Taeogion v Preseli

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'iâr'

Deryn hardd i fardd fel fi
Yw cyw iâr.......mewn saws cyri!

Emyr Davies

8 Pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'iâr'

Nid yw iâr ond aderyn
A'r dasg o greu swper dyn.

Terwyn Tomos

8 Pwynt

Pennill Ymson wrth fwyta

Syna'i'n dod i'r talwrn radio
er mwyn casglu'r ffioedd bras;
syna'i'n dod i achub heniaith,
syna'i'n dod i brofi'r ias.
Ond dwi wedi gwîtho englyn,
gwîtho gwalle, gwîtho stracs,
er mwyn dod i festri Hermon
achos mod i'n lico'r cacs!

Ceri Wyn Jones

9 Pwynt

Pennill Ymson wrth fwyta

Pob peth ar y bwrdd
Sy'n bygwth rhyw glwy
Pop peth ond y plat
Fforc cyllell a llwy.
Eto rhaid bwyta os yw'r bwyd yn wenwyn
Waeth i mi farw o stroc mwy na marw o newyn.

T.R.Jones

8 Pwynt

Englyn yn cynnwys enw papur newydd

'Hawks' yw 'gweilch' a 'wax' yw 'gwêr' - a
'lodes'
yw 'lady,' a 'pryder'
yw 'sorrow,' 'marrow' yw 'mêr'
a 'times' yw 'lot o amser'.

Tudur Dylan Jones

9 Pwynt

Englyn yn cynnwys enw papur newydd

Mae'r oes aur? Ble mae'r Seren - i loywi
A g'leuo'n ffurfafen?
Tybed welwn ni'r Eden
Os, rhyw bryd. daw'r Byd i ben?

T.Gwynn Jones

9 Pwynt

Cân(heb fod dros 20 llinell): Y Bregeth Hir

Tri phen oedd i bregeth y Parch O.T. Huws,
Ond O! 'Na beth oedd pennau hirion,
Bu'n troi yn ei unfan am oriau un Sul,
Tra'n troi'i gynulleidfa fo'n wirion.

Roedd tinau'r ffydloniaid yn nym i gyd,
A'r pen cyntaf i'w weld yn ddi-ddiwedd,
Yn yr amser a gymrodd, gallai tim Y Preseli
Fod wedi meistroli'r gynghanedd.

Yn ystod pen dau, fe dyfwyd tri barf,
A bu dau achos o 'deep vein thrombosis',
A dwi bron yn siwr i ddau neu dri
Farw'n eu cwsg yn hapus.

Boriodd y Parch y chwiorydd, bob blaenor,
Yr Organydd ac arweinydd y gân,
Ac mi fetiwn fy Mint Imperials i gyd,
Bod o 'di borio'r Ysbryd Glân.

Wrth i'r oriau gynyddu, bu dihangfa fawr
Gan bob un o'r aelodau i gyd
Dwi'm yn siwr os dychwelodd O.T. i'n capel ni...
Am wn, i mae o yna o hyd!

Caryl Parry Jones>

8 ½ Pwynt

Cân(heb fod dros 20 llinell): Y Bregeth Hir:

Yn dalog ant i ddrama a g?yl gân
Ac eisteddfodau hyd a lled y wlad
Ac aros yno hyd yr oriau mân
I yfed o gostrelau gwir fwynhad.
A phan ddaw gyfareddol bnawn y bêl
Eilradd yw amser er mor oêr yw'r hin,
Heintys yw'r cyffro mawr a brwd yw'r sêl
A bonws yw cael wyneb ar y sgrîn
Eto, o'u cael mewn oedfa ar y Sul
Lle bu'r brwdfrydedd syrth diflastod mawr
Bydd cryn feirniadu a bydd llyncu mul
Os traetha'r gennad dros yr hanner awr
Mae hyn yn ddryswch llethol imi'n wir
Mai dim ond pregeth o bob dim sy'n hir.

T.R.Jones

9 Pwynt

Cywydd(heb fod dros 12 llinell): Galwad Ffôn

sef ffonio fy mam o Ysbyty Llwynhelyg i ddweud am eni fy mab (20.12.05)

Mae'n awr dweud pethau mawrion;
awr addas iawn i feirdd sôn
am 'fydysawd mewn bawd bach'
a 'llaw wan yn dal llinach'
ac yn y blân fel ganwaith.

Ond mae hwn tu hwnt i iaith
y dweud mawr a'i idiom wag,
a heno, gwell beth bynnag
yw dweud mawr dim o eiriau,
y dweud cyffredin rhwng dau:

'Mam... Mab! Ie, mab. Ac mae e'n
iawn wêth. A Catrin hithe.'

Ceri Wyn Jones

10 Pwynt

Cywydd(heb fod dros 12 llinell):

Galwad Ffôn

O Hec! Ar ganol brecwast
'ring-a-ring' nes deffro'r ast.
Yno'n daer o Bakistan
Un hirwyntog yn rantan.
A'i job oedd gwerthu mobeil,
'A nice deal and lovely style'.

A hi'n ddeg - finnau'n rhegi'r uffar twp-
'It's time for tea' - 'yes, yes a bargain -
special'
Finne, rown bron fyny'r wal.

