Main content

Lisa Fearn sy’n sôn am dyfu cynnyrch ei hun a’i defnyddio i goginio.

Clywn hefyd gan Kim a drodd at arddio yn ystod cyfnod anodd, a Naomi oedd ag obsesiwn am blanhigion tŷ.

Y cogydd Lisa Fearn sy’n ymuno efo Meinir Gwilym i drafod tyfu cynnyrch ei hun a’i ddefnyddio yn ei choginio. Mae hi hefyd yn trafod yr ysgol goginio a sut mae tyfu a choginio yn ddylanwad positif nid yn unig ar blant ifanc ond oedolion hefyd.

Cawn hefyd glywed gan Kim a drodd at arddio yn ystod cyfnod anodd yn ei bywyd. Ei llwyddiant mwyaf oedd tyfu blodau’r haul yn ei gardd yng Nghaernarfon a blwyddyn yma ei phrif ffocws fydd i dyfu mwy o flodau.

Naomi sy’n trafod sut ddaru ei chariad at dyfu cychwyn gydag obsesiwn am blanhigion tŷ a’r her mae hi wedi gosod i’w hun eleni o dyfu ei blodau priodas.

Meinir sy’n nodi’r jobsys fydd hi’n eu gwneud yn yr ardd ar ddiwedd Mawrth gan gynnwys hau hadau tomatos a chilli a phlannu bylbiau’r haf mewn potiau a’r borderi.

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

30 o funudau

Dan Sylw

  • .

Podlediad