Main content
'Yn ogystal â'r fraint, mae'r cyfrifoldeb' - Tudur Dylan y darpar Archdderwydd
Mae'r Prifardd Tudur Dylan wedi cael ei ethol i fod yr Archdderwydd nesaf, i olynu Mererid Hopwood yn y rôl.
Am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd, roedd dau yn y ras y tro hwn - Tudur Dylan a Gerwyn Wiliams.
Ers rhai wythnosau mae aelodau'r Orsedd wedi cael cais i bleidleisio dros un o'r ddau, ac fe gafodd canlyniad y bleidlais gael ei gyhoeddi yng nghyfarfod cyffredinol yr Orsedd ddydd Iau.





