Main content

Malcolm, tania'r mower 'na!

Moroco-Senegal, Craig Bellamy, torri gwaith a chrysau siec - tipyn o bopeth i'r criw drafod wythnos yma!

Mae 'na gyffro ymysg y criw! Nid yn unig oherwydd bod cyfle o'r diwedd i nôl y peiriant torri gwair allan o'r sied, ond mae gêm anferth Cymru yn erbyn Bosnia-Herzegovina yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd ar y gorwel. Sut fydd Cymru yn delio heb Kieffer Moore? Oes 'na ddigon o opsiynau amddiffynnol yn dilyn anafiadau Ben Davies, Chris Mepham a Connor Roberts? A pham bod ambell gwestiwn yn y gynhadledd i'r wasg wedi codi gwrychyn Craig Bellamy?

A beth ar y ddaear sy'n digwydd efo Cwpan Cenhedloedd Affrica? Mae'r holl sefyllfa bron mor anghredadwy â dewis OTJ o grysau siec.

Release date:

11 months left to listen

52 minutes

Podcast