Main content

Bywyd rhyngwladol Rhys Jones o'r Sarnau

Rhys Jones
Datblygwr eiddo o’r Sarnau ger y Bala yw gwestai Beti George, ond sydd erbyn hyn yn rhannu ei amser rhwng Gwlad Pwyl a Norwy.

Doedd Rhys ddim yn rhy hoff o’r Ysgol, ond yn mwynhau gweithio allan yn yr awyr agored gyda’I Dad ar y fferm, ac yn helpu gyda’i fusnes adeiladu. Fe aeth i’r coleg yn Llundain a chymhwyso fel syrfeiwr siartredig. Mae wedi treulio rhanfwyaf o’i fywyd yng ngwlad Pwyl lle mae ganddo gwmnïau ‘Real Estate’. Mae’r busnes wedi mynd ag ef i ddwyrain Ewrop yn ogystal â Sbaen ac mae ganddo fferm olewydd yn Sicily.
Mae hefyd yn treulio amser yn Norwy, lle mae ei deulu yn byw ac yn siarad sawl iaith.

Mae ganddo farn gref am sefyllfa economaidd Cymru ac mae’n sôn fel mae Gwlad Pwyl yn ffynnu, ac mae’n credu'r dyle ni gefnogi ein ffermwyr a’n busnesau lleol.
Ac mae’n sôn hefyd am Wcráin ac effaith y rhyfel ar Wlad Pwyl.

Mae hefyd yn awdur y llyfr “Taming the Monkey Brain – A Welshman’s Journey to the Heart of America".

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau