Protest, Pŵer, Chwyldro, Gwrthsafiad

Dydd Sadwrn 26/9/26, 3.00pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Joan Tower
Fanfare for the Uncommon Woman No. 1 3’

Margaret Bonds
Montgomery Variations 24’

Joseph Haydn
Symffoni Rhif 45 yn F lonnod leiaf, ‘Ffarwel’ 25’

EGWYL: 15 munud

Shostakovich
Symffoni Rhif 9 yn E feddalnod fwyaf 25’

Johanna Malangré arweinydd

Mae Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i hardystio gan EcoAudio ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r BBC i fod yn sefydliad mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth cynaliadwyedd y BBC a’i gynllun i drawsnewid i sero net, ewch i https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-net-zero-transition-plan-2024.pdf

Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 ar gyfer Radio 3 in Concert. Bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol.

Cyflwyniad

Ar gyfer ein cyngerdd Protest, Pŵer, Chwyldro, Gwrthsafiad, mae’r arweinydd ifanc trydanol o’r Almaen, Johanna Malangré, yn ymuno â ni i edrych ar sut mae cyfansoddwyr wedi herio’r drefn, gwrthod gormes, a rhoi llwyfan i fudiadau cymdeithasol. Mewn cerddoriaeth sy’n rhychwantu tair canrif, byddwn yn clywed y gerddorfa fel cyfrwng ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol ac artistiaid yn ymateb i anghydbwysedd grym.

Mae pob darn yn fath o brotest – o ddathliad Joan Tower o fenywod sy’n ‘anturus ac yn cymryd risgiau’ er gwaetha’r rhwystrau, i ymateb Margaret Bonds i’r Boicot Bysiau ym Montgomery, ac o ateb dyfeisgar Haydn i anghydfod llafur i wrthsafiad chwareus ond brathog Shostakovich i bropaganda buddugoliaethus.

Efallai y byddwch chi’n sylwi nad oes unawdydd. Mae hyn er mwyn rhoi cyfle i’r gerddorfa ei hun ddisgleirio a rhoi lle i’r straeon hyn am wydnwch hawlio’r llwyfan.

Mae’r cyngerdd hwn yn cysylltu â Key Changes:BBC Radio 3’s Essential History of Classical Music, lle mae llu o haneswyr nodedig yn ymuno â Gillian Moore i ddilyn hynt 1,000 o flynyddoedd o gerddoriaeth glasurol. Mae Protest, Pŵer, Chwyldro a Gwrthsafiad yn cael eu harchwilio ar draws y gyfres wrth i hanes cerddorol gael ei osod ochr yn ochr â digwyddiadau hanesyddol.

George Lee
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rhai sy’n gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Joan Tower (ganwyd 1938)

Fanfare for the Uncommon Woman No. 1(1986)

Ysgrifennwyd y Fanfare for the Uncommon Woman gyntaf hon ar gyfer Symffoni Houston yn 1986 fel rhan o raglen fawr o ddarnau rhagarweiniol byr, a gomisiynwyd gan gyfansoddwyr Americanaidd yn bennaf, ar gyfer tymor 1986/7 i nodi 150 mlynedd ers cyfnod byr Texas o annibyniaeth. Cyfraniad arall i’r gyfres oedd Fanfare gan Aulis Sallinen, a ymgorfforwyd yn ddiweddarach yn ei Bumed Symffoni, ‘Washington Mosaics’ (1987), gan ddilyn esiampl Copland a ail-weithiodd ei Fanfare for the Common Man (1942) i mewn i’w Drydedd Symffoni (1944-6).

Bwriad gwreiddiol Tower oedd ysgrifennu teyrnged i Copland, gan sgorio’r darn ar gyfer offerynnau pres cerddorfaol safonol, timpani ac offerynnau taro fel a geir yn Fanfare for the Common Man, sy’n cael ei ddyfynnu yn y barrau agoriadol. (Mae ei ffanfferau dilynol yn y gyfres hyd at 1993, yn eu trefn, wedi cael eu sgorio fel a ganlyn: ar gyfer offerynnau pres ac offerynnau taro cerddorfaol; dau bumawd pres; cerddorfa lawn; pedwar neu wyth utgorn yn C, gydag offerynnau taro; ac yn fwyaf diweddar, ychwanegwyd chweched darn ar gyfer y piano yn 2014, a gafodd ei drefnu ar gyfer cerddorfa ddwy flynedd yn ddiweddarach.) 

