Main content

Llongyfarchiadau Jonathan Davies, enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2026

Jonathan Davies sydd wedi ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2026. Cafodd ei wobrwyo ar lwyfan y Pafiliwn ar Faes Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las ddydd Mercher, Aled Hughes sy'n cael cyfle i'w longyfarch.

Cychwynnodd Jonathan Davies, o Lwchwr ger Abertawe, ddysgu Cymraeg er mwyn ailgysylltu â'i dreftadaeth a'i hunaniaeth ar ôl byw yn Llundain.

Y tri arall oedd ar y rhestr fer oedd Caroline Jones, Kierion Lloyd a Paige Morgan. Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Karl Davies, Kevin Knox a Mirain Iwerydd. Mae'r enillydd yn derbyn Tlws Dysgwr y Flwyddyn a gwobr ariannol o £300.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau