Sut ydach chi wedi cyrraedd lle rydach chi erbyn hyn?
Taxi - roedd hi rhy oer i gerdded!
Record cyntaf i ti brynu?
Common People gan Pulp
Gig gorau i ti fynychu a pham?
Sibrydion - roedd pawb yn neidio fyny a lawr a roedd hi'n noson wych!
Dy arwr/arwres?
Martin Luther King, am yr holl bethau wnaeth i'r byd.
Be sy'n gwneud i ti grio?
Gweld fy hun yn cerdded allan o'r ty (Big Brother), a'r holl sŵn a chlapio... moment emosiynol iawn.
Sut yr hoffet ti gael dy gofio?
Am fod yn Glyn
Pryd oedd y tro diwethaf i ti godi cywilydd arna ti dy hun?
Mynd rownd Ikea yn gofyn am 'clut' - gan feddwl mai dyna oedd 'clwt' yn Saesneg... ac yna gofyn am 'scrubber'!
Dy gas gân neu grwp?
Boy-bands... pob un!
Snog cyntaf - disgrifia'r profiad, y lleoliad a chyda phwy?
Mewn cefn car ar ôl PA yn Leeds, hefo'r gân 'Is This Love' gan White Snake yn chwarae yn y cefndir.
Posteri o beth, neu o bwy oedd gen ti ar wal eich ystafell gwely?
Victoria Silvstedt, Jodie Marsh... a Tim Henman! (Allai ddeall y ddau gyntaf Glyn, ond 'Tiger' Tim Henman?! Pam, o pam?!)
Dy 'crush' cyntaf?
Sharleen Spitteri - cantores y band Texas.
Beth ydy'r peth gorau i ti erioed ennill?
Ras hurdles 100m ym mhencampwriaethau Gwynedd.
Os bysa chi'n far o siocled, pa un fysa ti'n dewis a pham?
Dairy Milk - plain and simple!
Y peth gwaetha i ti wisgo'n gyhoeddus?
Cot law rhy fach a rhy dynn i fi, hefo shorts a wellingtons.
Dathliad gorau erioed?
Pan ddes i'n 2il yn Big Brother 2006.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