Fodd bynnag, cymerodd Tower ‘ddyn cyffredin’ Copland fel man cychwyn ac esblygu ymateb ffeministaidd, sy’n rhythmig yn ei hanfod ac yn llawn gwrthgyferbyniadau deinamig gyda churiad sydd bron yn symffonig. Yn wreiddiol, nid oedd y Fanfare cyntaf wedi’i chyflwyno i neb yn benodol (yn wahanol i’w holynwyr) sy’n anrhydeddu ‘menywod sy’n anturus ac yn cymryd risgiau’, ond ychwanegodd Tower gyflwyniad yn ddiweddarach i anrhydeddu’r arweinydd arloesol Marin Alsop.

Nodyn y rhaglen © Guy Rickards

Margaret Bonds (1913–72)

Montgomery Variations(1964)

1 The Decision
2 Prayer Meeting
3 March
4  Dawn in Dixie
5 One Sunday in the South
6 Lament
7 Benediction

Cafodd Margaret Bonds ei hudo gan brotestio di-drais Dr Martin Luther King a’r gweithgarwch a oedd yn byrlymu o Montgomery, Alabama. O ystyried bod ei thad ei hun, Dr Monroe Alpheus Majors, wedi bod yn ymgyrchydd hawliau sifil gydol ei oes, a bod ei mam, Estella Bonds, wedi rhoi neges o gariad Cristnogol a chytgord cymdeithasol i Margaret ers pan oedd yn ddim o beth, nid yw’n syndod bod geiriau a gweithredoedd Dr King wedi taro tant â hi. Yn 1964, roedd hi wedi cwblhau cyfansoddiad cerddorfaol newydd er anrhydedd i Dr King, cymunedau Affricanaidd-Americanaidd Alabama, a brwdfrydedd y foment hanesyddol hon: ei Montgomery Variations.

Mae thema Bonds yn deillio o’r gân ysbrydol yn y cywair lleiaf ‘I want Jesus to walk with me’. Clywir y thema hon yn bendant yn yr offerynnau pres a’r cyrn yn y symudiad cyntaf, ‘The Decision’, lle mae Bonds yn cyfleu’n gerddorol agwedd benderfynol Dr King a’i gymuned tuag at foicotio bysiau arwahanedig, er y byddai hyn i lawer o bobl yn golygu deffro cyn y wawr er mwyn cerdded milltiroedd ar filltiroedd i’r gwaith. Mae’r thema’n pwysleisio asgwrn cefn ysbrydol y Mudiad Hawliau Sifil a’r agwedd benderfynol ddi-ildio roedd protestwyr yn ei chael o ganeuon cysegredig Du.

Ar draws y gyfres o amrywiadau, mae Bonds yn defnyddio seinfyd caneuon gwerin Du De Antebellum wrth iddi adrodd hanes y protestiadau a’r gwrthsafiadau a ddeilliodd o’r De Dwfn yn ei chyfnod hi. Mae’r Montgomery Variations yn dangos hoffter y cyfansoddwr o delynegiaeth deimladwy, lliw harmonig cyfoethog, dawn rythmig ac adrodd straeon mewn modd pwerus. Mae ‘Dawn in Dixie’, er enghraifft, yn dwyn i gof harddwch y fugeilgan gydag alawon arnofiol y chwythbrennau. Ac eto, mae tristwch mawr ynghlwm wrth ei chariad at dirwedd taleithiau’r De lle roedd planhigion camelia lliwgar a magnolia melys yn blodeuo, ond lle gwelwyd hefyd gyrff Du wedi’u crogi gan vigilantes Gwyn yn hongian o goed derw uchel, yn ogystal â’r KKK yn bomio Eglwys Bedyddwyr 16th Street yn Birmingham, Alabama, ar 15 Medi 1963.

Mae Bonds yn portreadu’r ail o’r rhain yn ‘One Sunday in the South’. Mae wedi gosod y brif thema yn y cywair mwyaf, sy’n cyfleu addewid llawen y plant ifanc yn yr Ysgol Sul. Fodd bynnag, tua diwedd y symudiad, mae’r offeryniaeth esgynnol yn ymdoddi i goda sy’n cael ei arwain gan offerynnau taro. Mae bloc pren yn dwyn i gof y bom sy’n tician yn llythrennol a’r dinistr sydd ar fin digwydd, gan ladd pedair merch fach Affricanaidd-Americanaidd.

Mae’r llinynnau galarnadus y mae Bonds yn eu plethu drwy’r ddau symudiad nesaf yn llawn emosiwn. Ni allwn – ac ni ddylem – anghofio am erchyllterau’r gorffennol. Ac eto, gan adlewyrchu rhan greiddiol o fagwraeth Bonds ei hun, mae’n cloi’r Montgomery Variations gyda ‘Benediction’. Mae gobaith am ddyfodol mwy cyfiawn, ac mae ei cherddoriaeth yn cyfleu hynny gydag ysblander sinematig.

Mae’r gyfres gerddorfaol hon yn rhoi cyfle i wrandawyr heddiw ddysgu mwy am fywyd a gwaith Bonds, a dod o hyd i gyseiniant newydd wrth i ni feddwl am beth mae cyfiawnder cymdeithasol mewn cerddoriaeth glasurol yn ei olygu heddiw.

Nodyn y rhaglen © Samantha Ege

Joseph Haydn (1732–1809)

Symffoni Rhif 45 yn F lonnod leiaf, ‘Ffarwel’ (1772)

1 Allegro assai
2 Adagio
3 Menuetto: Allegretto
4 Presto – Adagio

Mae Symffoni ‘Ffarwel’ Haydn wedi dod yn fwy enwog am ddwyster angerddol y gerddoriaeth nag am ei ‘rhaglen’ brydferth. Yn ystod hydref 1772 arhosodd y Tywysog Nikolaus Esterházy yn ei balas haf yn y corstiroedd Hwngaraidd anghysbell am gyfnod llawer hirach nag arfer. Roedd y cerddorion, a oedd wedi’u gwahanu oddi wrth eu teuluoedd yn Eisenstadt, wedi mynd yn fwyfwy anniddig ac wedi erfyn ar Haydn i ymyrryd. Yng ngeiriau ffrind a bywgraffydd y cyfansoddwr, Georg Griesinger: ‘Tarodd Haydn ar y syniad o ysgrifennu symffoni ... lle’r oedd yr offerynnau, un ar ôl y llall, yn ymdawelu ... Dywedwyd wrth bob cerddor, cyn gynted ag yr oedd ei ran ef wedi dod i ben, y dylai ddiffodd ei gannwyll, pacio ei gerddoriaeth a gadael gyda’i offeryn o dan ei fraich. Roedd y Tywysog a’r gynulleidfa yn deall pwrpas y pantomeim yma ar unwaith; daeth y gorchymyn i adael y diwrnod canlynol.’

