coethi cwm,
Perlau 'nghynildeb hirlwm,
Yn ein hannog i wenu
A bywhau ein dyddiau du.
Ond bu'n gyndyn ers cyn co'
A'i natur 'leni eto
Yw i addo'n anniddig
Oriau maith o chwarae mig.
Crefwn ei gwmni crafog,
Ffoli'n lân ar gân ei gog
A hen wefr larwm hyfryd
Y gwalch balch a ddeffra'n byd.

Iwan Roberts
8 ½ Pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Mae dy lygaid tanbaid di
Heno'n fy nigaloni.
1 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Croeso? ta wedi croesi
Mae dy lygaid tambaid di?

Englyn cywaith: Prysurdeb

Merthyr fu pob un Martha - i eraill,
yn forwyn a dendia
heb amser i swpera
na chlust i dyst newydd da.

Meirion Jones
8 ½ Pwynt

Englyn Cywaith: Prysurdeb

Oes awr ar gael i siarad - i'w heithrio
I feithrin datblygiad?
Heb y dallt rhwng mab a'i dad
Ni weli di yr eiliad.

Richard Lloyd Jones
9 Pwynt

Telyneg: Ffynnon

Filgwaith a mwy.
Y sgidadlu dyddiol,
defodol,
i'r clos am hanner awr 'di tri.

Drwy argae'r iet,
gweld bwrlwm diwetydd
yn cronni a chwalu
yn gant o ffynhonnau
o arian byw.

Clywed grwndi'r bwcedi,
yn fetel o fintai
yn aros i gasglu.

Ac ar raff o lôn hir
Yn ein halio nôl at aelwyd,
Rhwng crychiad ael
a gwefus gellweirus,
O gylch llygaid disglair
a bysedd buan,
Clywn hanesion yn tasgu,
brawddegau'n diferu
A syniadau'n plethu
brith draphlith.
Yn ddelta o ddiwrnod plentyn.

Er y sarnu a'r tollti
Ar y siwrnai nôl 'sha thre,
Mae 'na ddiferion eto
yn weddill, i'w sgeintio ar hyd y lle
Yn haenen arall o'n hanes ni,
Stori arall i'r muriau anadlu.

Elinor Gwynn
10 Pwynt

Telyneg: Ffynnon

Er 'stalwm,
O'u bywyd huddug i botes,
Deuai fy nghyndeidiau
At y purdeb hwn,
I iro gorwelion
Corff ac enaid.

Heddiw,
O'n ceudod plastig,
Gadawn iti oferu
I gors y mynydd,
I ddisychedu
Dafad neu ddwy.

John Roberts
9 ½ Pwynt

Englyn ar y pryd: Pelydr X

Craith wen y mae'n ddadlennu - a'i olau
Yn ddelwedd sy'n lleddfu,
Ond a oes o fewn y du
Alar fy natgymalu?

Annes Glyn
8 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 82 ½

Englyn ar y pryd: Pelydr X

Yn ei fêr, ni wyddai faint - o'r darlun
Âi'n ddu wyn gan henaint;
Yn yr haf, yr oedd yr haint
Yn gaeafu'i ysgyfaint.

Richard Lloyd Jones
8 ½ Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 78 ½

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys dau liw:

O'i charu, glasu mae'i glais,
Â'n felyn gyda'i falais.

Yn ogof yr anghofio
un du a gwyn yw dy go'.

Englyn yn cynnwys y gair 'englyn':

O eirfa o fewn ei derfyn - y gerdd
Fydd yn gaeth mewn englyn;
 gafael nid â gefyn
Wna'r dweud sydd yn rhyddhau'r dyn.

Limrig yn ymwneud â choginio

Roedd canibal tew yn cael ffwdan
Ar ddeiet o letus a brechdan.
Meddai, "Rhaid fod ffordd symlach
I fod yn ysgafnach,"
A bwytodd ei goes chwith ei hunan.

Gwnes gyw iâr wedi'i rostio i ginio
efo selsig, a nionyn i'w stwffio.
Gorchuddio ei frest
â bacwn i'r ffest,
ond, diawch! doedd y pest ddim 'di bluo.

Fe geisiais wneud pwdin i'r dyrfa,
ond doedd neb yn awyddus i'w fwyta.
Mi ddrysais ddau becyn
wrth weithio mor sydyn,
tobacco yn lle tabiocca!

Mae Bush yn coginio i'r teulu
Ond Laura a'r wlad sydd yn gwaelu,
Beth bynnag mae'n wneud,
Yn arbennig ei ddweud,
Does neb yn debygol o'i lyncu.

Tony Blair sy'n dipyn o Delia
Yn creu treiffl â Cherie i'w gylla,
Oherwydd y dolur
O arian ei Lafur
Mae wrthi yn cwcio y llyfra.

Pennill ymson wrth ddarllen map:

O Holyhead, drwy Four Mile Bridge
I Menai Bridge, a chroesi
I Wynedd; wedyn dw i ar goll -
Ble mae 'Y Felinheli'?

Pwy honnodd
nad yw merch yn medru darllan mapia?
Mae'r cwbwl dan reolaeth gen i famma:
Llinella glas yn llifo fel gwythienna,
Rhai coch a du a melyn yn batryma del, artistig.
Ac mae 'na ambell symbol reit erotig yma ac acw.
Nefi bl?!
Be 'di hwnna'n
siâp banana'n
fanna 'sgwn i?...
O naci!
Y mylti-stôri 'Nghaer oedd gen i dan sylw -
Sut goblyn dw 'di landio'n Abergeirw?

Mae'n rhaid i mi gael sbectol,
Mae plyg yn edrych fel craig,
O drapia! mae'r map wedi slipio
O goesau noethion y wraig;
A finnau wrthi am hydoedd
Yn dilyn y llinellau sy'n fyrdd,
Ni choeliaf beth oedd Coedanna
Ond varicose veins oedd y ffyrdd.

Cywydd (heb fod dros 12 linell): Gwanwyn

Gwanwyn - 2002 a 2006

Cyhydnos fu'n nos i ni
A gwyll ar ôl ei golli;
Yn wan, aeth yn ei wanwyn
Wedi gwers o fyw di-g?yn;
Yn ei wendid bu'n hidio
Mwy am iaith na'i graith a'r gro,
Stad ei wlad oedd ei bader
A'i hyfory'n hy ei her.

O wanwyn, rhoist oleuni
I hirnos ein haros ni;
Ein Senedd nid bedd y bo;
Dotiai at ei wlad eto.

Telyneg: Ffynnon

Drachtiant o'r botel las,
y pererinion cyfoes
sy'n bwrw eu beichiau
uwchben seigiau eclectig
tai bwyta'r ddinas,
lle mae eiconau yn c?l
a'r sôn am 'frwydrau' cenedlaethol yn
"passé, cariad... Mwy o dd?r potel?"

'Mhen draw rhyw lwybr bach di-arwydd
ym mherfeddion gwlad
mae Mair druan yn drwch o fieri,
a'r ffrwd
fu unwaith yn diwallu'r saint
ar eu pererindod i'r gorllewin
yn brwydro i ddiferyd,
ei thincial
yn ddim ond sisial yn y cof
a'r baw'n ei bygwth.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.