Main content

Braw mam wrth i'w merch gael diagnosis o Ddiabetes Math 1

Mae mam o Gaerfyrddin wedi sôn am ei braw wrth ddarganfod fod lefelau siwgr yng ngwaed ei merch yn beryglus o uchel. Dywed Dr Llinos Roberts mai lwc oedd hi fod ganddi declyn mesur siwgr yn y tŷ oherwydd ei gwaith fel meddyg teulu, a bod symptomau ei merch 14 oed wedi ymddangos yn gyflym iawn. Cafodd Olwen Williams ei rhuthro i'r ysbyty, lle darganfuwyd ei bod yn dioddef o ddiabetes Math 1.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

5 o funudau