Y broblem gyda’r ‘Ffarwel’ yw bod y diflannu trawiadol yn y diweddglo, gyda’r chwaraewyr yn llythrennol yn pleidleisio â’u traed, wedi tueddu i guddio gwreiddioldeb y symffoni. Yn gyntaf, mae ei chywair anghyffredin, F lonnod leiaf, sy’n unigryw ymysg symffonïau’r 18fed ganrif, ac yn enwog am fod yn anodd tiwnio iddo. Roedd yn rhaid i Haydn gomisiynu crwcynnau newydd ar gyfer y cyrn hyd yn oed. Mae’r cywair eithafol yn mynd law yn llaw â chyflyrau emosiynol eithafol a strwythur chwyldroadol. Mae’n debyg mai’r Allegro assai agoriadol yw’r symudiad symffonig mwyaf treisgar ac ansefydlog a gyfansoddodd Haydn erioed. Yn y dangosiad, mae’r gerddoriaeth yn gwrthod setlo yn naws ‘hamddenol’ y cywair perthynol mwyaf, A, gan wyro yn lle hynny at gywair llawer mwy dirdynnol C lonnod leiaf. Mae’r datblygiad yn agor gydag A fwyaf fortissimo sy’n ffrwydro cyn torri ymaith ar gyfer atgan delynegol ddiatonig, piano yn D fwyaf sydd wedi’i sgorio’n dyner – cyferbyniad eithafol ar bob lefel o’i gymharu â hyn sydd wedi bod ynghynt. Yn enigmatig, mae’r interliwd hwn yn diflannu’n ddim; yna, ar ôl saib, mae’r ailddangosiad yn rhuthro i mewn gyda ffyrnigrwydd o’r newydd.

Mae’r Adagio tyner ond moel yn A fwyaf, gyda soniaredd ariannaidd tawel y llinynnau, yn cynnig rhywfaint o seibiant. Hyd yn oed yma, fodd bynnag, mae ymdeimlad o ansefydlogrwydd ac anesmwythder yn parhau, gan bendilio’n aml rhwng y cywair mwyaf a’r cywair lleiaf. Ac yn yr ailddangosiad, ceir darn lle mae’r gerddoriaeth yn hofran yn hypnotig ar ymyl parthau harmonig rhyfedd ac anghysbell. Ar ddechrau’r ailddangosiad, mae’r cyrn – sydd wedi bod yn fud hyd yma – yn dod i mewn am y tro cyntaf, gan ychwanegu sglein hudol at wead y llinynnau. 

Yn y Menuetto, yn F lonnod fwyaf, mae’r sefydlogrwydd yn cael ei fygwth ar unwaith gan y D naturiol anghwrtais, anghyseiniol yn y trydydd bar (sy’n awgrymu F lonnod leiaf) ac yn ddiweddarach mae’n cael ei danseilio gan gymal diweddebol mympwyol ac amhendant y ffidlau. Mae’r Triawd, gyda llawer o wrthgyferbyniadau rhwng y cyweiriau mwyaf a lleiaf unwaith eto, yn cynnwys alaw plaengan hynafol.

Dim ond yn y diweddglo y ceir adferiad o fath; yn ei ddwy adran ar wahân, crynhoir dilyniant tonyddol y tri symudiad cyntaf – F lonnod leiaf, A fwyaf, F lonnod fwyaf. Mae’r Presto ar ffurf sonata yn null Sturm und Drang (‘Storm a Straen’) mwyaf tanbaid a swta Haydn – gyda’r iaith gerddorol gyfoes wedi’i gwthio i draw eithafol o drais. Ond mae’r ailddangosiad cywasgedig yn torri ymaith yn sydyn. Yna, er mawr syndod i’r Tywysog Nikolaus a’i osgordd yn ddi-os, mae’r symffoni’n parhau gydag Adagio hyfryd a heddychlon yn A fwyaf. Ar ôl i’r unawdwyr fowio gyda diweddeb ‘ffarwel’, mae’r obo cyntaf a’r ail gorn yn diffodd eu canhwyllau. Mae’r gerddoriaeth wedyn yn symud i F lonnod fwyaf, wedi’i chynnal gan dripledi ar y bas dwbl. Pan mae’r thema’n ailddechrau, dim ond y ffidlau, y fiola a’r soddgrythau sy’n weddill, gan leihau’n raddol i ddwy ffidil dawel. Daw’r symffoni i ben mewn awyrgylch breuddwydiol tyner, sy’n gwrthgyferbynnu’n llwyr â’r agoriad, gan adleisio rhan ‘afreal’ y symudiad cyntaf yn D fwyaf a diweddglo eiddil y Menuetto. 

