Main content

Alis Huws

Harp

Alis Huws is a former Official Royal Harpist (2019–24) and now works as a freelance soloist, orchestral and chamber musician. She regularly gives recitals across the UK and internationally, having performed at prestigious venues worldwide. She has an exclusive recording contract and her latest EP, Cosy Nights by the Fire, is out now on all streaming platforms.

In 2024 she was named on Classic FM’s 30 under 30 ‘Rising Stars’ list; other recent highlights include performing as a soloist with the Philharmonia Orchestra at the Royal Albert Hall and appearing on the Gramophone Award-nominated album of Britten’s Canticles with tenor James Way.

She champions living composers, and has given several world and UK premieres, including a new work by Alice Beckwith for tenor and harp commissioned for her and Mark Padmore. She is also set to premiere a Harp Concerto by Cameron Biles-Liddell with the BBC National Orchestra of Wales.

She performed at the Coronation of His Majesty King Charles III at Westminster Abbey. Other high-profile engagements include the Welsh National Service of Prayer and Reflection for HM Queen Elizabeth II, the Royal Opening of the Senedd 2016 and 2021, the Welsh National Thanksgiving Service for VJ Day and the opening of the Welsh Government’s offices in Berlin.

Alis Huws was made an Honorary Associate of the Royal Welsh College of Music & Drama, her alma mater, in 2022. There, she studied with Caryl Thomas, before studies in Amsterdam with Erika Waardenburg.

Recent and Upcoming

Alis Huws

Telyn

Mae Alis Huws yn gyn-Delynores Frenhinol Swyddogol (2019-24) ac mae hi bellach yn gweithio fel cerddor unawdol, cerddorfaol a siambr llawrydd. Mae hi’n rhoi datganiadau’n rheolaidd ledled y DU ac yn rhyngwladol, ac wedi perfformio mewn lleoliadau mawreddog ledled y byd. Mae ganddi gontract recordio neilltuedig ac mae ei EP ddiweddaraf, Cosy Nights by the Fire, ar gael nawr ar bob llwyfan ffrydio.

Yn 2024, cafodd ei henwi ar restr Classic FM o’r ‘30 o Sêr Newydd dan 30 oed’; rhai uchafbwyntiau diweddaraf eraill yw perfformio fel unawdydd gyda’r Gerddorfa Ffilharmonig yn Neuadd Frenhinol Albert ac ymddangos ar albwm sydd wedi’i henwebu am wobr Gramophone, sef Canticles Britten gyda’r tenor James Way.

Mae hi’n cefnogi cyfansoddwyr byw, ac mae hi wedi rhoi sawl première byd a Phrydeinig, gan gynnwys gwaith newydd gan Alice Beckwith ar gyfer tenor a’r delyn wedi’i gomisiynu ar ei chyfer hi a Mark Padmore. Mae hi hefyd am roi’r perfformiad cyntaf o Concerto i’r Delyn gan Cameron Biles-Liddell gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Perfformiodd yng Nghoroni Ei Fawrhydi y Brenin Charles III yn Abaty Westminster. Rhai ymrwymiadau uchel eu proffil eraill ganddi yw Gwasanaeth Gweddi a Myfyrdod Cenedlaethol Cymru ar gyfer Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, Agoriad Brenhinol Senedd Cymru 2016 a 2021, Gwasanaeth Diolchgarwch Cenedlaethol Cymru ar gyfer Diwrnod VJ, ac agor swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Berlin.

Urddwyd Alis Huws yn Gydymaith Er Anrhydedd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ei alma mater, yn 2022. Yno, bu’n astudio gyda Caryl Thomas, cyn astudio yn Amsterdam gydag Erika Waardenburg.

Diweddar ac ar y Gorwel