Sut ydach chi wedi cyrraedd lle rydach chi erbyn hyn?
Drwy lot o lwc, ceg mawr a joio bywyd
Record cyntaf i ti brynu?
'I think we're alone now' - Tiffany
Gig gorau i ti fynychu a pham?
Allai plis gael mwy nag un?
Catatonia yng Neuadd Undeb Coleg Y Drindod yn ystod Steddfod Llandeilo yn 1996. Roedd rhywbeth ynglyn a'r gig hynny - gwbod bod fi'n rhan o gyfnod cyffrous iawn yn hanes cerddoriaeth Cymru a Phrydain yn gyffredinol. O'n i wedi aros mor hir i glywed albym gan Catatonia, ac o'r diwedd daeth 'Way Beyond Blue' allan cyn y gig. Hefyd Jamiroquai yn y CIA yng Nghaerdydd - nes i ddim stopio dawnsio am ddyddie, 'Underworld' yn 'Escape into the Park' 2008 a Yucatan yng ngwyl Cenhedloedd bychain Haf diwethaf.
Dy arwr/arwres?
Patsy Stone a Edina Monsoon
Be sy'n gwneud i ti grio?
X Factor
Sut yr hoffet ti gael dy gofio?
Fel yr un a gododd ond wnaeth fyth golli ei lle
Pryd oedd y tro diwethaf i ti godi cywilydd arna ti dy hun, a sut?
Nes i gael 'go' ar fenyw ar y tren wythnos diwethaf am fod y lle yn llawn dop a dim lle i eistedd, a dyna lle oedd hi'n defnyddio'r sedd drws nesaf ar gyfer bagiau siopa ag ati. O'n i wedi blino a wedi cael diwrnod hir, felly dyma fi'n lawnsio mewn i 'Ma' pobl fel chi yn rili corddi fi, dim ystyriaeth i bobl erill..blah blah bla' o flaen y tren i gyd. A dyma hi'n dweud yn dawel "Dim fy mhethau i ydyn nhw". O'n i bron a marw.
Dy gas gân neu grwp?
Iwcs a Doyle
Snog cyntaf - disgrifia'r profiad, y lleoliad a chyda phwy?
Fy snog gyntaf oedd mewn neuadd y Gweithwyr yn Rhydaman gydag actor adnabyddus i'r gan 'Stay another day' gan East 17!
Posteri o beth, neu o bwy oedd gen ti ar wal eich ystafell gwely?
Tiffany, Kylie, Michael Jackson, Shirley Manson, Tori Amos, Blur, Oasis, Take That, Elastica, Gorky's, Jess, Pulp a Caryl Parry Jones...fi'n credu o'n i bach yn mixed up chi'n gwbod?!
Dy 'crush' cyntaf?
Jordan o 'New Kids on the block' (!!!)
Beth yw dy hoff ddilledyn ar hyn o bryd?
Fy het biws nes i brynu yn Amsterdam flwyddyn diwethaf - mae'n gynnes neis ac yn mynd da popeth.
Beth ydy'r peth gorau i ti erioed ennill?
£300 mewn cystadleuaeth Kareoke yn Coleg pan oeddwn i'n hollol sgint!
Doedd gen i ddim ceiniog, a dyma fi'n pasio clwb nos 'Savannah's' yng Nghaerfyrddin gyda arwydd yn dweud 'Kareoke competition - 1st prize £300!'. Felly dyma fi'n rhoi go arni ac erioed wedi bod mor hapus pan gyhoeddwyd mai fi oedd yn derbyn y siec. Wnaeth y siec ddim para'n hir iawn ar ol y dathlu cofiwch ;-) ... a plis peidiwch a gofyn beth oedd y gan.
Os bysa chi'n far o siocled, pa un fysa ti'n dewis a pham?
Fruit & Nut - oes angen eglurhad?
Y peth gwaetha i ti wisgo'n gyhoeddus?
Lot o bethau. Pan oeddwn i ar Ynys Enlli gyda fy hen fand y Panics flynyddoedd yn ol, wnaeth y merched bleidleisio fi fel y person 'worst dressed'. Nid fi ennillodd, merch arall, ond o'n i'n eitha 'put out'! Nes i bleidleisio am Fflur!
Dathliad gorau erioed?
Fy mhenblwydd ddwy flynedd yn ôl mewn jwngwl ger afon Mekon Delta yn Vietnam. Do'ni ddim yn gwybod beth i neud am fy mhenblwydd felly nes i gau fy llygaid a pwyntio bys at map y byd, a Vietnam oedd y lle nes i bwyntio. Nes i wario mis yno yn teithio o'r gogledd i'r de...a nes i fyta neidr yno - ond dim yr un sydd yn y llun!
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.