Nodyn y rhaglen © Richard Wigmore

EGWYL: 15 munud

Dmitry Shostakovich (1906–75)

Symffoni Rhif 9 yn E feddalnod fwyaf, Op. 70 (1945)

1 Allegro
2 Moderato
3 Presto –
4 Largo –
5 Allegretto – Allegro

Cyfansoddodd Shostakovich ei Nawfed Symffoni yn ystod wythnosau olaf yr Ail Ryfel Byd. Yn fuan, ymddangosodd adroddiadau ei fod yn gweithio arni yn y papurau, ynghyd â chryn dipyn o ddyfalu brwd. Cyhoeddodd bwletin gan yr asiantaeth newyddion Sofietaidd, TASS, y byddai’r symffoni newydd yn ‘dathlu ein Buddugoliaeth Fawr’. Cyfeiriwyd yn helaeth at sylw a wnaeth Shostakovich y flwyddyn flaenorol:

‘Rwy’n meddwl am fy symffoni nesaf, y Nawfed. Hoffwn ddefnyddio cerddorfa lawn yn ogystal â chôr ac unawdwyr, os galla i ddod o hyd i destun addas; beth bynnag, dydw i ddim eisiau cael fy nghyhuddo o wneud cymariaethau hyf.’

Efallai nad dyna’r bwriad, ond roedd y sylw olaf hwnnw i bob pwrpas yn gofyn am i’r symffoni gael ei chymharu â Nawfed Symffoni arall a sgoriwyd ar gyfer côr ac unawdwyr: ‘Corâl’ Beethoven. Roedd modd rhagweld yr effaith: Paratôdd Rwsia Sofietaidd ei hun ar gyfer campwaith i ddathlu’r genedl: ‘Ode to Joy’ cerddorol i sefyll ochr yn ochr ag un Beethoven, a fyddai – wrth gwrs – yn cydnabod cyfraniad ysbrydoledig yr ‘Arweinydd ac Athro’ ei hun, Joseph Stalin, at y Fuddugoliaeth Fawr. 

Fel y digwyddodd pethau, roedd y ‘Nawfed Symffoni Sofietaidd’ y bu cryn edrych ymlaen ati yn ffrwydrol – ond mewn ffordd hollol annisgwyl. Yn un peth, roedd yn syfrdanol o fyr (llai na hanner awr) ac roedd wedi’i sgorio ar gyfer cerddorfa gymedrol ei maint ond roedd cymeriad cyfan y gwaith fel pe bai wedi’i gamfarnu’n ddifrifol. Dyma ymateb y cyfansoddwr Marian Koval: ‘Gadawodd y gwrandawyr gan deimlo’n anghyfforddus iawn, fel pe bai ganddynt gywilydd o’r drygioni cerddorol roedd Shostakovich wedi’i gyflawni a’i arddangos – a hynny nid gan berson ifanc ond gan ddyn 40 oed, ac ar adeg fel honno!’ Yn ôl Koval, cyflwynwyd i’r gynulleidfa ‘Haydn yr hen ddyn a sarjant Americanaidd cyffredin a oedd yn ceisio edrych fel Charlie Chaplin, ond yn aflwyddiannus, wrth i bob ystum a symudiad gwamal garlamu drwy symudiad cyntaf y symffoni’. Ailgyhoeddwyd sylwadau Koval yn 1948, y flwyddyn y cafodd Shostakovich ei gollfarnu yng Nghyngres Gyntaf Undeb y Cyfansoddwyr a’i orfodi i wneud datganiad cyhoeddus gwaradwyddus o edifeirwch. Mae’n ymddangos nad oedd Stalin wedi anghofio’r weithred honno o ‘ddrygioni cerddorol’.

