Main content
Cerdd yr Wythnos - Myrddin ap Dafydd (Y Tir Mawr)
Dim Ond
Dim ond
yr hanes a sgwennwn ni
gaiff ei rannu gyda chi
Dim ond
y llyfrau sydd at ein dant
gaiff eu darllen gan y plant
Dim ond
papurau nad ydyn nhw’n wir
gaiff ei llosgi wrth lyfrgell y sir
Dim ond
y bardd sy’n cau ei geg
gaiff gan y llys wrandawiad teg
Dim ond
cysgod o ddüwch y glyn
dim ond dechrau ydi hyn
Myrddin ap Dafydd





