Beethoven 6

Dydd Sadwrn 19/9/26, 4.00pm

Hafren, Y Drenewydd

Dydd Sul 20/9/26, 3.00pm

Glan yr Afon, Casnewydd

Louise Farrenc
Agorawd Rhif 2 yn E feddalnod fwyaf 7’

Wolfgang Amadeus Mozart
Concerto yn C fwyaf i’r Ffliwt a’r Delyn 30’

EGWYL: 15 munud

Ludwig van Beethoven
Symffoni Rhif 6 yn F fwyaf, ‘Pastorale’ 40’

Tianyi Lu arweinydd
Elizaveta Ivanova ffliwt
Alis Huwstelyn

Cyflwyniad

Rwy’n llawn cyffro am y cyngherddau hyn ar ein taith bresennol gan fod y gerddoriaeth rydyn ni’n ei pherfformio yn rhoi cyfle gwirioneddol i’r gerddorfa ddisgleirio. Rydyn ni’n falch iawn bod yr egnïol Tianyi Lu yn ymuno â ni i arwain.

Rydyn ni’n dechrau gydag agorawd ddramatig gan y cyfansoddwr Louise Farrenc, sy’n aml yn cael ei hanwybyddu. Mae ei cherddoriaeth yn fywiog, wedi’i hysgrifennu’n fedrus ac yn gyforiog o wrthgyferbyniadau trawiadol. Er na chafodd hi’r gydnabyddiaeth a haeddai yn ystod ei hoes, mae ei cherddoriaeth yn cael adfywiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf – a da hynny!

Wrth galon y rhaglen mae Concerto hyfryd Mozart i’r Ffliwt a’r Delyn, un o’i weithiau mwyaf poblogaidd. Yr unawdwyr yn y sgwrs gerddorol ddisglair hon yw Alis Huws, cyn-Delynores Frenhinol a seren y Drenewydd, ac Elizaveta Ivanova, un o Artistiaid Cenhedlaeth Newydd BBC Radio 3.

Ar ôl yr egwyl, bydd Symffoni Rhif 6 Beethoven – â’i henw addas ‘Pastorale’ – yn cynnig ymateb y cyfansoddwr i fyd natur. Mae’n lansio blwyddyn o ddathlu cerddoriaeth Beethoven, a’r penllanw fydd 200 mlynedd ers ei farwolaeth ar 26 Mawrth 2027.

Gobeithio y gwnewch chi fwynhau'r cyngerdd.

George Lee
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rhai sy’n gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Louise Farrenc (1804–75)

Agorawd Rhif 2 yn E feddalnod fwyaf, Op. 24 (1834)

Yn ystod y 1820au a’r 1830au, roedd gan Louise Farrenc enw da cynyddol fel perfformiwr a hefyd fel cyfansoddwr cerddoriaeth i’r allweddellau. Canmolai beirniaid yn ei gwlad enedigol Ffrainc a’r tu hwnt (Robert Schumann, er enghraifft) ei chrefftwaith a’i hysgrifennu chwaethus. Erbyn canol y 1830au, roedd hi wedi penderfynu rhoi prawf ar ei gallu mewn arena gyfansoddi newydd, sef cerddoriaeth gerddorfaol. 

Ym 1834, cyfansoddodd Farrenc ddau agorawd cyngherddol, a gorffennwyd yr ail ohonynt – y Deuxième Ouverture à Grand orchestre yn E feddalnod fwyaf – ddechrau mis Rhagfyr a’i berfformio am y tro cyntaf y flwyddyn ganlynol. Mae wedi’i greu ar raddfa fawr i gyd-fynd â’i rymoedd cerddorfaol sylweddol, gyda chyflwyniad araf mawreddog yn dechrau yn E feddalnod leiaf ac mae’n ymddangos fel petai’n consurio agorawd Don Giovanni Mozart yn rhythmau dotiog a thawelwch cythryblus ei fariau cyntaf. A wnawn ni byth gyrraedd y cywair mwyaf a addawyd yn nheitl y gwaith? Hyd yn oed yn ychydig fariau cyntaf yr Allegro nid yw hynny’n gwbl glir, gyda chytgordau yn y lleddf yn tarfu ar y gweithiau cerddorol. Yma hefyd, mae rhywbeth operatig am yr egni, y gweadau prysur a hyd yn oed themâu telynegol hyfryd y chwythbrennau pan fyddant yn ymddangos o’r diwedd. (Wedi’r cyfan, roedd Paris yn ddinas yn gaeth i’w thai opera yn y 1830au, gyda Meyerbeer yn rheoli popeth a Berlioz yn brwydro i gael llwyfannu ei weithiau.) Wrth i’r agorawd barhau, mae Farrenc yn mentro lleihau grymoedd y gerddorfa weithiau hyd at y mymryn lleiaf o adrannau siambr sy’n cael eu taflu i’r amlwg pan fydd nerth y gerddorfa lawn yn ailymddangos. Daw’r gerddoriaeth i ben gyda ffrwydrad theatrig terfynol yn ei chywair cartref. 