Er bod adolygiad Koval yn wenwynig – ac wedi’i sbarduno’n rhannol gan wleidyddiaeth yn ôl pob tebyg – roedd yn llygad ei le am un peth. Gellid teimlo rhywfaint o ysbryd Haydn, symffonïwr mawr y 18fed ganrif, yn Nawfed Symffoni Shostakovich, ac yn enwedig yn y symudiad cyntaf. Mae’r Allegro agoriadol yn cynnwys cerddoriaeth gynnil, ystwyth a chwim, gyda hiwmor gwych sy’n tynnu gwynt o’ch hwyliau. Er enghraifft, yr ail thema – alaw picolo sy’n chwibanu ddireidus a gyflwynir gan offerynnau taro milwrol a ‘ffanffer’ dau-nodyn hurt o rwysgfawr ar y trombôn: Shostakovich yn wfftio rhwysg Sofietaidd efallai? Yn yr ailddangosiad, mae’r trombôn rhwysgfawr yn dal i geisio mynnu sylw, ond mae gweddill y gerddorfa’n ei rwystro bob tro. Yn agos at ddiwedd y symudiad, mae’r ‘drygioni’ yn bygwth troi’n hyll, ond mae Shostakovich yn gollwng y llen yn sydyn gyda dau gord swta gan y gerddorfa lawn – rhyw ffordd Neo-Glasurol o ddweud ‘Dyna’r cwbl, gyfeillion!’.

Mae gwawr dywyll i’r ail symudiad Moderato, ond mae’n delynegol ac yn gynnil ar y cyfan – ymateb Shostakovich i rai o symudiadau araf ysgafn a melancolaidd Haydn yn y cywair lleiaf o bosibl. 

Mae hiwmor cellweirus yn dod i’r amlwg eto yn Presto, sy’n debyg i scherzo, gyda lliwiau syrcas Rwsiaidd. Ond mae hyn yn colli stêm ac yn ymostwng i’r Largo. Ar y pwynt hwn, mae’r mwgwd comig yn cael ei ddiosg; yn wir, pe bai’r symudiad hwn yn ymddangos yn un o’r symffonïau epig o adeg y rhyfel a ragflaenodd y Nawfed Symffoni hon, ni fyddai’n swnio allan o’i le. Mae ffigurau rhythmig miniog a bygythiol yn yr offerynnau pres isaf yn cyflwyno ddwywaith unawdau hir, galarnadus, tebyg i adroddgan ar gyfer basŵn uchel.

Ond wedyn daw gwrthdro sy’n nodweddiadol o waith Shostakovich: pan fo hiwmor tanseiliol y symudiad cyntaf a’r trydydd symudiad wedi mynd yn angof, mae’r tempo’n newid i Allegretto, ac mae’r basŵn yn gostwng i’w gwmpasran isaf ar gyfer thema werinol sy’n chwerthin yn slei. Mae gweddill y gerddorfa’n adleisio’r awyrgylch, ond erbyn hyn mae’n amlwg bod naws nerfus i’r digrifwch. Ar y diwedd, mae’r tempo’n cyflymu ac mae’r symffoni’n dawnsio’n wyllt i’w therfyn: mae’n dal yn ddoniol, ond mae’n amlwg nad ‘Ode to Joy’ mohoni.

Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:

Fantastique

Nos Sadwrn 3/10/26, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

L. Boulanger D’un matin de printemps (Ar Fore o Wanwyn)
Schubert Allegretto yn C fwyaf
Beethoven Ffantasi Gorawl yn C leiaf
Berlioz Symphonie fantastique

Jaime Martínarweinydd
Steven Osbornepiano
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

DRAMA | DEFFROAD | GWELEDIGAETH

Mae’r rhaglen hon yn olrhain taith o oleuni byrhoedlog y gwanwyn i un o syniadau cerddorol mwyaf unigolyddol y 19eg ganrif. Mae’n agor gyda D’un matin de printemps Lili Boulanger, sy’n cyfleu egni bore o wanwyn: lliwiau’n fflachio, rhythmau’n dawnsio, ac ymdeimlad digamsyniol o daith bywyd.

Wrth galon yr hanner cyntaf mae Ffantasi Gorawl Beethoven, sef gwaith beiddgar ac anghonfensiynol. Mae’r darn yn agor gyda’r piano yn unig. Mae’n ehangu’n raddol i’r gerddorfa ac yna mae’r corws yn cael ei ychwanegu, gan adeiladu at ddatganiad terfynol gorfoleddus.

Ar ôl yr egwyl, cawn Symphonie Fantastique Berlioz, sef un o’r gweithiau symffonig mwyaf rhyfeddol a dylanwadol i gael ei ysgrifennu erioed.

