Main content

Spygate, ffars VAR a Tîm y Flwyddyn

Ydi Southampton wir wedi gyrru rhywun i wylio Middlesbrough yn ymarfer cyn gemau ail-gyfle y Bencampwriaeth? Be nesa'? Ac mae Malcolm yn cynnig rheolau newydd o giciau cornel.

Ydi Southampton wir wedi gyrru aelod o staff i wylio Middlesbrough yn ymarfer cyn gemau ail-gyfle y Bencampwriaeth? Be nesa'? Ac ar ôl i VAR beidio caniatáu gôl hwyr i West Ham yn erbyn Arsenal, mae Malcolm yn cynnig rheolau newydd er mwyn rhoi diwedd i'r holl dynnu a gafael o giciau cornel.

Gawn ni hefyd glywed pa chwaraewyr o bedwar clwb EFL Cymru sydd wedi cael eu dewis gan Dylan, Owain a Malcolm yn Nhîm y Flwyddyn.

Release date:

11 months left to listen

54 minutes

Podcast