Mae’n ymddangos bod Aristide, gŵr Farrenc, wedi ymdrechu i gael cyhoeddi’r agorawd hon a’i chydymaith yn E leiaf gan gwmni enwog Peters o Leipzig – ond, yn anffodus, ni ddigwyddodd y prosiect. Serch hynny, perfformiwyd yr Agorawd E feddalnod, o lawysgrif, ym Mharis (sawl gwaith) a hefyd yn Copenhagen, lle cafodd dderbyniad mor wresog mewn cyngerdd yn y Theatr Frenhinol nes gofynnwyd iddi gael ei hailadrodd yn Llys Denmarc ychydig ddyddiau’n ddiweddarach. 

Nodyn y rhaglen © Katy Hamilto

Wolfgang Amadeus Mozart (1756–91)

Concerto yn C fwyaf i’r Ffliwt a’r Delyn, K299 (1778)

1 Allegro
2  Andantino
3 Rondeau: Allegro

Elizaveta Ivanova ffliwt
Alis Huwstelyn

Does dim taw ar yr honiad fod yn gas gan Mozart y ffliwt. Mae’n wir ei fod yn 1778 wedi’i chondemnio fel ‘offeryn na allaf ei oddef’, ond mae’n ddigon posibl mai mynegi ei rwystredigaeth ar ôl methu â chyflawni comisiwn ar gyfer ‘tri choncerto byr, syml ac un neu ddau bedwarawd ar gyfer y ffliwt’ yr oedd, a’i fod o ganlyniad wedi cael llai na hanner y ffi y cytunwyd arni. Bid a fo am hynny, byddai’r ffliwt yn dod yn sain annatod mewn cymaint o’i gerddoriaeth orau – ni fyddai modd dychmygu llawer o’r concerti hwyr i’r piano hebddi – a phe bai’n gas ganddo’r offeryn mewn gwirionedd, mae’n siŵr y byddai wedi petruso cyn ei chynnwys yn y stori ac, yn wir, yn nheitl ei opera olaf ond un.

Ar yr un pryd, mae wedi bod yn demtasiwn dod i gasgliad am ei atgasedd oesol at yr offeryn o lythyr atgas o Mannheim at ei dad beirniadol, a byddai ei gysylltiad nesaf â’r ffliwt yr un mor siomedig yn bersonol, hyd yn oed wrth iddi roi gwaith arall o harddwch a chyfoeth melodaidd rhagorol i ffliwtwyr. O Mannheim yn gynnar yn 1778, teithiodd Mozart a’i fam i Baris, lle rhoddodd wersi cyfansoddi i Marie-Louise-Philippine, telynores a oedd yn ferch i’r diplomydd a enwir yr un mor berseiniol, er nid yn gwbl anrhydeddus yn Adrien-Louis Bonnière de Souastre, Comte de Guînes. Roedd yr Iarll yntau’n ffliwtydd amatur, ac ysgrifennodd Mozart at ei dad yn dweud ei fod yn ‘chwarae’r ffliwt heb ei ail’, a bod ei ferch yn ‘chwarae’r delyn yn magnifique’. Fe wnaeth De Guînes gomisiynu Mozart i ysgrifennu concerto dwbl iddo ef a’i ferch, a gwblhawyd ym mis Ebrill y flwyddyn honno. Ond methodd y cyfansoddwr â chasglu’r taliad ymlaen llaw, a phan ddaeth i breswylfa’r Iarll, cafodd ei droi ymaith gan howsgiper, a gynigiodd ffracsiwn pitw o’r ffi am y concerto a’r gwersi, a gwrthodwyd hynny’n ddig gan Mozart. Dychwelodd i Salzburg ym mis Medi oherwydd marwolaeth sydyn ei fam ym mis Gorffennaf, yn ddyn ifanc penisel, di-dâl ac anhapus.

Mae’r concerto yn enghraifft wych o grefftwaith manwl Mozart, hyd yn oed pan nad oedd y dasg dan sylw yn un a apeliai ato. Roedd y delyn o’r 18fed ganrif yn llai o faint, yn ysgafnach ac yn llai hyblyg na’r offerynnau heddiw, ac mae Mozart yn ysgrifennu ar ei chyfer fel pe bai’n allweddell. Mae ei glust reddfol am soniarusrwydd yn arwain at amrywiaeth o gyfuniadau o offerynnau unigol a cherddorfa, ac at raeadr o alawon llwyddiannus yn yr Allegro orymdeithgar a’r Rondeau derfynol. Ond mae’n sicr mai’r Andantino canolog coeth sydd wedi sicrhau safle’r gwaith fel conglfaen repertoires y ffliwt a’r delyn.

Nodyn y rhaglen © David Threasher

EGWYL: 15 munud

Ludwig van Beethoven (1770–1827)

Symffoni Rhif 6 yn F fwyaf, Op. 68, ‘Pastorale’ (1808)

1 Teimladau pleserus, siriol sy’n deffro ynom wrth gyrraedd cefn
gwlad (Allegro ma non troppo)
2 Golygfa ger y nant (Andante molto moto)
3 Tyrfa lawen o bobl y wlad (Allegro) – 
4 Storm daranllyd (Allegro) –
5   Cân y Bugeiliaid: teimladau gorfoleddus gyda diolch i’r Duwdod
ar ôl y storm (Allegretto)

‘Ni all neb garu cefn gwlad gymaint ag y gwnaf fi,’ ysgrifennodd Beethoven. Ac nid oes yr un cyfansoddwr wedi consurio cefn gwlad yn fwy llwyddiannus nag y gwnaeth ef yn ei Symffoni ‘Pastorale’, a gyfansoddwyd ym 1808. Byddai wrth ei fodd yn mynd ar deithiau cerdded hir yn y bryniau a’r coed o gwmpas Fienna, a bron bob haf byddai’n dianc o’r ddinas a ddaeth yn gartref iddo ym 1792 – i ryw bentref cyfagos, megis Heiligenstadt neu Baden, fel arfer. Cafodd y profiadau uniongyrchol hyn eu troi’n waith sy’n hawdd ei adnabod fel symffoni, er gwaethaf teitl rhaglennol pob un o’r symudiadau. Yn hyn o beth, mae’n wahanol i weithiau eraill y cyfnod, yn enwedig Portrait musical de la nature gan Justin Heinrich Knecht (1784), y byddai Beethoven yn gyfarwydd ag ef o bosib, ac sy’n cynnwys storm a chân olaf o ddiolch, ond nad yw wedi’i gynllunio fel strwythur symffonig safonol.

Mae syniadau cynharaf Beethoven ar gyfer gwaith o’r fath yn dyddio’n ôl i ddiwedd 1803 pan oedd wedi gwneud nodyn o thema dawns debyg i ddawns werin, a ymddangosodd yn y pen draw yn nhrydydd symudiad y symffoni; ychydig yn ddiweddarach tynnodd fraslun o syniad a ddisgrifiodd fel ‘Murmur y nentydd’. Ond ni ddechreuodd waith manwl ar y ‘Pastorale’ tan ddechrau 1808, ar ôl iddo orffen gweithio ar ei Bumed Symffoni, gan ddefnyddio llyfr brasluniau newydd ar gyfer hynny.

Tra oedd yn gweithio ar y symffoni, fe’i hatgoffai ei hun na ddylai geisio paentio darlun o gefn gwlad. Yn hytrach, dylai gonsurio teimladau yn gysylltiedig â hynny, ac ysgrifennodd sylwadau fel ‘Sinfonia caracteristica – neu atgofion am fywyd y wlad’, ac ‘Mae pob seinliwio mewn cerddoriaeth offerynnol yn colli ei werth os caiff ei wthio’n rhy bell’. Mae sylwadau o’r fath yn hynod brin yn ei frasluniau.