Nutcracker gan Tchaikovsky

Nos Iau 3/12/26, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Humperdinck Hansel a Gretel – Preliwd
Bridge Christmas Dance ‘Sir Roger de Coverley’
Britten The Young Person’s Guide to the Orchestra
Tchaikovsky The Nutcracker – Cyfres

Luis Castillo-Briceño arweinydd
Steffan Rhodri storïwr

 HUDOL | RHYFEDDOL | DYMUNOL

Dathliad Nadoligaidd o glasuron, dan arweiniad Luis Castillo-Briceño. Bydd y noson yn agor gyda’r Preliwd hudolus o Hansel a Gretel gan Humperdinck, lle mae alawon gwerinol yn dod â’r goedwig hudolus yn fyw. Darn disglair Frank Bridge, Christmas Dance ‘Sir Roger de Coverley’, sydd i ddilyn. Yma ceir corwynt o amrywiadau ar alaw Seisnig gyfarwydd sy’n gysylltiedig â’r Nadolig.

Mae TheYoung Person’s Guide to the Orchestra gan Benjamin Britten yn daith ddifyr a dadlennol o amgylch y gerddorfa, ac mae’n berffaith ar gyfer gwrandawyr chwilfrydig o bob oed. Ar ôl yr egwyl, bydd cyfres hudolus TheNutcracker gan Tchaikovsky yn cloi’r cyngerdd gyda hud y Nadolig, dawns ac alawon bythgofiadwy.

Tchaikovsky 5

Nos Iau 7/1/27, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Williams Sea Sketches
Renié
Concerto i’r Delyn
Tchaikovsky Symffoni Rhif 5

Jaime Martín arweinydd
Mared Emyr Pugh-Evans telyn

AWYRGYLCH | MEISTROLAETH | BUDDUGOLIAETH

Bydd y cyngerdd lliwgar hwn, dan arweiniad y Prif Arweinydd Gwadd Jaime Martín, yn dod â cherddoriaeth at ei gilydd sy’n llawn awyrgylch, meistrolaeth a phŵer symffonig. Sea Sketches gan Grace Williams fydd yn agor y noson, gan gyfleu cymeriad arfordir Cymru mewn cerddoriaeth sy’n lliwgar, sy’n llifo, ac sy’n chwa o awyr iach.

Bydd y sylw’n troi wedyn at y delynores Frenhinol Mared Emyr Pugh-Evans, sef yr unawdydd yn y Concerto i’r Delyn gan Henriette Renié – gwaith wedi’i siapio gan alawon ysgubol hir a rhannau meistrolgar gwych ar gyfer y delyn.

Ar ôl yr egwyl, bydd Symffoni Rhif 5 gan Tchaikovsky yn mynd â ni ar daith ddramatig o frwydr i fuddugoliaeth frwd, gan gloi’r rhaglen gydag angerdd.

Gallwch archebu tocynnau am gyn lleied â £8 gan ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU https://www.bbc.co.uk/events/evr6gw

Bywgraffiadau

Johanna Malangré arweinydd

Zuzanna Specjal

Zuzanna Specjal

Mae Johanna Malangré, yr arweinydd arobryn o’r Almaen, wedi bod yn Brif Arweinydd Orchestre de Picardie ers mis Medi 2022, gan ennill clod am ei dawn gerddorol a’i harddull arwain carismatig. Fel arweinydd gwadd, mae hi wedi arwain ensembles enwog fel Cerddorfeydd Ffilharmonig Dortmund, Munich a Nagoya, Deutsche Staatsphilharmonie Rheinland-Pfalz, Orchestre National de France, Orchestre National de Lyon a Cherddorfa Symffoni Helsingborg. Mae hi’n cydweithio’n rheolaidd ag unawdwyr byd-enwog, gan gynnwys Alban Gerhardt, Gautier Capuçon, Anastasia Kobekina, Alexander Melnikov, Carolin Widmann a Sergei Nakariakov.