Tua naw, rown i'n y gawod.
O diawch - 'run boi eto'n dod!

T.Gwynn Jones

8 ½ Pwynt

Limrig: Roedd menyw yn byw gerllaw Hermon

(Teyrnged i deisennau gwych chwiorydd Hermon!)

Roedd menyw yn byw ar bwys Hermon
A shrinciodd ei chrîm hôrn un noson,
Ond dwedodd y Meuryn
Wrth flasu yr hornyn,
" Os nad yw e'n fawr, mae e'n ddigon!".

Caryl Parry Jones

8 Pwynt

Limrig: Roedd menyw yn byw gerllaw Hermon

Roedd menyw yn byw gerllaw Hermon
Yn sgwennu ryw rwcs o benillion
Er mor wag oedd ei phen
Fe fyddai hi Gwen
Yn seren yn nhîm y Taeogion.

Reggie Smart

9 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Boi mawr tew ydi Dewi
Roedd ei lwy yn fwy na fi.

Ateb llinell ar y pryd:

Boi mawr tew ydi Dewi
Mae e'n fwy - lot mwy - na fi.

1 Pwynt

Englyn Cywaith: Halen

A'r heol eto ar rewi, - er rhoi
Yr holl raean drosti,
Amau rwyf na chym'rai hi
Awr o haul i'w meirioli.

Emyr Davies

9 Pwynt

Englyn Cywaith: Halen

Cesar i'w lu gwladgarwyr - a dalai
Yn deilwng i'r arwyr.
Nid ag aur y telid gw?r,
Halen oedd tâl y milwyr.

T.Gwynn Jones

8 Pwynt

Telyneg: Cymod

Yn y geiriau o gerydd
un funud ddisymud sydd,
a thad yn traethu wedyn
a chael fod ei ferch ei hun
yn fud, a'r byd fel pe bai'n
beichio'n ei llygaid bychain.

Ond ar waith, yn ei draethu,
uwch y s?n, tynerwch sy',
fe ddaw iddi'r gweiddi'n gân,
ac â'u gofal yn gyfan
y ddau gam ddaw i gymod
wrth i'r beichio beidio â bod.

Tudur Dylan Jones

9 Pwynt

Telyneg: Cymod

Fe dreiddioddd y geiriau i'r asgwrn
Gan wanu teimladau i'r byw;
Diflannodd teyrngarwch ac atgof,
Ni flaswyd dim byd ond y briw.
Fe rwygodd y teulu'n grybibion,
Cyflwynwyd traddodiad i'r arch;
Cenfigen lle bu cyfeillgarwch,
Casineb di-eiriau'n lle parch.

Rôl bywyd o gynnal y dial
A gwadu wynepryd a gwedd,
Un teulu a safai'n ei ddagrau
Ar lannau agored y bedd,
Ni thorrwyd 'run gair, ni ddaeth edliw,
Rhoddwyd mwy na chorff yn y baw-
Roedd maddeuant mud y cofleidio
Yn rhoi urddas i'r ysgwyd llaw.

Terwyn Tomos

10 Pwynt

Englyn ar y pryd: Blodyn

Lili'r Wyddfa

Ar gwr y llethrau garwach y parha,
Lle mae'r pridd yn grintach,
Lle mae'r haf yn arafach -
Diawl o fyd i lili fach.

Tudur Dylan Jones

9 Pwynt

Englyn ar y pryd: Blodyn

Fy nhaith gydag Eirlys - fy mlodyn i gartre.

Er hir oes yn y tresi - dal eto
Mae'r dileit a'r asbri
Nid hyd y daith a'i theithi
Sydd hardd - ond ei hansawdd hi.

T.R.Jones

9 Pwynt

Tasg ychwanegol

Llinell o gynghanedd yn cynnwys y gair Hermon

Yn Hermon bytais ormod

CYFANSWM PWYNTIAU - 79 ½

Tasg Ychwanegol:

Llinell o gynghanedd yn cynnwys y gair Hermon:

Chi yw'n harmy yn Hermon

1 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 80 ½

Cynigion Ychwanegol:

Pennill Ymson wrth fwyta

Dwi moyn. Mae'n fwy na dymuniad. Dwi
moyn,
os dim ond am eiliad,
gael blasu bara'r cariad,
nid bara sych di-berswâd.

Cynigion Ychwanegol:

Limrig: Roedd menyw yn byw gerllaw Hermon

Roedd menyw yn byw gerllaw Hermon
Yn bwyta cig llygod a gwymon,
Roedd yn fwyd wrth ei bodd
Mor dda oedd y nodd
Mi dyfodd bron dwylath o gynffon!

Roedd menyw yn byw gerllaw Hermon
Ar bopeth yr oedd yn anfodlon
Fe roes ei synnwyr
I'w gweinidog Annibynnwyr
A'n gywir yr un peth i'w chymdogion.

Roedd menyw yn byw gerllaw Hermon
Yn cael ei holi gan lond bys o season
'Hey! Come here I say
We have lost our way!"
"Gwd bei" atebodd, roedd yn ddigon!

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.