Ei brif broblem gerddorol arall oedd cysoni’r syniad o lonyddwch bugeiliol, sydd yn ei hanfod yn heddychlon a sefydlog, gyda’r pwyslais ysgogol a theimlad o ddatblygiad parhaus sy’n nodwedd i symffonïau yn gyffredinol. Gwnaeth hyn drwy gadw ffurfiau safonol y symudiadau symffonig – ffurf y sonata (y ddau symudiad cyntaf), miniwét-a-thrio (y trydydd symudiad) a sonata rondo (diweddglo), gan leihau faint o ddatblygiad oedd ym mhob symudiad, a gwrthgyferbynnu syniadau yn hytrach nag adeiladu’n raddol ar bob un.

Yr unig eithriad i’r cynllun hwn yw’r pedwerydd symudiad, sef y Storm. Ac am storm! Mae popeth yn ddryslyd, yn anhrefnus ac yn annisgwyl, gyda dwndwr rhyfeddol yn y soddgrythau a’r basau – bron, er nid yn llwyr, mewn cytgord â’i gilydd – i bortreadu’r dymestl ar ruthr, ac yna motiffau garw i gyfleu’r mellt, a dyfodiad picolo main tua’r diwedd i gyfleu’r gwynt yn udo, lle caiff nerth y Storm ei hatgyfnerthu gan ddyfodiad sydyn y trombonau. Er bod y storm yn ymddangos fel symudiad ychwanegol, mae’n debyg i ragarweiniad i ddiweddglo o ran strwythur (ond yn llawer mwy estynedig na’r un yn ei Symffoni ‘Eroica’, er enghraifft). Felly mae’n cadw rhywfaint o berthynas â ffurf safonol y symffoni.

Yn wahanol i’r Storm, mae’r symudiad cyntaf yn gwbl ysgafn, heb fawr ddim cyweiriau lleiaf, a llawer o bwyslais ar gord yr is-lywydd (B feddalnod), sydd bob amser yn tueddu i leihau tensiwn yn hytrach na’i gynyddu. Gellir yn hawdd synhwyro’r bodlonrwydd hamddenol sy’n treiddio drwy’r symudiad. Fel y dywedodd Beethoven ei hun: ‘Gall unrhyw un sydd â dim ond syniad o fywyd y wlad ddychmygu beth yw [bwriad] yr awdur, heb lawer o benawdau.’

Mae’r ail symudiad yn portreadu nant yn llifo’n ysgafn, a thua’r diwedd clywn alwad tri aderyn: eos (y ffliwt), sofliar (obo) a’r gog (clarinetau), a phob un yn cael ei enwi felly yn y sgôr. Mae’r eos a’r gog yn ddewisiadau amlwg, ond mae’r sofliar yn peri mwy o syndod – oni bai eich bod yn gwybod bod Beethoven wedi cyfansoddi cân o’r enw ‘Galwad y Sofliar’ rai blynyddoedd ynghynt, lle mae’r sofliar fel petai’n galw arnom i addoli Duw a diolch iddo. Felly, yr ail symudiad yw byd natur yn cyfateb i’r gân o ddiolch gan y bugeiliaid yn y diweddglo.

Nid oes angen esboniad ar yr aduniad llawen yn y trydydd symudiad. Ond yr hyn sy’n arbennig o ddifyr yw adran y trio yn y ffurf miniwét-a-thrio. Yma, mae Beethoven yn portreadu band pentref amatur pryd mae’r obo’n dod i mewn ddau guriad yn hwyr ac nid yw’r basŵn ond yn gallu chwarae tri nodyn ac mae’n hepgor gweddill llinell y bas.

Clywir sŵn arall o’r wlad ar ddechrau’r diweddglo, pryd mae Beethoven yn defnyddio ranz des vaches, neu alwad am y gwartheg, fel y clywid yn aml yn rhai o ardaloedd yr Alpau ar y pryd. Yna, mae’r motiff yn cael ei gynnwys yn gelfydd ym mhrif ddeunydd thematig y symudiad.

Y teitlau a roddir uchod i’r gwaith a’r symudiadau yw’r rhai a anfonodd Beethoven at ei gyhoeddwr Breitkopf & Härtel. Ond cafodd rhai eu haddasu gan y cyhoeddwr heb ganiatâd, a dim ond yn ddiweddar y cawsant eu hadfer ar ôl bod ar led yn eu ffurfiau llygredig am nifer o flynyddoedd.