Roedd ei huchafbwyntiau’r tymor diwethaf yn cynnwys ei pherfformiad cyntaf gyda Leipzig Gewandhausorchester, arwain Cerddorfa Gŵyl Lucerne yng nghyngerdd cloi’r ŵyl a rhoi’r perfformiad cyntaf erioed o Goncerto Dwbl Patricia Kopatchinskaja i’r ffidil a’r soddgrwth gyda Cherddorfa Gŵyl Gyfoes Lucerne.Dychwelodd hefyd at Real Filharmonía de Galicia, Orquesta Nacional de Sevilla ac Orquesta de Murcia, yn ogystal â pherfformio am y tro cyntaf yn Ne America gydag Orquesta Nacional de México.

Yng Nghystadleuaeth Arwain MAWOMA 2019 yn Fienna, enillodd y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gerddorfa. Dechreuodd ei gyrfa gydag Opera Siambr Cologne, lle bu’n gweithio fel arweinydd cynorthwyol a répétiteur ar nifer o gynyrchiadau. Mae hi’n ehangu ei repertoire opera’n barhaus ac mae wedi arwain perfformiadau o Rusalka, Priodas Figaro, An Index of Metals gam Fausto Romitelli a Die Fledermaus.Yn Opera de Nice, arweiniodd 12 vies de Schönberg mewn cynhyrchiad gan Bertrand Bonello.

Yn ei hymgais i gyflwyno cerddoriaeth gerddorfaol i gynulleidfa ehangach, sefydlodd Johanna Malangré Gerddorfa Gŵyl HIDALGO. Rhwng 2019 a 2023, daeth hyn â cherddorion proffesiynol ifanc o’r prif gerddorfeydd ym Munich at ei gilydd.

Ar ôl astudio gyda Johannes Schlafli yn Zurich, mae Johanna Malangré wedi mynd ati i fireinio ei chelfyddyd mewn dosbarthiadau meistr gyda Bernard Haitink, Paavo Järvi, Nicolas Pasquet a Reinhard Goebel.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn y BBC Proms a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Ffidlau Cyntaf
Martin Gwilym-Jones blaenwr gwadd
Gwenllian Hâf MacDonald
Jack Greed
Terry Porteus
Suzanne Casey
Carmel Barber
Anna Cleworth
Žanete Uškāne
Kerry Gordon-Smith
Alejandro Trigo
Gary George-Veale
Zhivko Georgiev

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Kirsty Lovie #
Ros Butler
Sheila Smith
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Katherine Miller
Beverley Wescott
Roussanka Karatchivieva
Lydia Caines **

Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Laura Sinnerton
Catherine Palmer
Mungo Everett-Jordan
Robert Gibbons
Dáire Roberts
Carl Hill

Soddgrythau
Steffan Morris ‡
Raphael Lang
Sandy Bartai
Keith Hewitt
Rachel Ford
Carolyn Hewitt
Alistair Howes
Kathryn Graham

Basau Dwbl
Ana Cordova ‡
Moray Jones
Emma Prince
Thea Sayer
Ketan Curtis
Will Priest

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Samuel Willsmore
Amy McKean

Cor anglais
Amy McKean †

Clarinetau
Nicholas Carpenter *
William White †
Alison Lambert

Clarinét Bas
Alison Lambert

Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Patrick Bolton
David Buckland

Isfasŵn
David Buckland †

Cyrn
Tim Thorpe *
Isabella Ackland
John Davy
Craig MacDonald

Utgyrn
Phillipe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris †

Trombonau
Dafydd Thomas †
Ross Johnson

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Ramon Branch

Timpani
Steve Barnard *

Offrynnau Taro
Phil Hughes
Harry Lovell-Jones
Phil Girling
Rhydian Griffiths

Y Delyn
Elen Hydref Wright

* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George Lee
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Cydlynydd y Gerddorfa a GweithrediadauEleanor Hall
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie Basham
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Uwch Oruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Cynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Cynhyrchydd AddysgBeatrice Carey
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols
Cydlynydd Marchnata Twf Angharad Muir–Davies
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Prentis Marchnata Mya Clayden
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications