Peredur Glyn yn addasu nofel ei daid, T. Glynne Davies
Peredur Glyn sydd yn sôn am addasu a diwygio nofel ei daid ar gyfer darllenwyr 2026.
I ddathlu canmlwyddiant ers geni'r bardd a'r llenor T Glynne Davies mae ei ŵyr, Peredur Glyn, wedi golygu argraffiad newydd o'i nofel boblogaidd.
Mae'r nofel 'Marged' wedi bod allan o brint ers ei chyhoeddi yn 1974 a bydd hefyd yn cael ei chyhoeddi yn ddigidol am y tro cyntaf.
Cafodd y nofelydd a'r darlledwr T Glynne Davies ei eni ar 12 Ionawr, 1926.
"Wrth ei bod hi'n ganmlwyddiant genedigaeth fy nhaid eleni, roedd y teulu yn teimlo y bydda'n gyfle gwych i ni drio cael Marged mewn print eto am y tro cyntaf ers dros hanner canrif," meddai Peredur.
Enillodd Peredur Glyn Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol 2025 am ei nofel 'Anfarwol'.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Beti a'i Phobol
![]()
35 mlynedd ers carcharu Alun Llwyd
Hyd: 02:31
![]()
Bywyd rhyngwladol Rhys Jones o'r Sarnau
Hyd: 03:03
![]()
'fel gweithio ar train set anferthol'
Hyd: 04:20