Nodyn y rhaglen © Barry Cooper

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:

Fantastique

Nos Sadwrn 3/10/26, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

L. Boulanger D’un matin de printemps (Ar Fore o Wanwyn)
Schubert Allegretto yn C fwyaf
Beethoven Ffantasi Gorawl yn C leiaf
Berlioz Symphonie fantastique

Jaime Martínarweinydd
Steven Osbornepiano
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

DRAMA | DEFFROAD | GWELEDIGAETH

Mae’r rhaglen hon yn olrhain taith o oleuni byrhoedlog y gwanwyn i un o syniadau cerddorol mwyaf unigolyddol y 19eg ganrif. Mae’n agor gyda D’un matin de printemps Lili Boulanger, sy’n cyfleu egni bore o wanwyn: lliwiau’n fflachio, rhythmau’n dawnsio, ac ymdeimlad digamsyniol o daith bywyd.

Wrth galon yr hanner cyntaf mae Ffantasi Gorawl Beethoven, sef gwaith beiddgar ac anghonfensiynol. Mae’r darn yn agor gyda’r piano yn unig. Mae’n ehangu’n raddol i’r gerddorfa ac yna mae’r corws yn cael ei ychwanegu, gan adeiladu at ddatganiad terfynol gorfoleddus.

Ar ôl yr egwyl, cawn Symphonie Fantastique Berlioz, sef un o’r gweithiau symffonig mwyaf rhyfeddol a dylanwadol i gael ei ysgrifennu erioed.

Tchaikovsky 5

Nos Iau 7/1/27, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Williams Sea Sketches
Renié Concerto i’r Delyn
Tchaikovsky Symffoni Rhif 5

Jaime Martín arweinydd
Mared Emyr Pugh-Evans telyn

AWYRGYLCH | MEISTROLAETH | BUDDUGOLIAETH

Bydd y cyngerdd lliwgar hwn, dan arweiniad y Prif Arweinydd Gwadd Jaime Martín, yn dod â cherddoriaeth at ei gilydd sy’n llawn awyrgylch, meistrolaeth a phŵer symffonig. Sea Sketches gan Grace Williams fydd yn agor y noson, gan gyfleu cymeriad arfordir Cymru mewn cerddoriaeth sy’n lliwgar, sy’n llifo, ac sy’n chwa o awyr iach.

Bydd y sylw’n troi wedyn at y delynores Frenhinol Mared Emyr Pugh-Evans, sef yr unawdydd yn y Concerto i’r Delyn gan Henriette Renié – gwaith wedi’i siapio gan alawon ysgubol hir a rhannau meistrolgar gwych ar gyfer y delyn.

Ar ôl yr egwyl, bydd Symffoni Rhif 5 gan Tchaikovsky yn mynd â ni ar daith ddramatig o frwydr i fuddugoliaeth frwd, gan gloi’r rhaglen gydag angerdd.

Caneuon Celtaidd Beethoven


Ffrydio Byw a Dehongliad yn Iaith Arwyddion Prydain

Nos Wener 26/03/27, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Grant Llewellynarweinydd
Gwilym Bowen Rhysbariton
Carlos Núñez Muñozpibau
Catrin Finch telyn

EGNI | HUNANIAETH | CÂN

I nodi 200 mlynedd union ers marwolaeth Beethoven, mae’r cyngerdd hwn yn dathlu’r cyfansoddwr drwy ei gysylltiadau rhyfeddol â thraddodiadau gwerin Ynysoedd Prydain. Dan arweiniad Grant Llewellyn, gyda Gwilym Bowen Rhys, y pibydd Carlos Núñez Muñoz a’r delynores Catrin Finch, mae’r rhaglen yn tynnu sylw at ddiddordeb Beethoven mewn alawon Cymreig, Gwyddelig ac Albanaidd. Mae caneuon fel The Vale of Clwyd, The Return to Ulster a The Pulse of an Irishman yn datgelu pa mor werthfawr oedd cerddoriaeth werin iddo. Mae’r cyngerdd yn agor gyda finale trydanol Symffoni Rhif 7, sef teyrnged bwerus i waddol parhaus ac ysbryd dynol Beethoven.

Gallwch archebu tocynnau am gyn lleied â £8 gan ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU https://www.bbc.co.uk/events/evr6gw

Bywgraffiadau

Tianyi Lu arweinydd

Marco Borggreve

Marco Borggreve

Mae Tianyi Lu yn arweinydd a gydnabyddir yn rhyngwladol ac mae ei chydweithrediadau â cherddorfeydd a chwmnïau opera blaenllaw ledled y byd wedi ei sefydlu’n un o artistiaid mwyaf nodedig ein cyfnod.

Mae ei huchafbwyntiau y tymor hwn yn cynnwys dychwelyd at gerddorfeydd Ffilharmonig Llundain, Monte-Carlo ac Efrog Newydd, Cerddorfa Symffoni Montreal a’r Stuttgart Staatsorchester. Mae hi hefyd yn ymddangos am y tro cyntaf gyda cherddorfeydd Symffoni Baltimore, Düsseldorf, Hamburg, Seland Newydd a Fienna, Cerddorfa Ffilharmonig Radio’r Iseldiroedd a Cherddorfa Ddinesig Chicago, yn ogystal â thaith o amgylch y DU gyda Cherddorfa Ieuenctid Genedlaethol Prydain.

Yn ystod y tymhorau diwethaf, mae hi wedi ymddangos am y tro cyntaf ym Mhroms y BBC gyda Cherddorfa Symffoni’r BBC a Sol Gabetta, ochr yn ochr ag ymddangosiadau gydag ensembles blaenllaw gan gynnwys Cerddorfeydd Symffoni Dinas Birmingham, Frankfurt Radio, Melbourne, San Francisco a Sydney, Cerddorfa Philharmonia, yr Hallé, Orchestre National de Lyon, Cerddorfa Ffilharmonig Helsinki, Cerddorfa Genedlaethol Gwlad Belg a Cherddorfa Symffoni New World. Mae hi’n gyn-Gymrawd Dudamel, gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf yn yr Hollywood Bowl gyda Cherddorfa Ffilharmonig Los Angeles yn 2021 a’i hymddangosiad cyntaf yn Neuadd Gyngerdd Walt Disney yn 2023.

Yn dilyn gwobrau cyntaf yng nghystadlaethau Arwain Syr Georg Solti a Guido Cantelli yn 2020, cafodd ei phenodi’n Arweinydd Preswyl Cerddorfa Symffoni Stavanger, sef swydd a ddaliodd tan ddiwedd tymor 2023/24. Cyn hynny, bu’n Brif Arweinydd St Woolos Sinfonia yn yng Nghymru ac yn Arweinydd Cynorthwyol Cerddorfa Symffoni Melbourne. Astudiodd arwain cerddorfaol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle graddiodd yn 2015, ac mae’n gyn-fyfyrwraig Sefydliad Hart ar gyfer Arweinyddion Benywaidd gydag Opera Dallas.

Ochr yn ochr â’i gyrfa fel arweinydd, mae Tianyi Lu yn eiriolwr brwd dros arweinyddiaeth, cynhwysiant a phŵer cerddoriaeth i gryfhau cymunedau. 

Elizaveta Ivanovaffliwt

Kate Sokolovska

Kate Sokolovska

Ers 2022, mae Elizaveta Ivanova yn Brif Ffliwtydd Cyswllt Opera a Cherddorfa Amgueddfa Frankfurt, ar ôl gwneud yr un swydd gyda Cherddorfa Symffoni St Petersburg (2017–22).

Cafodd ei geni yn Estonia yn 1997 i deulu cerddorol, a dechreuodd astudio pan oedd hi’n ifanc. Ar ôl cychwyn gyda gwersi piano, dechreuodd chwarae’r ffliwt pan oedd hi’n 12 oed. Rhwng 2009 a 2014, bu’n astudio yn St Petersburg, ac yna yn y Conservatoire gydag Olga Chernyadeva a Ksenia Kuelyar. Wedi hynny, astudiodd yn Basel gyda Felix Renggli.

Yn 2023, enillodd y Wobr Gyntaf yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Genefa, un o sawl cystadleuaeth lle mae wedi ennill gwobrau; rhai eraill yw cystadlaethau Ffliwt Crusell, Cluj a Maxence Larrieu.

Mae hi’n aelod o Chwythbrennau St Petersburg, sydd wedi ennill gwobrau mewn sawl cystadleuaeth cerddoriaeth siambr yn Rwsia. Mae hi hefyd yn perfformio’n rheolaidd mewn grwpiau cerddoriaeth siambr eraill, yn ogystal ag ymddangos mewn gwyliau rhyngwladol. Yn 2024, cafodd ei dewis yn un o Artistiaid Cenhedlaeth Newydd BBC Radio 3.

Alis Huwstelyn

Karolina Wielocha

Karolina Wielocha

Mae Alis Huws yn gyn-Delynores Frenhinol Swyddogol (2019-24) ac mae hi bellach yn gweithio fel cerddor unawdol, cerddorfaol a siambr llawrydd. Mae hi’n rhoi datganiadau’n rheolaidd ledled y DU ac yn rhyngwladol, ac wedi perfformio mewn lleoliadau mawreddog ledled y byd. Mae ganddi gontract recordio neilltuedig ac mae ei EP ddiweddaraf, Cosy Nights by the Fire, ar gael nawr ar bob llwyfan ffrydio. 

Yn 2024, cafodd ei henwi ar restr Classic FM o’r ‘30 o Sêr Newydd dan 30 oed’; rhai uchafbwyntiau diweddaraf eraill yw perfformio fel unawdydd gyda’r Gerddorfa Ffilharmonig yn Neuadd Frenhinol Albert ac ymddangos ar albwm sydd wedi’i henwebu am wobr Gramophone, sef Canticles Britten gyda’r tenor James Way.

Mae hi’n cefnogi cyfansoddwyr byw, ac mae hi wedi rhoi sawl première byd a Phrydeinig, gan gynnwys gwaith newydd gan Alice Beckwith ar gyfer tenor a’r delyn wedi’i gomisiynu ar ei chyfer hi a Mark Padmore. Mae hi hefyd am roi’r perfformiad cyntaf o Concerto i’r Delyn gan Cameron Biles-Liddell gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Perfformiodd yng Nghoroni Ei Fawrhydi y Brenin Charles III yn Abaty Westminster. Rhai ymrwymiadau uchel eu proffil eraill ganddi yw Gwasanaeth Gweddi a Myfyrdod Cenedlaethol Cymru ar gyfer Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, Agoriad Brenhinol Senedd Cymru 2016 a 2021, Gwasanaeth Diolchgarwch Cenedlaethol Cymru ar gyfer Diwrnod VJ, ac agor swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Berlin.

Urddwyd Alis Huws yn Gydymaith Er Anrhydedd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ei alma mater, yn 2022. Yno, bu’n astudio gyda Caryl Thomas, cyn astudio yn Amsterdam gydag Erika Waardenburg.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn y BBC Proms a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Ffidlau Cyntaf
Martin Gwilym-Jones blaenwr gwadd
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus 
Suzanne Casey 
Alejandro Trigo
Carmel Barber 
Anna Cleworth
Žanete Uškāne
Kerry Gordon-Smith 
Emilie Godden 
Ruth Heney **
Gary George-Veale

Ail Ffidlau
Kirsty Lovie # 
Sheila Smith
Michael Topping
Beverley Wescott
Lydia Caines **
Vickie Ringguth
Roussanka Karatchivieva
Joseph Williams
Jane Sinclair
Anna Szabo
Eleanor Gilchrist

Fiolâu
Tetsuumi Nagata
Laura Sinnerton 
Robert Gibbons
Mungo Everett-Jordan
Anna Growns 
Catherine Palmer
Dáire Roberts

Soddgrythau
Jennifer Langridge ‡
Raphael Lang
Sandy Bartai
Alistair Howes
Rachel Ford
Keith Hewitt

Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones #
Emma Prince
Ben Havinden-Williams

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean

Cor anglais
Amy McKean †

Clarinetau
Nicholas Carpenter *
Lenny Sayers +**

Clarinét Bas
Lenny Sayers †+**

Baswnau
Jarosław Augustyniak *
David Buckland

Isfasŵn
David Buckland †

Cyrn
Tim Thorpe *
Flora Bain
Isabella Ward-Ackland 
John Davy

Utgyrn
Corey Morris †
Robert Samuel

Trombonau
Donal Bannister*
Dafydd Thomas †

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Ramon Branch

Timpani
Phil Hughes

Offrynnau Taro
Harry Lovell-Jones

* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George Lee
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Cydlynydd y Gerddorfa a GweithrediadauEleanor Hall
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie Basham
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Uwch Oruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Cynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Cynhyrchydd AddysgBeatrice Carey
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols
Cydlynydd Marchnata Twf Angharad Muir–Davies
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Prentis Marchnata Mya Clayden
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications